Tystiolaeth rhieni yn achos honiadau rhyw heddwas
- Cyhoeddwyd
Roedd rhieni merch ifanc wnaeth ddioddef ymosodiad rhyw honedig gan swyddog heddlu Gwent yn "ymddiried ynddo", clywodd llys.
Fe ddywedodd John Stringer, 41, o Gaerdydd, wrth dditectifs y byddai'n clirio hanes chwilio'r we ar ei ffôn ar ôl gwylio pornograffi.
Mae'n gwadu cyfanswm o bum trosedd, gan gynnwys ymosodiad rhyw drwy gyffwrdd, achosi neu annog plentyn dan 13 oed i ymwneud mewn gweithred rywiol, ac achosi plentyn i wylio gweithred rywiol.
Clywodd y llys nad yw'r troseddau honedig yn ymwneud â'i weithgaredd fel heddwas.
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2023
Dywedodd yr erlynydd, Ian Wright, wrth y rheithgor y daeth yr ymosodiad honedig i'r amlwg ar ôl i'r ferch ddweud wrth gynorthwyydd dysgu ysgol gynradd.
Fe gafodd datganiad y cynorthwyydd dysgu ei ddarllen yn y llys, oedd yn egluro fod y ferch yn "bwyllog ac yn blaen ei ffeithiau" wrth esbonio'r troseddau honedig.
Fe roddodd rieni'r ferch dystiolaeth ar ail ddiwrnod achos Mr Stringer yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mawrth.
Fe ofynnwyd i'w thad gan yr erlynydd am eu perthynas gyda'r diffynnydd.
“Oeddech chi'n ymddiried yn Mr Stringer?" gofynnodd Mr Wright.
“Roedden ni, oedden," atebodd tad y ferch.
“Os y byddech chi'n amau unrhyw beth anweddus, a fyddech chi wedi eu hatal rhag gweld ei gilydd?" holodd Mr Wright wedyn.
"Byddwn, wrth gwrs," atebodd y tad.
Fe ddywedodd hefyd fod ei ferch wedi disgrifio sgyrsiau gyda Mr Stringer lle'r oedd yn dweud wrthi ei fod "yn unig".
Dywedodd ei fod yn meddwl fod y sgyrsiau hynny'n "anaddas" i'w cael gyda "merch o'i hoedran hi".
Clywodd y llys fod Mr Stringer a rhieni'r ferch yn sgwrsio gan ddefnyddio WhatsApp.
Mewn un neges fe ddywedodd Mr Stringer wrth dad y ferch fod rhai amgylchiadau lle nad oedd yn teimlo'n "gyfforddus" ar ei ben ei hun gyda hi.
Wrth i Ieuan Bennett, ar ran yr amddiffyniad, groesholi mam y ferch, fe wadodd y fam fod Mr Stringer wedi codi hynny.
“Ddigwyddodd hynny ddim," dywedodd.
Wrth ddangos neges WhatsApp y gwnaeth Mr Stringer anfon i'w gŵr oedd yn dweud hynny, dywedodd: "Nid i fi. Doeddwn i ddim yn gwybod am y sgwrs honno."
Ar ôl cael ei arestio, dywedodd John Stringer wrth yr heddlu y byddai'n gwylio pornograffi ar ei ffôn gyda'r nos, yn breifat, ac y byddai'n clirio ei hanes chwilio ar y we bob tro wedi hynny.
Dywedodd yr erlynydd fod y ferch wedi dweud wrth yr heddlu fod y dyn wedi cyffwrdd â hi'n anweddus, ac y byddai'n dangos fideos pornograffig gyda menywod hanner noeth ynddynt a gofyn iddi "ddynwared" gweithredoedd y perfformwyr.
Dywedodd y ferch wrth yr heddlu fod Mr Stringer wedi dweud wrthi, pe byddai ei rhieni'n dod i wybod, yna mai ei "bai hi fyddai hynny".
Gwadu honiadau
Yn ystod ei gyfweliad â'r heddlu fe wnaeth Mr Stringer wadu ei fod yn cael ei ddenu at blant ifanc.
Dywedodd wrth swyddogion efallai ei fod wedi cyffwrdd yng nghoes y ferch unwaith wrth syrthio ar soffa, ond gwadodd fod hynny'n anweddus.
Fe wadodd honiadau fod y cyffwrdd yn rhywiol.
Mae John Stringer yn gwadu pump o droseddau rhywiol yn erbyn plentyn dan 13 oed.
Mae'r achos yn parhau.