Ymgyrch i brynu hen lyfrgell 'Carnegie' Deiniolen
- Cyhoeddwyd
Ar y wyneb mae'n debyg mai go brin byddai'r cysylltiadau rhwng un o brif ddinasoedd y byd ac un o bentrefi chwarel Arfon.
Ond diolch i un dyn, a rannodd y mwyafrif helaeth o'i ffortiwn er budd elusennau ac addysg, mae rhan o'r 'Afal Mawr' yn parhau yn amlwg ar stryd fawr Deiniolen.
Mae rhai o fawrion y byd adloniant wedi perfformio yn Carnegie Hall, Efrog Newydd ers ei agor yn 1891.
Ond roedd y dyn a adeiladodd y neuadd honno, Andrew Carnegie, hefyd yn gyfrifol am gyllido cyfres o lyfrgelloedd ac adnoddau addysgiadol eraill ar draws y byd.
Un o'r ardaloedd i elwa oedd Deiniolen, a dderbyniodd £1,500 er mwyn agor llyfrgell yn 1913.
Roedd y diwydiant llechi yn gyflogwr pwysig yma tan cau Chwarel Dinorwig yn 1969.
Mae defnydd yr adeilad fel llyfrgell wedi hen ddod i ben, ond mae'n fwriad gan grŵp cymunedol i'w brynu ac maen nhw'n chwilio am £400,000 er mwyn cyflawni'r gwaith.
- Cyhoeddwyd9 Mai
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2021
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd8 Medi 2020
'Mae'n bentref clos'
Rhwng 1883 ac 1929, cafodd 2,509 'llyfrgell Carnegie' eu hagor ledled y byd ac roedd 14 ohonyn nhw yng Nghymru.
Er mwyn i gymuned dderbyn llyfrgell o'r fath, roedd rhaid iddi ddangos ymrwymiad a chefnogaeth ariannol.
Yn ôl Lyndsey Vaughan Pleming, Cadeirydd Pwyllgor Pentra' Deiniolen, y gobaith yw manteisio ar y statws safle UNESCO a enillwyd gan dirwedd chwarelyddol y gogledd-orllewin dair blynedd yn ôl.
"I gyrraedd chwarel Dinorwig 'dach chi'n gorfod dreifio drwy Deiniolen ond mae Deiniolen yn haeddlu lot gwell na hynny," meddai.
"Mae Deiniolen yn bentref unigryw. Mae'n bentref clos, mae 'na gymaint i'w gynnig yng nghanol y pentra' ond wir 'dan ni angen cartra'.
"'Dan ni angen lle i'w ddatblygu a gwneud Deiniolen yn leoliad mae pobl sydd am weld chwarel Dinorwig isio stopio yma, datblygu twristiaeth, gweld pobl yn mwynhau'r ardal leol yn ei gyfanrwydd."
Gobaith y grŵp ydy prynu'r hen lyfrgell er budd y gymuned, ac mae adroddiad dichonoldeb wedi ei gwblhau diolch i arian cronfa Cist Cyngor Gwynedd
Mae cais cynllunio hefyd wedi ei gyflwyno i'r awdurdod.
Ond gyda'r disgwyl byddai'n costio tua £400,000 i brynu'r adeilad a'i drosi i ddefnydd cymunedol, maen nhw rŵan yn chwilio am arian grant.
Gyda'r pwyllgor wedi ei ffurfio ers 2017, ychwangodd Lyndsey Pleming mai'r nod oedd chwilio am leoliad mwy ar gyfer digwyddiadau torfol.
"Does 'na ddim hwb cymunedol sy'n nwylo'r gymuned ar hyn o bryd," meddai.
"Mae gynnon ni hybiau bychain i ddal tua 30 o bobl ond ein gweledigaeth ydi dod â'r gymuned, sydd bron yn 2,000 o bobl, ynghyd i gyngherddau a gweithgareddau.
"Yr hen lyfrgell yma - dyma oedd canolbwynt y gymuned, dyma lle oedd pobl yn dod i ddysgu ac i ddatblgu sgiliau.
"Ein gweledigaeth ni ydy dod â'r adeilad pwysig yma yn ôl i ddwylo'r gymuned."
"Mae 'na bentref arbennig yma"
Mae'r ganolfan yn gartref i Glwb Snwcer Deiniolen, ond yn ôl Pwyllgor Pentra' Deiniolen maen nhw'n gweithio gyda'r clwb fel fod modd i'r ddau barhau i weithio mewn partneriaeth.
Mae Richard Jones, neu 'Jonjo', yn aelod gwreiddiol o Bwyllgor Pentra' Deiniolen ac eisiau gweld y clwb snwcer yn parhau i ffynu.
"Mae 'na 150 o blant yn yr ysgol yma ond does 'na nunlla mawr i gynnal cyngherddau, youth club neu beth bynnag.
"Os ydan ni'n llwyddiannus yn cael yr adeilad yma bydd y clwb snwcer yn mynd am beth amser eto - mae'n mynd ers 100 mlynedd rŵan."
Yn ôl Nesta a Tony Elliott, mi fyddai cael cyfleuster o'r fath yn y pentref yn helpu sefydliadau sydd eisoes yno.
"Does 'na ddim Steddfod wedi ei chynnal yn y pentra' ers y pandemig a 'dan ni wedi penderfynu ei atgyfodi flwyddyn nesa'," meddai Nesta.
"Ond wrth gwrs mae angen lle i'w chynnal hi a does gynnon ni nunlla wir fysa'n ddigon mawr, felly mae'n hynod bwysig."
Ychwanegodd Tony: "I mi mae 'na elfen o gydraddoldeb yma i gael yr un cyfleustarau yma â phentrefi eraill yn y cyffuniau.
"Dwi'n meddwl fod 'na neuadd o rhyw fath ymhob pentra yn y dyffryn felly pam gadael ni allan?
"Mae 'na bentref arbennig yma, pobl arbennig yma, ond dydyn nhw ddim yn cael y cyfle i ddangos eu doniau ac mae hynny'n drasiedi mewn ffordd."