Plentyn wedi'i anafu mewn ymosodiad gan gi yn y gogledd
- Cyhoeddwyd
Mae plentyn wedi cael triniaeth ysbyty yn dilyn ymosodiad gan gi yng ngogledd Cymru.
Cafodd Heddlu Gogledd Cymru eu galw i eiddo yng Nghyffordd Llandudno ddydd Iau wedi adroddiadau bod plentyn wedi ei anafu.
Bu’n rhaid i’r plentyn gael ei gludo i’r ysbyty.
Cafodd y ci ei gymryd gan swyddogion arbenigol er mwyn ei ddifa.
Mae’r llu yn parhau i ymchwilio i amgylchiadau'r digwyddiad.