Presgripsiynau digidol nawr ar gael i rai cleifion

TablediFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae presgripsiynau digidol ar gael i rai cleifion yng Nghymru o ddydd Gwener ymlaen.

Mae’r gwasanaeth rhagnodi electronig yn galluogi meddygon teulu i anfon presgripsiynau ar-lein i fferyllfa o ddewis y claf, heb fod angen presgripsiwn papur.

Meddygfa Lakeside yn Y Rhyl, Sir Ddinbych, ydy’r cyntaf i newid i’r gwasanaeth a fydd yn cael ei ymestyn i rannau eraill o Gymru yn y flwyddyn newydd.

Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod ei bod hi wedi cymryd yn hirach i gyflwyno’r system na'r gobaith, ond y bydd y dechnoleg yn cyflawni mwy na systemau tebyg mewn gwledydd eraill.

Mae'r system newydd wedi cael ei phrofi yn Y Rhyl ers wythnos bellach.

Yn ôl prif fferyllydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, Lois Lloyd, mae'n “garreg filltir”.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Lois Lloyd y bydd fferyllwyr yn treulio mwy o amser gyda chleifion gan fod llai o waith papur

“Mae ‘na 40 miliwn o bresgripsiwns papur gwyrdd y flwyddyn fydd ddim rŵan yn gorfod cael eu cartio o un lle i’r llall ar hyd Cymru,” dywedodd.

“Fydd y fferyllfa yn cael un neges o’r feddygfa yn saff, a fyddan nhw’n gallu dosbarthu a sortio’r feddyginiaeth yn barod i’r claf.

“Mae’r gwaith gweinyddol yna wedi mynd yn gyfan gwbl, sy’n golygu bod ‘na fwy o amser i’r fferyllydd, neu dîm y fferyllfa, siarad efo’r claf am eu triniaeth.”

Lleihau pwysau ar feddygon teulu

Mae rhagnodi electronig yn cael ei ystyried yn allweddol wrth leihau’r pwysau ar feddygon teulu hefyd, gan y bydd y rhagnodiadau’n cael eu llofnodi’n ddigidol yn hytrach na gyda llaw.

Mae oddeutu 1.5 miliwn o gysylltiadau gyda meddygon teulu bob mis yng Nghymru.

Cafodd yr e-ragnodyn cyntaf yn Lloegr ei ddefnyddio yn 2005, a bellach mae 95% o ragnodiadau yno’n cael eu hanfon yn ddigidol.

Bydd £12m yn cael ei fuddsoddi dros y ddwy flynedd nesaf yng Nghymru i helpu meddygfeydd a fferyllfeydd fabwysiadu’r dechnoleg newydd.

Disgrifiad o’r llun,

Mae wedi cymryd amser i gyrraedd y cam yma, medd Eluned Morgan, ond mae'n golygu bod y system yn un "soffistigedig"

Yn ôl y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan dyma gam cyntaf proses ehangach o ddigideiddio a moderneiddio’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

“Mae hwn wedi cymryd lot fwy o amser nag oedden ni’n gobeithio, ond bydd ein system ni yn lot fwy comprehensive na’r un sydd i gael yn Lloegr," meddai.

“Bydd e’n siarad yn uniongyrchol gyda’r ap NHS sydd hefyd wedi cael ei rowlio allan a bydd hwn yn siarad gyda’r systemau meddygol eraill sydd ar gael yng Nghymru.

“Felly ni’n adeiladu strwythur fan hyn sy’n reit soffistigedig.

“Rhaid i chi gael y strwythur yn iawn ar y dechrau, a dyna sydd wedi cymryd mwy o amser i ni.”