Tafwyl yn fyw ar S4C ac yn symud o Gastell Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd Tafwyl yn cael ei darlledu'n fyw ar S4C am y tro cyntaf eleni, wrth i'r ŵyl gerddorol yng Nghaerdydd hefyd symud lleoliad.
Fe gadarnhaodd Menter Caerdydd ddydd Mawrth y byddai'r digwyddiad ar 15-16 Gorffennaf eleni yn cael ei gynnal ar gaeau Parc Biwt, yn hytrach na Chastell Caerdydd fel yr arfer.
Ychwanegodd y trefnwyr y byddai dangos yr ŵyl ar S4C yn sicrhau ei bod hi'n "cyrraedd cynulleidfa ehangach".
"Mae’r ffaith ein bod yn symud i leoliad mwy o faint ym Mharc Biwt yn dangos fod Tafwyl yn mynd o nerth i nerth," meddai prif weithredwr Menter Caerdydd, Heulyn Rees.
- Cyhoeddwyd20 Mehefin 2022
- Cyhoeddwyd18 Mehefin 2022
Cafodd yr ŵyl gerddorol Gymraeg yn y brifddinas ei sefydlu yn 2006, a chael ei chynnal yn y castell am y tro cyntaf yn 2012.
Mae'r lleoliad hwnnw yng nghanol y ddinas wedi ei chynnal hi bron bob blwyddyn ers hynny, oni bai am ambell dro fel yn 2017 pan oedd ffeinal Cynghrair y Pencampwyr yn cael ei chynnal yng Nghaerdydd.
Ymhlith y dwsinau o artistiaid fydd yn perfformio yn yr ŵyl eleni mae Bwncath, Candelas, HMS Morris, Dafydd Iwan, Band Pres Llarregub, Tara Bandito, Lloyd + Dom, Sage Todz a Sywel Nyw.
"Gyda’r esgid yn gwasgu i nifer o deuluoedd ledled Cymru, rwy’n falchach nag erioed fod Menter Caerdydd yn gallu cynnig arlwy mor amrywiol a chyffrous, a hynny heb orfod codi tâl mynediad o gwbl," ychwanegodd Heulyn Rees.