Llywydd y Llys 'ddim wedi cuddio' rhag heriau yn y rôl

Fe gafodd Ashok Ahir ei ethol yn Llywydd y Llys a chadeirydd Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod Genedlaethol yn 2019
- Cyhoeddwyd
Mae Llywydd Llys yr Eisteddfod wedi cyfaddef iddo gael cyfnod stormus yn ei amser yn y swydd, ac nad yw'n "cuddio rhag hynny".
Wrth iddo baratoi i adael ei rôl, mae Ashok Ahir wedi bod yn edrych nôl ar ei gyfnod fel llywydd y llys.
Ymysg yr heriau mawr iddo fu Covid a'r hinsawdd economaidd, ac eleni mae'r Eisteddfod wedi dweud eu bod wedi addasu i gwrdd â heriau codi arian.
Dywedodd Mr Ahir bod gan yr Eisteddfod arian wrth gefn er mwyn helpu unrhyw brifwyl sy'n ei chael hi'n anodd cyrraedd eu targedau.
Ychwanegodd hefyd ei fod yn "hapus" gyda'r ffordd y deliwyd gyda helynt y Fedal Ddrama y llynedd.
Cronfa leol ddim yn gystadleuaeth
Fe gafodd Ashok Ahir ei ethol yn Llywydd y Llys a chadeirydd Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod Genedlaethol, gan aelodau Llys y Brifwyl yn 2019.
Cyn hynny, yn 2018, ef oedd cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.
Yn siarad gyda BBC Cymru cyn iddo adael ei rôl, dywedodd nad yw am i'r gronfa leol gael ei gweld fel cystadleuaeth.
"Ti yn codi arian ar gyfer yr Eisteddfod," meddai.
"Gyda hyn ma' ymgysylltu a chreu bwrlwm yn digwydd. Dyna yw prif bwrpas codi arian.
"Dyw'r targed ddim yna i bobl fethu. Mae yno fel arwydd o be ni angen."
- Cyhoeddwyd9 Awst 2019
- Cyhoeddwyd16 Awst 2018
Dywedodd hefyd bod mynd â'r digwyddiad at y bobl yn bwysig, ac oherwydd hynny, mae'n anochel y bydd rhai ardaloedd yn ei chael hi'n anodd codi arian.
"Y ffaith bo' ni'n cael Eisteddfod deithiol, mae e ar gyfer pawb ble bynnag - mae hynna yn bwysig," meddai.
"Mae'n costio dros £7m bob blwyddyn. Ond os ti jyst yn mynd i ble ma' lot o siaradwyr Cymraeg a bydd y gronfa leol yn ok a llwyddo, s'dim pwynt symud.
"Ond os ti ishe mynd rownd Cymru a chyrraedd y bobl, mae'n rhaid derbyn weithiau bydd y gronfa leol ddim yn cyrraedd y targed."
'Arian wrth gefn am y tro cyntaf'
Ychwanegodd Mr Ahir bod gan yr Eisteddfod arian wrth gefn i gynorthwyo unrhyw brifwyl sy'n ei chael hi'n anodd cyrraedd eu targedau.
Mae cael arian wrth gefn yn bwysig iddo, fel bod trafferthion ariannol y Steddfod yn rhan o hanes ei gorffennol.
"Ni wedi cyrraedd y sefyllfa bod arian wrth gefn gan y Steddfod am y tro cyntaf," meddai.
"Dyw e ddim yn ddigon, ond mae e yno i helpu os oes rywbeth fel storm yn codi neu os yw'r bobl leol ddim yn cyrraedd y targed.
"Bydd pobl Wrecsam yn cael peth o'r arian wrth gefn yna i helpu mas."

Fe wnaeth Mr Ahir gyrraedd rownd derfynol Gwobr Dysgwr y Flwyddyn yn 2012
Mae Mr Ahir yn hanu o Wolverhampton ac fe gafodd ei fagu ar aelwyd cyfrwng Punjabi.
Mae e wedi dysgu Cymraeg, ac yn 2012 fe wnaeth e gyrraedd rownd derfynol Gwobr Dysgwr y Flwyddyn.
Mae denu pobl o bob cefndir i'r Maes yn bwysig iddo.
Pan oedd yn gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Caerdydd fe gafodd ei ganmol am ei weledigaeth wrth greu gŵyl gynhwysol ac agored.
"Wythnos yma chi wedi gweld Steddfod agored, sy'n ymestyn. Ond dwi ddim 'di cyrraedd fy ngweledigaeth o ran pobl o wahanol gefndiroedd yn dod i'r Maes," meddai.
"Dyw hyn ddim yn job sy'n gallu stopio. Mae e lawr i waith ymgysylltu a phwyllgorau lleol.
"Ma' pethe fel cefnogaeth y llywodraeth hefyd mor bwysig i helpu pobl gyda thâl mynediad."
Helynt y Fedal Ddrama
Mae Mr Ahir yn cyfaddef mai un o sialensiau mawr ei gyfnod fel Llywydd y Llys oedd helynt y Fedal Ddrama y llynedd, pan gafodd y wobr ei hatal.
"Edrych nôl, rwy'n hapus â sut 'naethon ni ddelio â'r mater," meddai.
"Roedden ni yn defnyddio ein systemau mewnol i neud yn siŵr fod y bwrdd yn ei gyfanrwydd yn ymwybodol o'r penderfyniad ac roedden ni yn cydweithio â'r beirniad.
"Doedd dim lot mwy gallen ni 'di 'neud."
Mae'n dweud fod yr Eisteddfod wedi datblygu canllawiau cystadlaethau a bod hynny wedi bod ar waith ers tro, ac yn edrych ar wahanol elfennau o gystadlu.
"Ma'r elfennau newydd yn rhoi sicrwydd arall a chefnogaeth arall i feirniaid. Hefyd heddi' ma' 20 o geisiadau yn y Fedal Ddrama.
"Mae hyn yn dangos nad yw'r stori wedi tanseilio ymrwymiad pobl sy' ishe ennill y fedal."
Ag yntau yn ei Eisteddfod olaf fel Llywydd y Llys, ei gyngor i'w olynydd ydy "mynd ar gwrs diplomataidd i ddechrau".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.