Diffyg prydau ysgol dros y gwyliau 'ddim yn deg'

Hwb cymunedol Twyn
  • Cyhoeddwyd

Mae rhieni ac elusennau wedi ymateb yn chwyrn i'r penderfyniad na fydd prydau ysgol yn cael eu hymestyn dros wyliau'r ysgol.

Cadarnhaodd y Prif Weinidog Mark Drakeford yr wythnos hon nad oes arian ar ôl i redeg y cynllun, oedd wedi dechrau adeg y pandemig.

Mae Cyngor Sir Caerffili yn ariannu'r cynllun eu hunain ar ôl cael pobl yn eu ffonio "yn llefain".

Yn ôl Llywodraeth Cymru doedd y cynllun ddim yn un parhaol, ac fe fydd mathau eraill o gefnogaeth ar gael yn ystod y gwyliau ysgol.

'Ydw i'n prynu'r bwyd ma ta'r nappies?'

Dywedodd mam o Wynedd ei fod yn gyfnod heriol i rieni, gyda chyflogau a budd-daliadau’n aros yn eu hunfan tra bod costau’n cynyddu.

Yn ôl Annie Maycox o'r Groeslon ger Caernarfon, mae llawer yn yr un sefyllfa â hi ac yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd.

"Dwi methu deall bod 'na bres iddyn nhw wario ar wahanol bethau sydd ddim mor bwysig â hyn," meddai ar raglen Dros Frecwast Radio Cymru.

"'Da ni'n siarad rŵan am bobl sydd ddim â digon o bres i fwydo'u plant.

"Ma' rhai pobl yn meddwl, ydw i'n prynu'r bwyd 'ma ta'r nappies?

"Dydi o ddim yn deg - bod 'na bres i wastraffu mewn rhai llefydd ond dim lle mae o'n cyfri."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Annie Maycox ei bod hi'n "anodd bod yn rhiant dyddiau yma"

Ychwanegodd: "Dwi ddim yn deall pam fedrith nhw ddim cario 'mlaen hefo fo [cinio ysgol am ddim].

"A'r peth ydy, dwi'n meddwl bod hyn yn eitha' pwysig achos mae hyn yn rhoi bwyd yn moliau plant bach.

"Mae cyflogau a benefits a bob dim yn aros yr un peth, ond mae costau byw yn mynd yn anfferth dros bob man - os ydio'n egni, os ydio'n fwyd - dydi'r pres ddim yn mynd i fyny hefo sut i ni'n byw.

"Mae'n anodd bod yn rhiant dyddiau yma, poeni am bres, poeni am y bwyd, poeni os wyt ti'n 'neud digon i dy blant a chadw eu meddyliau bach nhw'n brysur."

'Rhaid torri 'nôl nawr'

I Julia Evans, mam sengl o Ferthyr Tudful, mae'r argyfwng costau byw ar drothwy gwyliau'r haf yn gyfnod "stressful iawn".

"Bwydo fy nhri o blant yw fy mlaenoriaeth i," meddai.

"Dyna'r pryder mwya' achos ma' prisie bwyd yn mynd lan a lan, a nawr bod yr arian wedi dod i ben, mae 'na effaith fawr."

Roedd hi'n derbyn y talebau prydau ysgol am ddim yn ystod y gwyliau, cyn i’r cynllun ddod i ben.

Mae'n dweud y bydd colli'r arian hwnnw yn ergyd iddyn nhw fel teulu yr haf hwn.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Julia Evans y bydd yn rhaid iddi hi a'i theulu wneud "llai o weithgareddau" dros y gwyliau haf eleni

"Fydden ni fel arfer yn mynd mas gan fwya' yn ystod y gwylie," meddai.

"Ond bydd rhaid i ni dorri 'nôl yn fawr ar hynny nawr."

Mae elusennau a gwleidyddion wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio ag ymestyn eu cynllun talebau prydau bwyd dros y gwyliau haf.

Cafodd y cynllun ei gyflwyno yn 2020 er mwyn rhoi cefnogaeth i deuluoedd bregus yn ystod pandemig Covid-19.

Ar y pryd cafodd hynny ganmoliaeth gan un o sêr tîm pêl-droed Lloegr, Marcus Rashford, sy'n ymgyrchu ar faterion yn ymwneud â thlodi plant.

'Gorfod cael tost i swper'

Mae plant Julia Evans yn mynd i glwb ieuenctid yn Hwb Cymunedol Twyn ym Merthyr Tudful.

Yn ôl cydlynydd yr hwb, Louise Goodman, mae rhwng 20 a 30 o blant yn dod i'r sesiynau.

Gyda'r gwyliau haf ar y gorwel, mae hi'n gwybod y pwysau sydd ar rieni yn ystod y chwe wythnos hynny.

"Mae e fod i fod am gael hwyl, ond sut allith e fod pan 'sdim arian i wneud hynny?" meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Lousie Goodman wedi gorfod torri yn ôl ar faint mae hi'n ei wario ar fwydo ei theulu

Ychwanegodd y fam i bedwar ei bod hi a'i gŵr yn aml yn "bwyta tost i swper achos bod chwech ohonon ni".

"Ers yr argyfwng costau byw, 'sa i 'di gallu fforddio i fwydo pawb yr un peth," meddai.

Mae'r gwyliau haf yn rhoi pwysau ychwanegol, meddai.

"Does dim arian dros ben, felly 'sdim posib cael gwyliau.

"Ni’n rhedeg peth tripiau am ddim o fan hyn, felly bydda i'n cymryd mantais o'r rheiny gyda fy mhlant fy hunan."

