Tata: Cau ffwrneisi golosg yn sgil pryderon diogelwch

Ffwrnais olosgFfynhonnell y llun, Tata Steel UK
Disgrifiad o’r llun,

Mae tua 200 o weithwyr yn debygol o gael eu heffeithio gan y cyhoeddiad

  • Cyhoeddwyd

Bydd y ffwrneisi golosg yng ngwaith dur Tata ym Mhort Talbot yn cau ddydd Mercher - dri mis ynghynt na'r disgwyl - oherwydd pryderon am ddiogelwch.

Mae disgwyl y bydd tua 200 o weithwyr dur yn cael eu heffeithio gan y cyhoeddiad.

Yn ôl Rajesh Nair, Prif Swyddog Gweithredol Tata Steel UK, mae perfformiad y ffwrnesi golosg wedi dirywio dros y misoedd diwethaf er gwaethaf ymdrechion anferthol y gweithlu.

Mae'r penderfyniad i'w cau yr wythnos hon yn "ergyd anferthol", yn ôl undeb Community, ond maen nhw'n pwysleisio bod diogelwch y gweithwyr yn flaenoriaeth.

Mae ffwrneisi golosg Morfa yng ngweithfeydd dur Port Talbot yn llosgi glo er mwyn creu'r tanwydd sy'n cael ei ddefnyddio yn ffwrneisi chwyth y safle.

Dywedodd yr undebau dur wrth bwyllgor o Aelodau’r Senedd yn gynharach eleni bod cwestiynau am gyflwr y ffwrneisi ers peth amser, ac ni fydden nhw'n gwrthwynebu eu cau yn gynt na'r disgwyl ar sail diogelwch.

Yn ôl Mr Nair, mae cyflwr y ffwrnesi wedi gwaethygu ac mae hi bellach yn "anghynaladwy i barhau i'w gweithredu".

"Byddwn yn gweithio’n galed dros yr wythnosau nesaf i ddeall dyheadau’r gweithlu ffwrneisi golosg yn unol â’n rhaglen ymgynghori ehangach,” meddai.

Ffynhonnell y llun, Tata Steel UK
Disgrifiad o’r llun,

Mae 84 o ffwrneisi golosg ar safle Tata ym Mhort Talbot

Roedd y ffwrneisi golosg i fod i gau ym mis Mehefin eleni ynghyd â ffwrnais chwyth 5 - fel rhan o gynigion Tata ar gyfer dyfodol gweithredol safle Port Talbot.

Bydd ffwrnais chwyth rhif 5 yn parhau i weithredu am y tro trwy ddefnyddio golosg a fydd yn cael ei fewnforio.

Dywedodd Alun Davies, Swyddog Cenedlaethol Dur undeb Community: "Mae Tata yn gwybod na fydd yr undebau'n derbyn unrhyw ddiswyddiadau gorfodol ac rydym yn gweithio i ddod â thrafodaethau i ben ar becyn diswyddo a chadw uwch.

“Yn anffodus, roedd y ffwrneisi golosg am gau yn ystod y cyfnod pontio, ond unwaith y bydd yr ymgynghoriadau cenedlaethol wedi dod i ben byddwn yn pleidleisio dros weithredu diwydiannol pe bai Tata yn cadarnhau eu bwriad i gau ffwrnais chwyth rhif 4.”

Ffynhonnell y llun, PA Media

Mae bron i 2,000 o swyddi yn cael eu torri ym Mhort Talbot wrth i Tata Steel UK ail-strwythuro.

Mae'r cwmni yn bwriadu cau’r ddwy ffwrnais chwyth erbyn diwedd y flwyddyn ac adeiladu ffwrnais arch drydan erbyn 2027.

Mae tri undeb llafur - sydd ag aelodau sy'n gweithio yn y ffatri - yn gwrthwynebu cynlluniau Tata ac yn annog y cwmni i gadw un ffwrnais chwyth yn weithredol tra bod y ffwrnais arch drydan yn cael ei hadeiladu.

'Atal colledion'

Ychwanegodd Rajesh Nair: "Rydym wedi bod yn glir bod llawer o'n hasedau trwm ym Mhort Talbot yn cyrraedd diwedd eu hoes.

"Fel rhan o'n hymdrechion i atal ein colledion presennol ac o ystyried cyflwr yr asedau, rydym yn cynnig cau'r asedau haearn a dur pen trwm ym Mhort Talbot o fewn y flwyddyn.

"Mae Tata Steel yn buddsoddi £1.25 biliwn mewn ffwrnais arch drydan a fydd yn sicrhau cynhyrchu dur ym Mhort Talbot ar gyfer y tymor hir, ac yn hwyluso’r broses o symud at gynhyrchu dur carbon isel.

"Mae ymgynghoriad ar yr agweddau hyn yn parhau ar hyn o bryd."

Pynciau cysylltiedig