Cyffuriau Carchar y Parc: Arestio aelod o staff
- Cyhoeddwyd
Mae aelod o staff carchar ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi cael ei arestio ar amheuaeth o droseddau'n ymwneud â chyffuriau.
Dywedodd llefarydd ar ran Carchar y Parc y cafodd dyn 36 oed o'r sir ei arestio ddydd Mawrth ar amheuaeth o gludo contraband i'r carchar.
Mae wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bo'r heddlu'n gwneud ymholiadau pellach.
Ym mis Mawrth, cafodd tri o bobl eu harestio ar amheuaeth o fod yn gysylltiedig â chyflenwi cyffuriau i Garchar y Parc.
Mae naw o bobl wedi marw yn y carchar ers dechrau Chwefror, gydag o leiaf pedwar o'r rheiny yn gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau.
Dywedodd Heddlu De Cymru nad yw'r datblygiad diweddaraf yn gysylltiedig ag unrhyw ymchwiliad i farwolaethau yn y carchar.
- Cyhoeddwyd2 Mai
- Cyhoeddwyd27 Mawrth
- Cyhoeddwyd21 Mawrth
Dywedodd llefarydd ar ran y carchar fod un o'u gweithwyr wedi cael eu harestio ddydd Mawrth yn dilyn "ymgyrch ar y cyd" gyda'r heddlu.
"Rydyn ni'n disgwyl y safonau uchaf o ymddygiad gan ein gweithwyr, ac os ydyn ni'n amau unrhyw un o wneud rhywbeth o'i le, byddwn ni'n gweithredu.
"Ble fo unrhyw amheuaeth o ymddygiad anghyfreithlon, fe fyddwn ni wastad yn rhannu gwybodaeth gyda'r heddlu ac asiantaethau eraill."