Sŵn a stêm wrth i Ffwrnais Chwyth 5 gau ym Mhort Talbot

Stem yn dod o'r ffwrnais chwyth ym Mhort TalbotFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl gweld golygfa debyg i hon ym Mhort Talbot wrth i'r ffwrnais oeri

  • Cyhoeddwyd

Bydd synau uchel a chymylau o stêm i'w gweld uwchben gwaith dur Port Talbot wrth i un o'i ffwrneisi hanesyddol gau cyn dydd Gwener.

Ers 1959 mae Ffwrnais Chwyth 5 wedi cynhyrchu haearn ar ffurf hylif, ond bydd yn cau fel rhan o ailstrwythuro Tata Steel UK.

Bydd ail ffwrnais Port Talbot yn cau fis Medi cyn adeiladu ffwrnais drydan flwyddyn nesaf.

Mae pobl sy’n byw yn agos i’r safle wedi cael eu rhybuddio am y golygfeydd a'r synau sy'n gysylltiedig ag oeri’r ffwrnais.

Ffynhonnell y llun, Construction Photography/Avalon
Disgrifiad o’r llun,

Bydd haearn hylifol yn llifo o Ffwrnais Chwyth 5 am y tro olaf ddydd Gwener

Yn gynharach yr wythnos hon fe ddechreuodd peirianwyr newid y cynhwysion crai sy'n cael eu tywallt i'r ffwrnais chwyth er mwyn paratoi ar gyfer diwedd y gwaith.

Mae disgwyl i stêm a rhai synau uchel gael eu clywed, cyn tynnu’r haearn hylif olaf o’r ffwrnais nos Iau neu fore Gwener.

Pan ddechreuodd y ffwrnais ym mis Mai 1959 roedd yn cynhyrchu 11,800 tunnell yr wythnos, gan gyrraedd uchafbwynt yn 2009 pan oedd yn cynhyrchu dros 57,000 tunnell yr wythnos.

Ffrwydrad 2001

Ffynhonnell y llun, Lluniau Teulu
Disgrifiad o’r llun,

Stephen Galsworthy, Andrew Hutin a Len Radford a fu farw yn ffrwydrad 2001

Yn dilyn ffrwydrad ym mis Tachwedd 2001 bu farw tri gweithiwr dur ac fe gafodd 12 arall anafiadau difrifol.

Fe wnaeth tunelli o haearn tawdd ddianc o'r ffwrnais wrth i'r ffrwydrad wthio top y strwythur anferth i fyny i’r awyr. Fe wnaeth adroddiad ffurfiol roi’r bai ar ddŵr oedd wedi dod i gysylltiad â chynnwys poeth y ffwrnais.

Y tri fu farw oedd Stephen Galsworthy, oedd yn 25, Andrew Hutin, 20, a Len Radford, 53.

Aeth y perchnogion ati i ailadeiladu’r ffwrnais, ac mae’r gwaith uwchraddio ers hynny wedi caniatáu iddi barhau i gynhyrchu’r haearn hylifol sydd ei angen ar gyfer gwaith dur Port Talbot.

Hanes y Ffwrnais

  • Mai 1959 - Ffwrnais Chywth 5 yn dechrau cynhyrchu haearn hylifol am y tro cyntaf;

  • 1960 - Cynhyrchu 11,800 o dunelli yr wythnos, ac yn un o 27 ffwrnais chwyth yn y DU;

  • 1973-74 - adnewyddu ac ehangu maint y ffwrnais i gynhyrchu 23,000 o dunelli yr wythnos;

  • Tachwedd 2001 - Ffrwydrad yn lladd tri ac yn anafu dwsin o weithwyr;

  • 2002 - £65m yn cael ei wario ar ailadeiladu'r ffwrnais;

  • 2009 - Cynyrchu 57,249 o dunelli mewn wythnos i gyrraedd record newydd;

  • 2018 - Gwaith adnewyddu i ymestyn bywyd y ffwrnais i 2026;

  • 2024 - Tata Steel yn cyhoeddi cynllun i gau'r ddwy ffwrnais ym Mhort Talbot eleni

Ffynhonnell y llun, Tata Steel UK
Disgrifiad o’r llun,

1958: Gwaith adeiladu wedi gorffen, gyda Ffwrnais Chwyth 5 bron yn barod i ddechrau cynhyrchu haearn

Ffynhonnell y llun, Tata Steel UK
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd tirwedd y gwaith dur yn newid yn sylweddol wrth i'r ffwrneisi chwyth gael eu diffodd a'u dymchwel

Mae’r ffwrneisi yn cau yn dilyn penderfyniad Tata Steel i ailstrwythuro gweithrediadau dur ar draws Prydain.

Tra bydd un ffwrnais yn cau yr wythnos hon, bydd Ffwrnais Chwyth 4 yn cau ym mis Medi. Dyna fydd y diwedd ar allu Port Talbot i gynhyrchu haearn hylifol o fwyn.

Bydd tua 2,800 o staff, allan o weithlu o 8,000 sydd gan Tata Steel, yn colli eu swyddi.

Mae'r cwmni wedi dweud bod gwaith dur Port Talbot yn colli £1m y dydd a'i fod yn anghynaladwy yn ariannol.

Ffynhonnell y llun, Tata Steel UK
Disgrifiad o’r llun,

Cynllun Tata Steel yw cau'r gwaith trwm i gyd erbyn diwedd mis Medi

Mae'r ffwrneisi chwyth yn golygu taw’r safle ym Mhort Talbot ydy’r llygrwr mwyaf yng Nghymru.

Mae'r ffwrneisi chwyth yn allyrru tua dwy dunnell o garbon deuocsid am bob tunnell o ddur sy’n cael ei gynhyrchu. Yn ôl yr amcangyfrif, bydd allyriadau Cymru gyfan yn gostwng 15-20% wrth i'r ffwrneisi gau.

Bydd y cwmni'n adeiladu ffwrnais drydan i gynhyrchu dur trwy doddi metel sgrap, gyda disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau ym mis Awst 2025.

Bydd y broses yn cymryd sawl blwyddyn i'w chwblhau, a bydd angen llawer llai o swyddi i'w gweithredu nag sydd wedi bod ynghlwm a’r ffwrneisi chwyth traddodiadol.

Pynciau cysylltiedig