Arestio llanc yn dilyn achos o drywanu ym Mhowys

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad i Lôn Parker yn Y Drenewydd nos Wener
- Cyhoeddwyd
Mae llanc 16 oed wedi cael ei arestio ar ôl achos o drywanu ym Mhowys.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i ddigwyddiad i ardal Lôn Parker yn Y Drenewydd am 20:25 nos Wener.
Cafodd dyn 18 oed ei gludo i'r ysbyty gydag anaf i'w fraich.
Mae'r llanc 16 oed yn cael ei amau o achosi anaf difrifol ac mae'n parhau yn y ddalfa.
Mewn digwyddiad gwahanol, mae 'na adroddiadau bod dyn arfog wedi ei weld yn rhedeg ar ôl dyn arall yn y dref yn gynharach ddydd Gwener, yn ôl Heddlu Dyfed Powys.
Cafodd dyn 20 oed ei arestio a'i gyhuddo o fygwth person gyda gwrthrych â llafn mewn man cyhoeddus.
Mewn datganiad dywedodd Heddlu Dyfed Powys nad oedd cysylltiad rhwng y ddau ddigwyddiad.