Pa mor aml ydych chi'n edrych ar eich ffôn?

Llyr Gwyn Lewis
  • Cyhoeddwyd

Pa mor wahanol ydi bywyd rhiant heddiw i pan oedden nhw'n blentyn?

Mewn cyfrol newydd gan gyhoeddiadau Barddas sef Holl Lawenydd Gwyllt, mae'r Prifardd Llŷr Gwyn Lewis yn cyferbynnu a chymharu ei blentyndod ei hun gyda phlentyndod ei blant yn yr oes sydd ohoni heddiw.

Er iddo gredu i ddechrau mai'r 90au oedd ein un cyfle olaf i daro cydbwysedd iach gyda thechnoleg - mae'n byw mewn gobaith y bydd ei feibion yntau yn ffeindio'r cydbwysedd cywir wrth ddefnyddio ffonau symudol neu chwarae gemau fideo.

Ar raglen Ffion Dafis ar Radio Cymru, fe wnaeth Llŷr drafod ei berthynas ef a'i blant gyda thechnoleg.

Cyfnod euraidd y 90au?

"Dwi'n byw mewn cyfnod eitha' od o fywyd ar hyn o bryd, mae 'na lot fawr o lawenydd, mae 'na lot o wylltineb. Ond mae o'n dipyn o slog achos 'dan ni'n rieni i blant ifanc.

"Os ti'n meddwl am fywyd fath â gêm 'da ni'n sicr yn y lefelau mwy anodd rŵan nag ella pan ti'n sbio yn ȏl ar dy blentyndod dy hun, pan oedd bob dim yn wyrdd ac yn hwyl. Dyna dwi'n drio ei wneud yn y gyfrol, cyferbynnu a chymharu y ddau gyfnod yma," meddai.

Yn y cerddi mae Llŷr yn cymharu ei fagwraeth ei hun yn nyddiau cynnar gemau fideo a thechnoleg, gyda magwraeth gyfoes ei blant.

Mae wedi bod eisiau ysgrifennu am y 90au, sef cyfnod ei blentyndod ers hydoedd, ac roedd o am ofyn a oedd o'n delfrydu ei blentyndod gan ei fod yn gyfnod euraidd? Neu oedd yna rywbeth mwy yn mynd ymlaen, bryd hynny?

Dywedodd: "O'dd o'n gyfnod lle o'ddan ni'n teimlo fod 'na addewidion yn cael eu gwneud i ni fel cenhedlaeth fod ein bywyd ni yn mynd i fod gymaint â hynna'n fwy cyfforddus, yn llai trafferthus na rhai ein rhieni, a bod hwnna ella ddim cweit 'di dod yn wir am ba bynnag reswm".

Plant yn chwarae gêmFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'n bosib mai Llŷr a'i gyfoedion oedd y genhedlaeth olaf i dyfu fyny heb ffonau symudol a phethau digidol, ond mi oedd yna arwyddion o'r byd oedd i ddod.

Enghraifft o hyn ydi'r gemau fideo roedd o wedi mopio arnynt pan yn blentyn, oedd yn fath o gyflwyniad i'r byd digidol.

Mae wedi fframio'r cerddi yn y gyfrol ar ffurf lefelau gwahanol. Fel mae lefelau gemau cyfrifiadurol yn mynd yn anoddach wrth fynd ymlaen, felly hefyd mae lefelau bywyd, ac mae gêm gyfrifiadurol yn is-deitl i'r mwyafrif o'r cerddi.

Ers dod yn oedolyn dydi Llŷr ddim yn chwarae llawer o'r gemau hyn ond tydyn nhw ddim yn wastraff amser meddai, maent yn agor drysau i greadigrwydd a dychymyg.

Ac mae'r ffaith fod plant Llŷr rŵan wedi gwirioni ar gymeriadau cyfrifiadurol fel Sonic, Mario a Pokomon wedi ei atgoffa ohonynt.

Mae o'n edrych ar y gemau ac yn gofyn y cwestiwn, sut mae o wedi magu ei blant? Sut fath o fagwraeth maen nhw'n ei gael? A pha heriau fydd yn eu hwynebu o dyfu fyny mewn byd llawer iawn mwy digidol?

"Dwi'n sȏn lot yn y gyfrol am sut dwi 'di mynd yn gaeth i fy ffȏn, dwi'n sgrolio, dwi'n troi at gyfryngau cymdeithasol yn llawer amlach nag sy'n iach i mi mewn ffordd.

"Ond 'dan ni jyst ddim cweit 'di gweithio allan sut i gyd-fyw efo technoleg ddim mwy," meddai.

Yn hytrach na dweud fod technoleg yn beth drwg mae o'n gofyn sut ydym ni yn byw efo'r dechnoleg newydd yma a dygymod ag o? Ac efallai fod cyfle i'w blant ddysgu sut i gyd-fyw gyda thechnoleg newydd.

Pynciau cysylltiedig