Hanner yn poeni am gostau

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf, mae nifer y plant 5-15 oed sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim yng Nghymru wedi cyrraedd ei lefel uchaf.

Mae Achub y Plant Cymru yn un o'r elusennau sydd wedi beirniadu penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio ag ymestyn y cynllun prydau ysgol am ddim yn ystod yr haf.

Maen nhw'n galw ar y llywodraeth i ailystyried.

"Yr hyn 'dan ni'n glywed ydy bod y cyhoeddiad wedi cael ei wneud ar yr unfed awr ar ddeg mewn ffordd, yn hwyr ym Mehefin pan oedd 'mond ychydig wythnosau ar ôl cyn i'r ysgolion gau," meddai Eurgain Haf o'r elusen.

"Doedd hynny ddim yn gadael digon o gyfle i rieni, yn enwedig rhieni ar incwm isel, i gynilo ar gyfer y cyfnod drud yma sy'n mynd i fod dros yr haf."

Disgrifiad o’r llun,

Pryder Eurgain Haf yw bod y nifer sy'n poeni am gostau'r gwyliau haf "yn mynd i gynyddu"

Awgrymodd arolwg diweddar gan Achub y Plant bod traean o'r rhai gafodd eu holi yng Nghymru'n gorfod gwneud penderfyniadau anodd, am fwydo'u hunain neu eu plant.

O'r 200 gafodd eu holi, roedd bron i hanner (48%) yn poeni na fydden nhw'n gallu rhoi bwyd maethlon i’w plant dros y gwyliau ysgol.

Caerffili ar flaen y gad

Cyngor Sir Caerffili yw'r unig awdurdod lleol sydd wedi penderfynu ariannu'r cynllun o'u coffrau eu hunain dros yr haf.

Bydd y penderfyniad yn costio tua £1m o'u harian wrth gefn, ac mae disgwyl i tua 7,500 o blant y sir elwa.

Yn ôl eu harweinydd, y Cynghorydd Sean Morgan, maen nhw wedi "ymrwymo i leihau'r bwlch anghyfiawnder iechyd".

"Rydych chi'n gorfod rhoi'r dechrau gorau i fywyd plant, ac mae'r addewid yma'n rhan o addewid Caerffili i wneud y pethau hyn," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Sean Morgan fod angen "rhoi'r dechrau gorau" i blant y sir

Pan ddaeth i’r amlwg yn wreiddiol nad oedd y cynllun talebau yn rhedeg dros yr haf, dywedodd Rhiannon Rees, o adran arlwyo’r cyngor, eu bod nhw wedi cael galwadau gan bobl "yn llefain".

"Doedden nhw ddim yn gwybod fel maen nhw am ymdopi yn ystod y gwyliau chwech wythnos, achos mae rhaid iddyn nhw brynu mwy o fwyd i'r plant," meddai.

"Mae’n upsetting iawn i weld hwn, a nagyn ni wedi bod mewn sefyllfa i ddweud bod ni'n gallu helpu.

"Ond nawr mae pawb yn y tîm yn hapus bod ni'n gallu dweud wrthyn nhw nawr bod ni mewn sefyllfa i roi'r arian i nhw, a bod nhw yn mynd i allu rhoi bwyd i'w plant."

Diwedd ar y cynllun

Mae nifer fechan o awdurdodau lleol eraill yn ystyried beth arall i'w wneud yn sgil colli’r cynllun talebau.

Bydd cynllun Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Bwyd a Hwyl, ar gael ym mhob sir yn ystod y gwyliau.

Mae'r cynllun, sydd am ddim i deuluoedd, yn cael ei gynnig mewn nifer o ysgolion gyda'r arlwy yn amrywio o ardal i ardal.

Mae digwyddiadau am ddim i rieni yn bwysig iawn yn ôl Vikki Alexander, swyddog Ti a Fi Caerdydd.

"'Dan ni yma jyst i hyfforddi’r Gymraeg ac i roi rhywbeth neis i rieni allu dod i fwynhau," meddai.

"Os mae hwnna’n ddrud, fel mae pethau yn y Gymraeg yn gallu bod, mae e'n rhoi pobl off a ni ddim isie hwnna."

Roedd Savanna Jones o Gaerdydd wedi dod i sesiwn gyda'i mab bach, ac yn gweld bod costau'n cynyddu iddyn nhw fel teulu.

"'Den ni 'di bod yn weanio Noa nawr, o ran y ffaith bod e'n bwyta mwy, o ran y ffaith bo' ni'n trio cynnig mathau o fwydydd gwahanol, iachus hefyd," meddai.

"Ac ma' hwnna 'di bod yn rhywbeth 'den ni wirioneddol 'di gweld o ran costau yn codi."

Yn ôl Llywodraeth Cymru, roedd ymestyn prydau ysgol am ddim yn y gwyliau "yn ymyrraeth argyfwng gyda therfyn amser", mewn ymateb i’r pandemig.

"Yn dilyn sawl estyniad, fe gadarnhaon ym mis Mawrth y byddem yn ei ariannu tan ddiwedd y gwyliau hanner tymor ym mis Mai," meddai llefarydd.

"Yr haf hwn, bydd ystod eang o brosiectau gwyliau ar gael ar draws Cymru, gan gynnwys y cynllun Bwyd a Hwyl, ry'n ni'n ei ariannu, ac a fydd ar gael ym mhob un o'r 22 awdurdod lleol am y tro cyntaf."