Y ganolfan yn Abertawe sy’n achubiaeth i bobl â dementia
- Cyhoeddwyd
Mae menyw sy'n dweud ei bod "ar goll yn llwyr" ar ôl derbyn diagnosis o ddementia cynnar yn dweud bod cael ei chyflogi gan ganolfan ddementia yn Abertawe wedi "newid ei bywyd".
Pan gafodd Dawn Davies, 62, o Abertawe ddiagnosis y llynedd, roedd hi'n gweld hi'n anodd i adael y tŷ ac i wneud pethau "normal."
“Fe ddes i ddeall bod dementia gen i ar ôl sylwad bach go haerllug gan fy mhartner,” meddai Dawn.
"Fe ofynnodd gwestiwn i mi ac, ar y pryd, fe atebais i fel ro’n i’n gwneud yn arferol: 'O, dwi wedi cysgu ers hynny, dwi ddim yn gwybod', ac fe ddywedodd wrthai, ‘chi'n colli eich marblis'.
"Y diwrnod wedyn, gofynnais iddo beth oedd yn ei olygu wrth hynny a dywedodd ei fod wedi sylwi fy mod yn mynd ychydig yn anghofus ac efallai y dyliwn i fynd i weld y meddyg, felly fe wrandewais."
Dywed Dawn iddi gael diagnosis o ddementia cynnar, ar ôl ymweld â'i meddyg teulu a chael cyfres o brofion a sganiau.
“Teimlo bod fy mywyd ar ben”
“Roeddwn i’n teimlo’n ddiffrwyth a dideimlad. Roedd yn sioc enfawr ac ro’n i ar goll.
"O ran fy nheulu, pan gefais i'r diagnosis, roeddwn i'n eu trin yn ofnadwy. Roeddwn i'n dipyn o hunllef.
“Roeddwn i’n teimlo bod fy mywyd ar ben oherwydd yr unig ddementia ro’n i wedi’i brofi oedd fy mam â gafodd ddementia fasgwlaidd, ac roeddwn i’n meddwl fy mod i’n mynd i fynd yr un ffordd.
"Doeddwn i ddim eisiau bwyta. Doeddwn i ddim eisiau mynd allan. Doeddwn i ddim eisiau cael cawod, ddim eisiau gwneud dim byd. Roeddwn i'n meddwl bod fy mywyd ar ben. Roeddwn ar goll yn llwyr.
- Cyhoeddwyd15 Mai 2023
- Cyhoeddwyd25 Ionawr 2022
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2023
Ar ôl sylwi ar yr Hyb Dementia wrth gerdded trwy ganolfan siopa'r Cwadrant yn Abertawe, dywedodd Dawn i’w gŵr ei hann'og i fynd i mewn.
"Cefais fy nghyfarfod gan ddynes hyfryd. Gofynnodd i mi beth oedd yn digwydd a dywedais wrthi am fy niagnosis a dywedodd 'peidiwch â phoeni am y peth'.
"Felly fe wnaeth hynny fy ngwneud i ychydig yn grac, ond yna fe ddywedodd hi 'Mae gen i fe hefyd'. Cafodd hi ddiagnosis 10 mlynedd yn ôl.
“Ces i gymaint o sioc fe ddwedais i ‘Wel, ti ddim yn edrych fel dy fod ti gyda fe’ ac wedyn ro’n i’n teimlo mor dwp fy mod i wedi dweud hynny.
“Roeddwn i wir eisiau cymryd y geiriau yn ôl ac fe chwarddodd hi a dweud ‘Wel, sut rydw i fod i edrych?’
“Ac fe wnaeth i mi feddwl yn galed oherwydd ei fod yn salwch anweledig."
Ar ôl yr ymweliad cychwynnol, penderfynodd Dawn i ddechrau gwirfoddoli yn yr Hyb Dementia.
Peth amser wedyn, cynigiwyd swydd iddi fel rhan o gynllun i helpu pobl gael sgyrsiau un-wrth-un gyda rhywun arall sy’n byw gyda dementia.
“Pan gefais i’r diagnosis, roeddwn i’n meddwl nad oedd neb yn mynd i gyflogi fi.
