Cymro ifanc i herio'r 'goreuon' ym Mhencampwriaeth Triathlon y Byd

Deri ar y podiwmFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Deri (canol) eisoes wedi cael cryn dipyn o lwyddiant wrth gystadlu

  • Cyhoeddwyd

Mi fydd Cymro ifanc o Lanymynech, Powys yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Ieuenctid Triathlon y Byd yn Sbaen y penwythnos hwn.

Ymhlith y tua 5,500 o gystadleuwyr, Deri McCluskey fydd yr unig Gymro yn y ras.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd y bydd yn herio “goreuon y byd” ond nid yw’n “poeni dim”.

"Y gorau yn y byd bydd o. Yr elite juniors, ma’r pobl dwi mynd i fod yn rasio, nhw fydd y gorau yn y dyfodol a ma' nhw jest yn arbennig.

"Dwi jest yn edrych ymlaen i weld lle ydw i gymharu efo nhw," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gamp yn galluogi iddo "hyfforddi trwy’r dydd, pob dydd," yn ôl Deri

Ychwanegodd Deri ei fod yn athletwr sydd ddim yn "mynd yn rhy nerfus fel arfer".

"Ma pawb yn synnu fel arfer pan dwi'n dweud bo' fi ddim yn poeni ond jest ras arall yw e.

"Dwi 'di bod yn 'neud rasys ers dwi'n 14, dwi’n mwynhau rasio a ma' hwn jest yn ras arall."

'Dim pwysau'

Mae Deri wedi cael cyfres lwyddiannus eleni.

Fe orffennodd yn drydydd mewn ras ym Mhortiwgal ac yn ail yn y gyfres Brydeinig, sydd wedi caniatáu iddo hawlio lle ym Mhencampwriaeth y Byd.

Esboniodd ei fod wedi gorfod croesi'r llinell yn y tri uchaf mewn ras ragbrofol ym Mhencampwriaeth Prydain ar ddechrau'r mis.

"Des i'n ail yn y ras yna diolch byth," meddai.

"Does dim pwysau gen i yn y ras yma a dwi jest isio mwynhau mwy nag unrhyw beth arall".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Deri wedi bod yn cymryd rhan mewn rasys triathlon ers yn 11 oed

Cynrychiolodd Deri ei wlad am y tro cyntaf pan oedd yn 14 oed.

Dyma’r unig gamp sy’n caniatáu iddo hyfforddi “trwy’r dydd, pob dydd”, meddai.

“O’n i jest yn mwynhau chwaraeon ac o’n i eisiau gwneud cymaint â phosib.

“Does 'na ddim byd arall sy’n gadael i ti hyfforddi trwy’r dydd pob dydd, dyna pam nes i ddewis o.

“Dwi’n gallu nofio beicio a rhedeg bob dydd,” esboniodd.

Yn 2023, dechreuodd astudio cwrs gwyddorau biofeddygol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Dywedodd ei fod wedi dewis symud i’r brifddinas i gael ymarfer yn y Ganolfan Perfformiad Triathlon Cenedlaethol er mwyn cael y “siawns gorau i ddod yn athletwr proffesiynol” meddai.

Ond ei her nesaf fydd cystadlu ar y llwyfan rhyngwladol ddydd Gwener.

"Dwi 'di bod yn hyfforddi yn galed ers tua mis Tachwedd y lynedd, rhyw 25-30 awr yr wythnos.

"Cadw fy mhen lawr a gweithio tuag at y ras yma."

Pynciau cysylltiedig