Heddlu'n apelio wedi i ddyn 27 oed farw mewn gwrthdrawiad

A40 ger RhaglanFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar yr A40 am 10:55 fore Sadwrn

  • Cyhoeddwyd

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn 27 oed farw mewn gwrthdrawiad yn Rhaglan dros y penwythnos.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar yr A40 am 10:55 fore Sadwrn yn dilyn adroddiadau o wrthdrawiad yn ymwneud â beic modur Ducati Multistrada.

Bu farw gyrrwr y beic modur - dyn 27 oed o ardal Caint - yn y fan a'r lle, ac mae ei deulu yn derbyn cymorth gan swyddogion arbenigol.

Mae Heddlu Gwent yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth neu luniau all fod o ddefnydd i'r ymchwiliad i gysylltu â nhw.

Pynciau cysylltiedig