Un person yn yr ysbyty wedi tân yng Ngheredigion

Dywedodd y gwasanaeth tân bod fflamau hyd at 10 metr o uchder ar adegau
- Cyhoeddwyd
Mae person wedi ei gludo i'r ysbyty yn dilyn tân mewn eiddo yng Ngheredigion.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru eu galw i'r digwyddiad yn Ysbyty Ystwyth toc cyn 11:00 fore Mawrth.
Ar ei anterth, dywedodd y gwasanaeth tân bod y fflamau yn ymestyn at 10 metr a bod difrod sylweddol i'r adeilad.
Cafodd un person ei drin gan barafeddygon ar y lleoliad a'i gludo i'r ysbyty.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.