Becws Carlton yng Nghaernarfon yn cau
- Cyhoeddwyd
Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, fe wnaeth perchnogion becws Carlton yng Nghaernarfon gadarnhau eu bod am gau drysau'r busnes am y tro olaf fis yma.
Dywedodd y neges "gyda thristwch oherwydd amgylchiadau" eu bod am gau'r becws ar 9 Tachwedd.
Ychwanegodd y perchnogion eu bod am "ddiolch o galon i bawb am eu cefnogaeth ar hyd y blynyddoedd".
Wrth adolygu'r papurau ar raglen Bore Sul ar Radio Cymru, dywedodd Gwyn Williams mai dyma "becws olaf y dref".
Aeth ymlaen i ddweud: "Dim ond 'chydig o flynyddoedd yn ôl roedd gennych chi Castle Bakery, Morris Cwm-y-Glo, Angels.
"Ar ôl i hwn gau, dim ond yn yr archfarchnadoedd y byddwch chi'n gallu prynu bara a chacennau."
Mae nifer o drigolion Caernarfon wedi dangos eu gwerthfawrogiad i'r becws ar y cyfryngau cymdeithasol.