Canser: 'Mam isio rhannu ei stori i helpu eraill'

Disgrifiad,

Bu farw Judith Rowlands o Ynys Môn eleni ar ôl rhoi tystiolaeth i Aelodau’r Senedd, mae ei merch Sioned Cash bellach yn gobeithio gweld newid

  • Cyhoeddwyd

“Pan ddaeth yn amlwg bo' hi ddim am wella, roedd hi isio rhannu ei stori er mwyn iddi allu helpu pobl eraill yn y dyfodol."

Dyna deyrnged Sioned Cash i ddewrder ei mam Judith Rowlands o Ynys Môn, fu farw o ganser yn 57 oed eleni ar ôl rhoi tystiolaeth i un o bwyllgorau’r Senedd.

Yn ôl adroddiad gan y pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol, mae menywod yn cael eu hanfon adref gyda diagnosis ar gyfer salwch mwy cyffredin, pan mewn gwirionedd, mae canser gynaecolegol ganddyn nhw.

Mae’r ymchwil hefyd yn dweud fod pryderon canser menywod yn cael eu “diystyru, eu bychanu a dyw eu lleisiau ddim yn cael eu clywed” a bod "rhagfarn” yn peryglu bywydau.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae cymorth penodol wedi'i gyflwyno ar gyfer gwasanaethau canser gynaecolegol.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Judith gyda'i gŵr Gwilym

Dywedodd Sioned: ”Roedd hi’n bwysig iawn i Mam bod ei phrofiad a’i dioddefaint hi gyda chanser gynaecolegol yn cael ei glywed gan bobl all newid pethau.

”Dwi mor falch o Mam ei bod hi wedi rhannu ei stori efo Senedd Cymru a hithau mor ddifrifol wael ar y pryd.”

Fe glywodd y pwyllgor straeon personol nifer o fenywod oedd yn teimlo bod eu pryderon wedi cael eu diystyru dro ar ôl tro.

Recordiodd Judith fideo a gafodd ei ddangos i'r pwyllgor yn nodi ei phrofiadau, ond bu farw'n fuan wedi hynny ym mis Mai eleni.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sioned Cash ei bod hi "mor falch o Mam ei bod hi wedi rhannu ei stori"

Roedd Judith wedi cysylltu â'i meddyg teulu pan ddechreuodd waedu ar ôl y menopos.

Yn y pendraw cafodd ddiagnosis o ganser endometraidd a chafodd hysterectomi.

Ar ôl y llawdriniaeth roedd Judith yn parhau i fod mewn poen difrifol, ond roedd y meddygon yn mynnu na fyddai’r math hwnnw o ganser yn dod yn ôl.

Wedi sgan, daeth i’r amlwg ei fod wedi dychwelyd ac nad oedd gwella arni.

Ffynhonnell y llun, Senedd Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe roddodd Judith dystiolaeth i'r pwyllgor a hithau'n "ddifrifol wael"

Yn flynyddol mae tua 1,200 o bobl yn cael diagnosis o ganser gynaecolegol yng Nghymru, a tua 470 yn marw.

Mae elusen Tenovus yn croesawu canfyddiadau’r adroddiad, ond yn dweud bod yr hyn a glywodd y pwyllgor yn crafu’r wyneb yn unig.

'Ddim yn cael eu cymryd o ddifrif'

“Un o’r pethau mwya’ pwysig 'da ni wedi clywed drwy’n inquiry yma yw bod merched yn teimlo’n eitha' disempowered,“ meddai Lowri Griffiths o Tenovus.

“Maen nhw’n mynd hefo’u symptomau at y meddyg teulu a falle eu bod nhw ddim yn cael eu cymryd o ddifri', felly ma' nhw’n mynd 'nôl a 'mlaen am gyfnod o wythnosau, weithiau misoedd, cyn iddyn nhw fedru cael diagnosis.

“Yn ystod y cyfnod yna maen nhw’n teimlo eu bod nhw’n niwsans neu falle eu bod nhw’n cael eu labelu’n hysterical.

“Dyna sy’n bwysig - bod merched yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnyn nhw ac yn cymryd eu symptomau o ddifri' fel bo' ni’n medru gweithredu wedyn i wneud yn siŵr eu bod nhw’n cael diagnosis cynnar a bo' ni ddim yn y sefyllfa ‘da ni’n gweld ein hunain dyddiau yma, hefo nifer o ferched hefo diagnosis terminal."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n bwysig "bod merched yn teimlo bod rhywun yn gwrando arnyn nhw," medd Lowri Griffiths

Mae’r pwyllgor wedi cyflwyno 26 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, sy’n cynnwys cyhoeddi cynllun iechyd penodol i fenywod, edrych ar gyllido’r cynllun ac adfer unrhyw wasanaethau canser gynaecolegol a ddaeth i ben yn ystod y pandemig.

Yn ôl un o aelodau’r pwyllgor, AS Dwyfor Meirionnydd Mabon ap Gwynfor, mae angen gwell cefnogaeth ar wasanaethau iechyd menywod.

“Mae gyda ni broblem fan hyn lle mae’n ymddangos bod y gwasanaeth iechyd yn edrych ar broblemau menywod drwy brism neu drwy lygaid dynion, ac felly ddim yn ystyried problemau menywod yn llawn," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywed Mabon ap Gwynfor fod Cymru "angen cael cynllun clir o ran iechyd menywod"

Mae cynlluniau iechyd menywod wedi cael eu cyhoeddi yn Lloegr a'r Alban, ond nid yng Nghymru.

Cafodd “datganiad ansawdd” ei gyhoeddi fis Gorffennaf 2022, ac ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu’r gwasanaeth iechyd i lunio cynllun llawn.

Ychwanegodd Mr ap Gwynfor: “Mae angen cael cynllun clir o ran iechyd menywod, efo adran benodol yn edrych ar ganserau gynaecolegol.

"Yna mi fyddwn ni wedyn yn gallu gosod Cymru ar lwybr lle fyddwn ni’n gweld gwell triniaethau a phobl yn cael datrysiadau i’r cyflyrau yma yn llawer cynt."

'Helpu i wella gwasanaethau'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru ei fod yn “hanfodol” bod pryderon menywod yn cael eu clywed a’u cymryd o ddifrif pan fyddan nhw’n troi at y gwasanaeth iechyd am gymorth.

“Bydd profiadau’r gwragedd yn yr adroddiad yn ein helpu i wella gwasanaethau,” meddai.

Ychwanegodd bod canser yn un o chwe blaenoriaeth y gwasanaeth iechyd wrth gynllunio, a’i bod wedi ymrwymo i wella canlyniadau i gleifion.

“Rydyn ni wedi cyflwyno cymorth wedi’i dargedu ar gyfer gwasanaethau canser gynaecolegol ac yn darparu cefnogaeth i feddygon teulu ar gyfer atgyfeirio achosion posib o ganser," meddai'r llefarydd.