Ethol Ashok Ahir yn Llywydd Llys yr Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd
Ashok AhirFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Yn wreiddiol o Wolverhampton, fe wnaeth Ashok Ahir ddechrau dysgu Cymraeg yn 2005

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi bod Ashok Ahir wedi cael ei ethol yn Llywydd y Llys a Chadeirydd Bwrdd Rheoli'r sefydliad.

Mae Mr Ahir yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu Llywodraeth y DU yng Nghymru ac wedi bod yn Aelod o Fwrdd Rheoli'r Eisteddfod ers 2016.

Ef oedd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd y llynedd.

Cafodd Mr Ahir ei ethol gan aelodau Llys y Brifwyl ddydd Gwener.

Bydd yn olynu Eifion Lloyd Jones, sydd wedi bod yn y rôl dros y tair blynedd ddiwethaf.

Ffynhonnell y llun, Sioned Birchall
Disgrifiad o’r llun,

Ashok Ahir oedd Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd y llynedd

Dywedodd yr Eisteddfod y bydd yn dod â "phrofiad busnes a rheoli i'r rôl fel sylfaenydd a chyfarwyddwr cwmni cyfathrebu Mela a chyn-bennaeth Uned Wleidyddol BBC Cymru".

Mae hefyd yn aelod o Fwrdd Chwaraeon Cymru a Phwyllgor Cymru'r Cyngor Prydeinig.

Daw Mr Ahir yn wreiddiol o Wolverhampton, ac fe gafodd ei fagu ar aelwyd cyfrwng Punjabi, ond mae wedi dysgu Cymraeg yn rhugl ers hynny.

Roedd yn un o'r pedwar fu'n rhan o rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn ym Mhrifwyl 2012 ym Mro Morgannwg.

'Wrth fy modd'

"Rwyf wrth fy modd cael fy ethol i'r rôl allweddol hon fydd yn caniatáu i mi barhau i gynorthwyo'r Eisteddfod i ddatblygu ac esblygu," meddai Mr Ahir.

"Mae'r Eisteddfod yn agos iawn at fy nghalon ac rwyf wrth fy modd yn dod yn flynyddol gyda fy nheulu.

"Mae'n lle ardderchog i rai sydd wedi dysgu Cymraeg fel fi i ymarfer a defnyddio eu Cymraeg.

"Rydw i'n awyddus iawn hefyd i weld yr Eisteddfod yn denu cynulleidfaoedd newydd o bob cymuned yng Nghymru a thu hwnt - yn enwedig pobl ifanc ac o gefndiroedd gwahanol - a dangos iddynt bo croeso i bawb ar y Maes."

Llywydd y Llys sy'n gyfrifol am gadeirio Cyfarfod Blynyddol yr Eisteddfod a sicrhau bod gan aelodau'r elusen lais clir yng ngwaith a chyfeiriad strategol yr Eisteddfod.

Bwrdd Rheoli'r Eisteddfod sy'n goruchwylio gwaith Tîm Rheoli'r Eisteddfod ac sy'n gyfrifol am bennu a gweithredu strategaeth ar gyfer y dyfodol.