Rhys ab Owen wedi ei ddiarddel gan Blaid Cymru

Rhys ab Owen
  • Cyhoeddwyd

Mae Plaid Cymru wedi diarddel Aelod o'r Senedd sydd wedi ei gyhuddo o ymddwyn mewn modd amhriodol ar noson allan.

Cafodd Rhys ab Owen, sy'n cynrychioli rhanbarth Canol De Cymru, ei wahardd o'r Senedd am chwe wythnos yn gynharach eleni wedi i adroddiad ddod i'r casgliad ei fod wedi cyffwrdd yn amhriodol a rhegi ar ddwy ddynes.

Dywedodd Plaid Cymru fod aelodaeth Mr ab Owen wedi cael ei therfynu yn dilyn proses ddisgyblu fewnol.

Mae Mr ab Owen wedi dweud y byddai'n parchu'r penderfyniad. Mae o wedi ymddiheuro'n "ddiamod" am ei ymddygiad yn y gorffennol.

Yn ei adroddiad, dywedodd y comisiynydd safonau, Douglas Bain fod Mr ab Owen wedi cyffwrdd dwy ddynes yn amhriodol yn ystod noson allan gyda staff Plaid Cymru ac ASau eraill ym Mehefin 2021.

Dywedodd Mr Bain nad oedd Mr ab Owen wedi dangos unrhyw edifeirwch am y digwyddiad.

Yn ddiweddarach, fe wnaeth o gydnabod ei fod wedi "ymddwyn yn wael" ac fe ymddiheurodd.

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Yn dilyn cyhoeddiad yr adroddiad gan Bwyllgor Safonau'r Senedd, mae Plaid Cymru wedi cynnal proses ddisgyblu fewnol.

"O ganlyniad i'r broses yma, mae ei aelodaeth wedi ei derfynu, a ni fydd modd iddo wneud cais i ail-ymuno â'r blaid am o leiaf ddwy flynedd."

Roedd Mr ab Owen eisoes wedi cael ei wahardd o grŵp y blaid yn y Senedd nol ym mis Tachwedd 2022 - oedd yn golygu ei fod yn aelod annibynnol.

Cafodd ei wahardd gan y blaid ei hun ar ôl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi yn llawn.

Yn ogystal, cafodd ei wahardd o'r Senedd am 42 diwrnod - y gosb fwyaf i unrhyw Aelod o'r Senedd ei hwynebu erioed.

'Parchu'r penderfyniad'

Dywedodd Mr ab Owen mewn datganiad: "Mae'r penderfyniad yma yn derfyn ar broses hir, fydd gobeithio yn golygu bod modd dod â'r mater yma i ben.

"Byddaf yn parchu'r penderfyniad, fel bod modd i mi a fy nheulu edrych tua'r dyfodol.

"Fel yr wyf wedi ei wneud o'r dechrau, byddaf yn parhau i weithio'n galed ar ran pobl fy etholaeth. Dwi'n falch o gael y cyfle i wneud hynny, ac rwyf wedi ymroi yn llwyr i wasanaethu pobl Canol De Cymru.

"Fy ngwraig a fy mhlant yw fy mlaenoriaeth, a hoffwn ddiolch iddyn nhw am eu cariad a'u cefnogaeth."