'Tawelwch meddwl' o gael diffibriliwr i glwb pêl-droed mab
- Cyhoeddwyd
Mae pêl-droediwr ifanc o Fôn, sy'n byw â chyflwr ar ei galon, yn dweud fod rhodd o ddiffibriliwr i'w glwb lleol yn golygu ei fod yn gallu parhau i chwarae gan boeni llai.
Daeth i wybod yn ifanc fod ganddo gyflwr sy'n effeithio ar guriad ei galon, ac roedd yn rhaid cyfyngu ar faint yr oedd yn gallu chwarae ac ymarfer.
Ond wedi'r rhodd mae Harri, 14, yn dweud fod modd iddo chwarae gyda llai o bwysau, gyda'r diffibriliwr yno hefyd i helpu unrhyw un allai fod ei angen.
Dywedodd rheolwr y tîm y byddai'n hoffi gweld dyfais o'r fath i bob clwb, gan gyfeirio at chwaraewyr ar y lefel uchaf sydd wedi cael trafferthion calon.
'Gallu effeithio ar unrhyw un'
Roedd Harri'n ifanc iawn pan ddaeth i wybod fod ganddo Long QT Syndrome, sef cyflwr cynhenid sy'n effeithio ar guriad y galon.
Fe wnaeth y teulu, sy'n byw yng Ngaerwen, ond ddarganfod fod y cyflwr arnynt pan gafodd berthynas iddynt brawf ar ei chalon.
Dywedodd mam Harri, Llinos, wrth Cymru Fyw: "Mae gynnon ni'r cyflwr yn rhedeg yn ein teulu - dwi hefo fo a mae Harri hefo fo'n anffodus - felly mae'n bwysig ei gael o [y diffibriliwr].
"Mae problemau calon yn gallu effeithio ar unrhyw un.
"Wnaeth hogan fy chwaer gael ei diagnosio ychydig o flynyddoedd yn ôl, mae o'n r'wbath sy'n gallu rhedeg mewn teulu felly gaethon ni gyd ein testio.
"O'n i newydd ffeindio allan tra roeddwn yn disgwyl chwaer Harri. Gafodd hi ei geni a mae o arni hi hefyd."
O ran y pwysigrwydd o gael ddiffibriliwyr ar ochr y cae, ychwanegodd: "Mae'n bwysig anyway. Mae'n bwysig i unrhyw un.
"'Dan ni'n lwcus mewn ffordd bod ni'n gwybod fod y cyflwr ar Harri. Mae o ar feddyginiaeth ond mae gwybod fod y defib yna hefyd yn peace of mind.
"'Dan ni'n ddiolchgar iawn. O ran poen meddwl mae'n haws o wybod fod o yna."
'Isio' i'r hogyn gael chwarae'
Er ymdrechion blaenorol, roedd Clwb Pêl-droed Ieuenctid Bryn Rhosyr wedi methu â sicrhau diffibriliwr eu hunain, gydag angen arbennig am un symudol y gallent ei ddefnyddio o un gêm i'r llall.
Ond pan gafodd y cynghorydd lleol wybod am drafferthion y clwb, dywedodd y byddai'n edrych ar y broblem.
"'Dan ni wedi clywed am ddamweiniau yn digwydd i chwaraewyr yn y Premiership a chwaraewyr yn cael eu taro lawr hefo problemau calon ar y cae," meddai'r Cynghorydd Arfon Wyn.
"Oedd hi'n bwysig cael defib symudol - dim un yn sownd i'r wal ond un oedd ar ochr y cae... ond mi ffendion ni fod nhw'n bethau reit ddrud ac ymhell dros £1,000!"
Ond ar ôl dod i gyswllt gydag ysbyty plant, fe ddaeth i'r amlwg fod modd prynu un mewn cyflwr da.
Ychwanegodd: "Oeddwn yn teimlo, am 'mod i wedi clywed yn y gorffennol fod o'n beryg, a 'mod i isio i'r hogyn bach 'ma gael chwarae, fyswn yn buddsoddi mewn un.
