Buddugoliaeth i ferched Cymru yn erbyn Japan yn y WXV2
- Cyhoeddwyd
Mae merched Cymru wedi ennill eu gêm gyntaf yng nghystadleuaeth y WXV2 yn Ne Affrica ar ôl trechu Japan o 19-10.
Roedd y Cymry ar y blaen o 12-0 ar yr egwyl ar ôl cais gan Nel Metcalfe a chais a throsiad gan Keira Bevan.
Roedd hi'n 19-0 am gyfnod yn yr hanner cyntaf ond ni chafodd cais Bethan Lewis ei ganiatáu gan y swyddog teledu.
Yn fuan yn yr ail hanner, gydag egni chwaraewyr Japan yn disgyn ar ôl hanner cyntaf anodd pan wnaethon nhw 100 tacl, cafodd y Cymry eu trydydd cais - Jasmine Joyce-Butchers y tro hwn ac yna cafwyd trosiad arall gan Keira Bevan.
Roedd nifer o wallau yng ngêm Cymru a chafodd tîm Shaun Connor eu cosbi ychydig ar ôl awr ac roedd y sgôr yn 19-5.
Cafodd Japan eu hail gais yn y munudau olaf wedi i Ayasa Otsuka groesi ac felly y sgôr terfynol oedd 19-10.
Bydd tîm rygbi merched Cymru'n chwarae nesaf yn erbyn Yr Alban ym Mhencampwriaeth Y Chwe Gwlad 22 Mawrth, 2025.