Cynnwrf wrth groesawu pêl-droed rhyngwladol nôl i'r gogledd

Cymru v Trinidad, 2019 Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gêm yn erbyn Trinidad a Tobago yn 2019 oedd y tro diwethaf i dîm dynion Cymru ymweld â'r gogledd

  • Cyhoeddwyd

Mi fydd 'na awyrgylch drydanol ar y Cae Ras yn Wrecsam nos Fercher wrth i dîm pêl-droed dynion Cymru chwarae am y tro cyntaf yng ngogledd Cymru ers 2019.

Gibraltar ydy’r gwrthwynebwyr mewn gêm gyfeillgar wrth i dîm Robert Page baratoi i wynebu Croatia mewn gêm gystadleuol nos Sul.

Cyrraedd Euro 2024 yw'r nod o hyd, ond bydd rhaid ceisio gwneud hynny heb chwaraewyr allweddol fel Aaron Ramsey a Brennan Johnson.

Ond mae'r awch yn y gogledd i weld rhai o sêr pêl-droed y genedl mor gryf ag erioed.

Pedair blynedd yn ôl oedd y tro diwethaf i Gymru chware yn Wrecsam, ac mae cefnogwyr y gogledd wrth eu boddau o gael y cyfle i weld y tîm yn chware ar eu stepan drws yn hytrach na gorfod teithio oriau i Gaerdydd.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae llwyddiant y clwb pêl-droed wedi ysgogi llawer o gynnwrf yn y ddinas newydd

Ymhlith y dorf yn Wrecsam bydd nifer o ddisgyblion Ysgol Godre’r Berwyn yn Y Bala.

"Dwi’n edrych ymlaen i'r gêm yn Wrecsam," medd Efan.

"Dwi’n meddwl bod o’n bwysig bod ni’n cael gemau yng ngogledd Cymru ac yn de Cymru achos de ni’n un wlad a dwi’n meddwl bod pawb yn anghofio hynny weithiau a bod ni gyd angen siawns i fynd i wylio’r gemau yma."

Disgrifiad,

Barn disgyblion Ysgol Godre'r Berwyn y Bala am y gêm yn Wrecsam

Fe ddywedodd Nel, a fydd yn gwylio Cymru am y tro cyntaf: "Dwi’n meddwl bod o’n bwysig iawn i ni gael y gêm yn Wrecsam achos mae rhai pobl yn methu cael yr amser i fynd i lawr i Gaerdydd a dwi 'rioed wedi bod mewn gêm o’r blaen.

"Gan fod o’n agosach dwi’n meddwl bod o’n haws i ni fynd a mae’n rhoi cyfle i bawb allu mynd."

'Mwy o arian i fusnesau lleol'

Yn ninas Wrecsam ei hun mae 'na hefyd gyffro mawr bod pêl-droed rhyngwladol yn dychwelyd.

Oherwydd llwyddiant CPD Wrecsam mae'r ddinas wedi cael sylw mawr ac mae hyn, medd pobl fusnes lleol, wedi rhoi hwb mawr i’r ardal mewn mwy nag un ffordd.

Mae Vaughan Schofield yn ddyn busnes yn Wrecsam, yn gwerthu a gosod tai.

Dywedodd ei fod yn "falch ofnadwy" ac mai "cartref ysbrydol" pêl-droed Cymru ydy Wrecsam.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Vaughan Schofield yn edrych ymlaen at yr achlysur

"Mae’n amlwg bellach bod na newid wedi digwydd yn Wrecsam… mae mwy o bobl yn tyrru yma, yn enwedig yn ystod y penwythnos ond hefyd ganol yr wythnos.

"Mae 'na lawer o bobl o Ogledd America, yr Unol Daleithau yn enwedig a hefyd o Asia yn dod i ymweld â Wrecsam ac mae hwn yn rhywbeth hollol newydd.

"Wedyn wrth gwrs mae hyn yn dod a mwy o arian i mewn i fusnesau lleol a hefyd mae 'na unedau busnes oedd yn wag am gyfnod hir bellach yn llawn.

"Mae’n creu fwy o swyddi a hefyd dod a fwy o arian yn gyffredinol i bobl o fewn Wrecsam a mae hynny yn beth da ofnadwy i’r ddinas."

'Dangos datblygiad Wrecsam'

Yn ogystal â phêl-droed mae dinas Wrecsam wedi cael adfywiad diwylliannol hefyd, sydd wedi dechrau ers rhai blynyddoedd yn ôl Neal Thompson, trefnydd gwyl flynyddol Focus Wales.

Dywedodd bod na "ddiddordeb mawr a chyffro o flaen y gêm" ac bod nifer o ddigwyddiadau eraill ar y ffordd hefyd.

Disgrifiad o’r llun,

Neal Thompson: "Mae’n amser cyffrous yn Wrecsam yn gyffredinol"

"Mae’n dangos y datblygiad really sy’n digwydd yn Wrecsam ar hyn o bryd fel dinas newydd yn ogystal â bod yn gartref i gemau mawr.

"Mae hefyd yn gartref i ddigwyddiadau mawr diwylliannol, gobaith i fod yn ddinas diwylliant eto hefyd.

"De chi’n gweld digwyddiadau fel Focus Wales yn dod i fyny ym mis Mai, de ni’n croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol yn 2025 a mae 'na lwyth o bethau eraill ar y gweill ar gyfer Wrecsam hefyd.

"Mae’n amser really cyffrous yn Wrecsam yn gyffredinol."

Pynciau cysylltiedig