"Mae 'na benefits i'r tîm i gyd, a hyd yn oed y tîm arall.
"Mae meddwl am hogia' ifanc yn syrthio bron yn farw, fel ddigwyddodd i Christian Eriksen, ac mae'n beth da fod pobl yn dod yn fwy ymwybodol."
'Mae pob clwb angen un'
Yn ôl Cymdeithas Bêl-droed Cymru maen nhw wedi bod yn weithgar yn y maes ers peth amser ac wedi cyflenwi diffibriliwyr i glybiau yn y gorffennol, ac yn parhau i wneud hynny.
Gyda'r gymdeithas yn gobeithio sicrhau diffibrilwyr parhaol yn y gymuned, ar ôl dysgu am sefyllfa Harri, maent hefyd wedi cyhoeddi partneriaeth gyda'r podlediad Socially Distant Sports Bar ac Achub Bywyd Cymru i osod mwy ohonyn nhw ar draws y wlad.
Mae chwaraewyr y timau cenedlaethol hefyd wedi ariannu teclynnau ar gyfer clybiau dros y blynyddoedd.
Ond yn ôl rheolwr Clwb Pêl-droed Ieuenctid Bryn Rhosyr, mi fyddai'n hoffi gweld mwy o glybiau gyda diffibriliwyr symudol er budd chwaraewyr, ond hefyd hyfforddwyr ac unrhyw gefnogwyr.
Dywedodd Martin Owen wrth Cymru Fyw: "Mae o'n fwy na handi i gael [y diffibriliwr], ar gyfer rhyw blentyn rili.
"Mae'r sport wedi cymryd lot o blant ifanc yn y blynyddoedd diwetha', a rheiny'n hogia ffit.
"'Dan ni wedi bod yn trio'n galed rŵan i gael un ers tair blynedd, ond bob tro yn cael stop drwy ddweud 'mae yna un yn yr ysgol' neu 'yn ymyl y siop'.
"Ond dydy o'n dda i ddim yn ymyl y siop pan mae o filltir i ffwrdd o'r cae, felly mae o'n r'wbath 'dan ni'n rili angen, mae pob clwb angen un fyswn i'n ddweud."
Mae'r diffibriliwr, sydd bellach yn berchen i'r clwb, yn un symudol ac yn gallu cael ei gludo i gemau cartref ac oddi cartref.
"'Dan ni'n medru mynd â fo i ganol le'm byd. Os fysa' 'na gêm ar ben Y Wyddfa, fysan ni'n gallu mynd â fo efo ni i rhywle!" meddai Mr Owen.
"Heb fod o yma 'dan ni'n gorfod tynnu Harri i ffwrdd yn fwy aml, restio fo os mae'n mynd yn boeth, ond mae'n dda am ddweud os mae'n poethi neu allan o wynt.
"'Dan ni i gyd yn dda am weithio hefo'n gilydd.
"'Dan ni ddim isio'i ddefnyddio ond 'dan ni'n gw'bod fod o yna... Mae Arfon wedi gwneud yn dda iawn i ni, chwarae teg."
'Mae fy mywyd yn eu dwylo nhw'
Dywedodd Harri, sydd fel arfer yn chwarae fel cefnwr chwith, ei fod yn tawelu ofnau cael offer o'r fath ar ochr y cae.
"Dwi'n mwynhau chwarae ond mae'n teimlo'n dda, rhag ofn i r'wbath ddigwydd, fod o'n mynd i fod yna.
"Y risg sy'n poeni pobl. Mae'n pressure ar y coaches hefyd, ddim jyst fi, felly jyst mater o gymryd precautions gan fod 'na bwysau arnyn nhw hefyd.
"Mae fy mywyd yn eu dwylo nhw, ond mae o hefyd yna rhag ofn i r'wbath ddigwydd i rywun.
"Does 'na ddim wedi digwydd i mi eto, gobeithio wneith na ddim, ond mae'n dda gwybod fod o yna."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2021
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2021