“Does neb yn mynd i wastraffu amser, hyfforddiant, arian, a phopeth pan na allwn i ar y pryd ddweud yn realistig, gallaf roi pum mlynedd i chi, gallaf roi wyth mlynedd i chi neu gallaf roi pymtheg mlynedd i chi.
“Roeddwn i’n lwcus iawn pan ddes i yma. Mae wedi newid fy mywyd.”
'Ni'n treial helpu â phopeth'
Sefydlwyd y hwb gan Hannah Davies.
Sylwodd fod diffyg cefnogaeth i bobl sy'n byw gyda dementia ar ôl iddi ddechrau gofalu am ei mam oedd ag Alzheimers.
“Roeddwn i’n eistedd i mewn ar wahanol gyfarfodydd tra’n gweithio’n llawn amser fel athrawes ac un amser cinio, roedden ni’n cael cyfarfodydd gyda’r bwrdd iechyd, yr awdurdod lleol a nifer o elusennau eraill ac roedd pobl yn dweud yn y cyfarfod bod angen lleoliad lle gall pobl alw i mewn i gael cyngor a gwybodaeth.
“Roedd y sefydliadau eraill yn ei chael hi’n anodd iawn i allu cael cyllid neu gael staff i’w wneud, felly fe wnes i wirfoddoli, a dweud y byddwn ni’n ei redeg fel grŵp o wirfoddolwyr.
“O fewn tair wythnos, daethom o hyd i’r adeilad hwn yn y Cwadrant, sy’n berffaith i ni gyda’r holl ymwelwyr sy'n mynd heibio.
"Wedyn fe wnaethon ni lwyddo i gael contract misol ar y safle ac fe wnaethon ni agor ein drysau, saith diwrnod yr wythnos 11 tan 3, fel grŵp o wirfoddolwyr."
Mae’r hwb yn rhoi cyngor i tua 200 o bobl bob mis, ac mae Hannah bellach yn gweithio’n llawn amser fel arweinydd y prosiect.
“’Dyw llawer o bobl ddim yn gwybod at bwy i droi," meddai.
"Mae rhai pobl eisiau dechrau gyda’r diagnosis, felly gallant ddod yma a gwneud apwyntiad ar gyfer cyfarfod cyn-asesiad gyda staff y bwrdd iechyd neu mae pobol eisiau siarad am sut i gefnogi aelod o'r teulu sydd â dementia.
"Felly ni'n treial helpu â phopeth."
'Model arbennig iawn'
Mae'n bwnc sy'n agos at galon Aelod o’r Senedd lleol. Cafodd tad, Sioned Williams, AS De Orllewin Cymru, Alzheimer’s ac mae’n teimlo y byddai canolfan o’r fath wedi bod o fudd iddyn nhw fel teulu.
“Byddai rhywle fel hyn wedi bod yn ddelfrydol ar gyfer fy mam,” meddai.
“Mae’n rhaid i chi fynd i siopa, a ffeindio ffordd i fynd i siopa yn enwedig yn y dyddiau cynnar a dwi’n gwybod bydde hi wedi gallu manteisio ar gael dod fan hyn mewn ffordd ffwrdd â hi, dim gorfod gwneud apwyntiad a chael clust i wrando a chael gwybod am bopeth sydd mas ‘na i gefnogi a dwi’n gwybod byddai hynny wedi cael ei werthfawrogi’n fawr iawn.”
Ychwanegodd yr hoffai weld y syniad yn cael ei gyflwyno mewn canolfannau siopa ar draws Cymru.
"Dwi’n meddwl bod e’n holl bwysig fod canolfanne gwybodaeth a chyngor fel hyn ynghanol lle mae pobl, ynghanol y ganolfan siopa fan hyn.
"Mae e’n hawdd i alw mewn. Does dim unrhyw fath o ymdrech yn gorfod bod o ran ceisio mynd at gymorth a chyngor - mae’r cymorth a’r cyngor wedi dod at y bobl.
"Dwi’n meddwl fod e’n fodel arbennig iawn ac fe fyddwn i’n hoffi gweld rhywbeth fel hyn ar gael ymhob canol tre’ yng Nghymru."
Mae'r ganolfan wedi sicrhau y gallan nhw barhau yn y Cwadrant am ddwy flynedd arall a'r gobaith yw y byddant yn helpu nifer o bobl eraill fel Dawn i fyd gwaith.