Dynes wedi marw ar ôl cael ei gwasgu gan ei char ei hun - cwest
- Cyhoeddwyd
Bu farw dynes o Sir Conwy ar ôl cael ei gwasgu gan ei char ei hun tra allan yn danfon anrhegion Nadolig, mae cwest wedi clywed.
Cafodd Mary Wynne Williams, 71, o Fetws-y-coed, ei chanfod yn farw yn Abergele ar 23 Rhagfyr 2022.
Ond mae'r amgylchiadau yn arwain at farwolaeth Ms Williams dal yn ddirgelwch yn dilyn y gwrandawiad yn Rhuthun.
Ar ôl ei marwolaeth, cafodd ei disgrifio fel "gwraig, mam a nain gariadus" gan ei theulu.
Mewn datganiad a gafodd ei ddarllen yn y cwest ddydd Mercher, dywedodd Gemma Priestnall bod hi a'i gŵr wedi bod yn gyrru ar hyd Ffordd San Siôr, Abergele, pan ddaethon nhw ar draws car Seat Leon.
Roedd y golau ymlaen, gyda'r car yn pwyso yn erbyn y clawdd.
Wrth iddyn nhw agosáu, fe welon nhw Ms Williams yn gorwedd yn rhannol tu allan i ddrws y gyrrwr.
Ffoniodd y pâr 999 a chafodd Ms Williams ei chyhoeddi'n farw yn y fan a'r lle.
'Wedi blino'
Roedd Ms Williams, a oedd yn gyn-ffisiotherapydd gyda'r gwasanaeth iechyd, yn helpu i redeg y fferm deuluol, yn ogystal â chadw bythynnod gwyliau.
Dywedodd merch Ms Williams wrth yr heddlu eu bod nhw wedi bod yn glanhau un o'u bythynnod gwyliau cyn cael coffi yn McDonald's yn Abergele.
Dywedodd bod ei mam yn ddynes ffit a oedd yn mwynhau nofio a cherdded, a'i bod mewn hwyliau da a heb unrhyw broblemau iechyd.
"Roedd hi fel ei hun, hapus, siaradus, normal," meddai.
"Roedd hi wedi blino, ond dim byd i achosi pryder."
Dywedodd ymchwilydd gwrthdrawiad fforensig, Brian Grocott, fod amodau'r lôn yn dda ar y pryd, ac nad oedd unrhyw nam mecanyddol wedi ei ganfod ar y car.
Roedd y brêc parcio a'r 'autohold' yn gweithio'n iawn, ond heb gael eu defnyddio.
Roedd hi'n ymddangos, meddai Mr Grocott, fod y car wedi rowlio tua 30 metr i lawr llethr.
Fe ddaeth Mr Grocott i'r casgliad fod Ms Williams wedi dod allan o'i char heb ddefnyddio'r brêc ac, wrth i'r car gychwyn symud, ei bod wedi ceisio cyrraedd trwy ddrws y gyrrwr i un ai roi'r brêc ymlaen neu i droi olwyn y car.
Dywedodd y patholegydd Dr Mohammed Aslam mai achos ei marwolaeth oedd 'postural asphyxia', y canlyniad o fethu anadlu ar ôl cael ei gwasgu.
Dywedodd y crwner Kate Robertson wrth aelodau o deulu Ms Williams fod sawl cwestiwn heb ei ateb, ac mai'r un mwyaf "dryslyd" oedd pam ei bod wedi gadael y cerbyd.
Daeth i'r casgliad fod marwolaeth Ms Williams yn ddamweiniol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Rhagfyr 2022