Gwaharddiad Rhys ab Owen o'r Senedd yn dod i ben

Rhys ab Owen
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Rhys ab Owen yn cael dychwelyd i'r Senedd dydd Mercher ar ôl cael ei wahardd am chwe wythnos

  • Cyhoeddwyd

Bydd aelod o’r Senedd, a gafodd ei wahardd am chwe wythnos am ei ymddygiad, yn cael dychwelyd i’r Senedd ddydd Mercher.

Roedd ymchwiliad gan y comisiynydd safonau wedi canfod bod Rhys ab Owen wedi cyffwrdd yn amhriodol a rhegi ar ddwy ddynes tra'n feddw ar noson allan.

Cytunodd y Senedd yn unfrydol i'w wahardd am 42 diwrnod - y gosb fwyaf i unrhyw Aelod o'r Senedd ei hwynebu.

Mewn datganiad i'r Senedd cyn ei waharddiad ym mis Mawrth, dywedodd Mr ab Owen bod ei "ymddygiad ar y noson dan sylw yn bell iawn o gyrraedd y safon a ddisgwylir gan swyddog cyhoeddus, ac am hynny rwy'n ymddiheuro'n ddiamod".

"Rwy'n derbyn cyfrifoldeb am fy ymddygiad a chanlyniadau'r ymddygiad hwnnw," meddai.

Disgrifiad,

Galw am ailedrych ar y drefn o ddelio â chwynion yn y Senedd - adroddiad Newyddion S4C o fis Mawrth

Ond mae adroddiad pwyllgor safonau'r Senedd yn dweud ei fod yn gwadu cyffwrdd yn amhriodol â'r merched dan sylw.

Mae Aelod Seneddol Canol De Cymru yn dal i fod wedi'i wahardd o Blaid Cymru tra bod ymchwiliad mewnol yn cael ei gynnal.

Roedd ymchwiliad y comisiynydd safonau, Douglas Bain, wedi canfod bod Mr ab Owen wedi rhegi ar yr achwynydd ddwywaith ar y stryd ac wedi cyffwrdd â hi'n amhriodol drwy roi ei fraich o amgylch ei chanol a thynnu ei chorff yn agos ato.

Yn ddiweddarach, mewn tacsi, mae'r adroddiad yn dweud bod yr AS wedi gwasgu clun yr achwynydd yn "galed â'i law".

Dywedodd Mr Bain nad oedd Rhys ab Owen wedi dangos "unrhyw edifeirwch" am y digwyddiadau ym mis Mehefin 2021.

Fe gafodd yr ymchwiliad ei ystyried gan bwyllgor safonau'r Senedd, wnaeth argymell atal yr aelod am 42 diwrnod.

Pe bai Rhys ab Owen wedi bod yn Aelod Seneddol byddai wedi wynebu deiseb adalw, a allai arwain at isetholiad.

Nid oes proses o’r fath yng Nghymru ar hyn o bryd.

Yn siarad ar bodlediad Walescast y BBC, dywedodd y Llywydd Elin Jones bod yna gonsensws ar draws y pleidiau gwleidyddol bod angen system adalw ar gyfer y dyfodol.

“Mae gwleidyddion, aelodau etholedig, yn aml yn gadael y bobl a bleidleisiodd drostynt i lawr, ac mae angen i’r bobl a bleidleisiodd drostyn nhw allu mynegi barn na ddylent barhau yn eu swydd," meddai.

Ychwanegodd y prif weinidog Vaughan Gething ddydd Mawrth ei fod yntau eisiau gweld y Senedd yn pasio deddfwriaeth o'r fath yn y dyfodol agos.

Ond mae system etholiadol y Senedd yn cymhlethu pethau.

O dan y system newydd, sydd i’w chyflwyno yn 2026, ni fydd yna unrhyw isetholiadau gan fod pob gwleidydd yn cael eu hethol o restrau'r pleidiau.

Pryderon am y system gwynion

Mae'r pwyllgor safonau nawr yn edrych ar sut y byddai system o'r fath yn gweithio yn y Senedd.

Mae’r ymchwiliad i ymddygiad Rhys ab Owen hefyd wedi amlygu pryderon am y system gwynion yn y Senedd.

Tra bo Mr ab Owen yn derbyn y "gosb a roddwyd i mi", dywedodd bod ganddo amheuon am y broses, gan gwyno am faint o amser gymrodd hi a diffyg tryloywder.

Mae Elin Jones wedi gwadu honiadau gan y cyn-aelod Plaid Cymru Nerys Evans, nad yw'r Senedd yn cymryd honiadau o aflonyddu o ddifri'.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y pwyllgor safonau yn edrych a oes angen gwneud newidiadau i'r system gwynion, meddai Elin Jones

Dywedodd y Llywydd bod y gosb a roddwyd i Mr ab Owen yn dangos eu bod yn cymryd cwynion o ddifrif.

Ond mae hi'n dweud y bydd y pwyllgor safonau hefyd yn edrych a oes angen gwneud newidiadau i'r system gwynion.

"Mae angen i ni feddwl ynglŷn â sut mae sicrhau system sy'n gymesur a rhywbeth sy’n adlewyrchu difrifoldeb rhai o’r cyhuddiadau y gellir eu gwneud yn erbyn unigolion," meddai Ms Jones.

"Mae gennym ni gyhuddiadau difrifol yn erbyn aelodau ac mae angen i ni gael proses safonau sy'n adlewyrchu'n llawn ac sy'n gallu delio â rheini yn amserol ac mewn modd priodol."