Cyffur canser i atal pobl rhag 'cymryd cam mor drastig'

Sian PowellFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Sian Powell ei bod yn "gorfod meddwl be' dwi wedi'i basio ’mlaen" i'w merched

  • Cyhoeddwyd

Mae mam o Sir Ddinbych a ddewisodd gael llawdriniaeth mastectomi dwbl yn 25 oed wedi dweud ei bod yn falch fod cyffur bellach ar gael yn ehangach i ferched sydd mewn peryg o gael canser y fron.

Dywedodd Sian Powell ei bod yn gobeithio y bydd mwy o opsiynau yn golygu na fydd yn rhaid i bobl "gymryd cam mor drastig â dwi wedi'i 'neud".

Mae Anastrozole, oedd am flynyddoedd ond yn cael ei ddefnyddio i drin y clefyd, bellach wedi ei drwyddedu i fod yn gyffur a all atal y canser hefyd.

Cafodd y cyffur ei gymeradwyo yn swyddogol yn Lloegr yr wythnos ddiwethaf, ond roedd eisoes ar gael yng Nghymru.

Er hynny, mae elusen yn gobeithio y bydd y cyffur nawr yn haws i'w gael yma, ac y bydd mwy o fenywod yn manteisio ar y cyfle i’w ddefnyddio.

Be' ydy Anastrozole?

Yn Lloegr, dim ond menywod oedd wedi cael diagnosis o ganser y fron oedd yn arfer cael Anastrozole.

Ond yr wythnos ddiwethaf cafodd ei drwyddedu’n swyddogol i fod yn driniaeth a all rwystro'r canser.

Mae newid pwrpas y cyffur yn swyddogol yn golygu y gall merched sydd mewn cyfnod ôl-menopos, neu sydd mewn peryg o gael canser y fron, gymryd y tabledi.

Mae Anastrozole eisoes wedi bod yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru fel triniaeth ataliol mewn rhai achosion.

Mae'n gyffur rhad i’w gynhyrchu, ac mae arbenigwyr yn gobeithio y bydd yn gallu arbed miloedd o fywydau, yn ogystal â miloedd o bunnau i’r gwasanaethau iechyd.

Un dabled y dydd am bum mlynedd – dyna’r dos - a’r effaith amddiffynnol, mae’n debyg, yn para am flynyddoedd hyd yn oed ar ôl rhoi gorau i’w gymryd.

O gymryd y cyffur, mae yna beth risg o rai sgil-effeithiau - sy’n debyg i symptomau'r menopos, fel pyliau o wres, teimlo'n wan a phoen yn y cymalau.

'Yr opsiwn oedd ar gael i fi'

Disgrifiad o’r llun,

Mae Sian Powell yn gobeithio y bydd mwy o opsiynau yn golygu na fydd yn rhaid i bobl "gymryd cam mor drastig â dwi wedi'i 'neud"

Mae Sian Powell, 35, yn fam i dair merch ac yn rhedeg busnes cysylltiadau cyhoeddus a marchnata o’i chartref ym mhentref Rhewl ger Rhuthun.

11 oed oedd Sian pan fu farw ei mam o ganser y fron, a hithau’n ei 40au.

Gyda chanser yn rhedeg yn y teulu, yn 25 oed penderfynodd Sian gael llawdriniaeth mastectomi dwbl.

“Nes i 'neud y penderfyniad drastig i gael double mastectomy yn eitha' ifanc - wel, yn ifanc iawn," meddai.

“Hwn oedd yr opsiwn oedd ar gael i fi ac oedd well gen i gael tawelwch meddwl.

“Unwaith 'naethon nhw gynnig o i fi, o'n i’n meddwl 'dwi’n sicr yn mynd i 'neud hyn'. O’dd o’n fwy o pryd yn hytrach na os."

'Delio efo’r peth cyn gynted â phosib'

Llawdriniaeth radical oedd yr unig ddewis i Sian ar y pryd.

“Dwi’n meddwl fod yr oed 'naeth dy riant di farw fel rhyw drothwy - ti’m yn gweld yn bellach na’r oed yna,” meddai.

“Ac er mai 25 o’n i, ac mi oedd yna ddigon o amser tan hynny [yr oed y bu farw ei mam], o'n i’n meddwl 'yr agosa dwi’n mynd at gyrraedd yr oed yna, y mwya’ mae o’n mynd i'm mhoeni i'.

“Felly, mae’n well i mi ddelio efo’r peth cyn gynted â phosib, a chyn cael plant.”

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Un dabled y dydd am bum mlynedd ydy'r dos o Anastrozole

Er yn croesawu’r newyddion fod Anastrozole wedi cael ei drwyddedu yn swyddogol fel cyffur ataliol, tydi Sian ddim yn difaru ei phenderfyniad hi.

“Dwi’n meddwl fod y cyffur yn cael ei gynnig i ferched hŷn, ac yn hŷn hyd yn oed na be' oedd mam pan gafodd hi’r diagnosis," meddai.

"Felly dwi ddim yn siŵr, tasa’r cyffur ar gael ar y pryd, os fasa fo wedi newid fy meddwl i.

“Ond, dwi yn cadw llygaid ar y datblygiadau yn y maes achos mae gen i dair o genod, ac wrth gwrs yr ystyriaeth arall dwi’n gorfod meddwl ydi be' dwi wedi'i basio ’mlaen iddyn nhw.

"Felly gobeithio fydd yna fwy a mwy o bethau yn dod allan fydd yn sicrhau fod yna fwy o bobl yn gallu cael fwy o opsiynau, fydd ddim, o reidrwydd, yn golygu cymryd cam mor drastig â dwi wedi'i 'neud.”

Gobaith y bydd yn haws i'w gael

Er mai cyhoeddiad i Loegr a wnaed yr wythnos ddiwethaf, yn ôl elusen Breast Cancer Now, mae ymestyn y drwydded “yn berthnasol i ferched yng Nghymru".

Tydi’r elusen “ddim yn credu y bydd y cyhoeddiad o Loegr yn cynyddu nifer y merched yng Nghymru sy’n gymwys i gymryd Anastrozole”, ond maen nhw’n gobeithio y bydd y cyffur yn haws i’w gael.

Dywedodd Breast Cancer Now fod y “nifer sy'n manteisio ar yr opsiwn" o gymryd y cyffur fel mesur ataliol "yn isel" ar hyn o bryd. 

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Yn Lloegr, dim ond menywod oedd wedi cael diagnosis o ganser y fron oedd yn arfer cael y cyffur

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Roedd Anastrozole eisoes yn cael ei ddefnyddio yng Nghymru ac ar gael i'r rhai sy'n gymwys, cyn cyhoeddiad yr MHRA yr wythnos diwethaf.

"Rydym yn disgwyl i'r NHS yng Nghymru sicrhau bod meddyginiaethau ar gael yn unol â'r argymhellion presennol gan NICE a gofynion mynediad y Gronfa Triniaethau Newydd.

"Gall byrddau iechyd ddarparu gwybodaeth fwy penodol am argaeledd y driniaeth hon."

Pynciau cysylltiedig