Gwahardd lorïau trwm rhag croesi'r hen Bont Hafren

Hen Bont Hafren
Disgrifiad o’r llun,

Mae profion wedi dangos bod y ceblau ar y bont wreiddiol, a gafodd ei hagor ym 1966, wedi dechrau dirywio

  • Cyhoeddwyd

Mae lorïau trwm wedi'u gwahardd rhag croesi'r bont wreiddiol dros Afon Hafren.

Ers hanner nos, nos Lun, mae cerbydau sy'n pwyso dros 7.5 tunnell yn cael eu cyfeirio at y bont newydd, Pont Tywysog Cymru, ar yr M4.

Mae profion wedi dangos bod y ceblau ar y bont wreiddiol, a gafodd ei hagor ym 1966, wedi dechrau dirywio.

Diogelwch teithwyr yw'r flaenoriaeth meddai National Highways, sy'n gyfrifol am y bont.

Ed Evans
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'r hen bont yma dros 60 mlynedd oed - mae 'di bod i fyny yn hir ac mae 'di dirywio," medd Ed Evans

"Mae'n anarferol i weld pont mor fawr a mor bwysig â hyn yn y sefyllfa yma," meddai Ed Evans, cyfarwyddwr Cymdeithas Contractwyr Peirianneg Sifil Cymru.

"Ond ar ddiwedd y dydd, mae'r hen bont yma dros 60 mlynedd oed - mae 'di bod i fyny yn hir ac mae 'di dirywio."

"Mae'n croesi Môr Hafren, mae 'na ddŵr hallt yna.

"Mae e i gyd yn effeithio ar wydnwch y bont ei hun, ond wrth gwrs mae nifer y cerbydau sydd wedi bod yn teithio dros y bont wedi cynyddu ac maen nhw'n drymach."

Darren Hobbs
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n mynd i fod yn annibendod," meddai Darren Hobbs

Fe deithiodd 32,000 gerbydau dros y bont bob dydd yn 2024, gyda 3,270 ohonyn nhw'n gerbydau trwm.

Mae hynny'n golygu bydd rhyw 10% o gerbydau'n gorfod defnyddio'r bont newydd.

Mae cwmnïau cludiant wedi rhybuddio y gallai'r dargyfeirio achosi "hunllef" ar adegau prysur.

Mae cwmni Jaga Brothers, sydd wedi'i leoli ym Magwyr, yn anfon rhwng 40 a 50 o loriau dros y pontydd yn ddyddiol.

Fe fydd y rheiny sy'n defnyddio'r M48 fel arfer, yn gorfod teithio 13 milltir i gyrraedd yr M4.

"Mae'n mynd i fod yn annibendod," meddai Darren Hobbs, sy'n rheolwr cludiant i'r cwmni.

"Mae tipyn o'n gwaith ni yn dibynnu ar ddosbarthu o fewn amser.

"Fe fyddwn ni'n gorfod cysylltu â chwsmeriaid i ymddiheuro a dweud na fyddwn ni yno mewn pryd."

Lorïau Jaga Brothers
Disgrifiad o’r llun,

Mae cwmni Jaga Brothers yn anfon rhwng 40 a 50 o loriau dros y pontydd yn ddyddiol

Yn ôl cyfarwyddwr Cymru ar gyfer y Gymdeithas Cludwyr Ffordd, Michael Gough, eu pryder mwya' yw "beth fydd yn digwydd pan mae 'na ddigwyddiad ar Bont Tywysog Cymru?"

"Ar hyn o bryd, maen nhw'n dweud bydd yn rhaid i lorïau fynd lan yr M5 a lawr yr M50. Mae 'na dipyn o gwestiynau," meddai.

Fe fydd y gwaharddiad yn ei le am 12 i 18 mis.

Yn ôl National Highways, does dim penderfyniad wedi'i wneud eto ynglŷn â gwaith trwsio.

Un awgrym yw defnyddio technoleg i reoli faint o gerbydau trymion sy'n croesi'r bont.

Mae 'na amcangyfrif y gallai gostio rhwng £300m a £600m i atgyweirio'r ceblau, gyda'r gwaith yn cymryd hyd at bum mlynedd i'w gwblhau.

'Ddim yn sioc'

Mae National Highways yn pwysleisio na fydd y gwaharddiad yn un parhaol, ac mae Cyngor Sir Fynwy wedi galw am ateb cyn gynted â phosib.

Yn y cyfamser, wrth i lorïau orfod defnyddio'r M4, fe fydd cerbydau eraill yn dal i groesi'r bont wreiddiol ar yr M48.

Mae Ed Evans yn pwysleisio ei bod hi'n gwbl ddiogel i wneud hynny.

"Mae pontydd ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig yn cael eu harchwilio bob blwyddyn, felly dydy hyn ddim yn rhywbeth da' ni just wedi darganfod," meddai.

"Dydy hi ddim yn sioc, ond maen nhw'n gweithio allan rŵan y ffordd orau i ddelio efo'r broblem yma, ond mae'n bwysig fod y cerbydau mawr ddim yn mynd drosto fo."

Pynciau cysylltiedig