Ffrae am ble aeth arian o werthiant swyddfa'r Torïaid ym Môn

Gwerthwyd y swyddfa yn Llangefni yn 2023Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Gwerthwyd swyddfa'r Ceidwadwyr yn Llangefni yn 2023

  • Cyhoeddwyd

Mae cwestiynau wedi codi ynghylch beth sydd wedi digwydd i arian a godwyd o werthu un o swyddfeydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Does "dim cofnod" o'r arian - o bosib tua £42,000 - o werthu'r eiddo ar Ynys Môn, yn ôl aelod o'r blaid sydd wedi siarad â BBC Cymru.

Mae'r honiadau wedi dod i'r amlwg ar ôl i'r blaid orfodi aelodau o'r Torïaid yn lleol i roi'r gorau i'w cyfrifoldebau gyda ffederasiwn y blaid sy'n cwmpasu gogledd-orllewin Cymru.

Mae hynny wedi cythruddo aelodau, sy'n dweud nad ydynt wedi cael esboniad priodol.

Dywedodd y blaid Geidwadol fod yr holl arian o werthu swyddfa etholaeth Ynys Môn wedi'i "ddefnyddio yn unol â rheolau'r blaid".

'Heb ei ddogfennu'n iawn'

Dywedodd aelod o'r blaid Geidwadol, Nic Connor: "Does neb yn credu bod rhywbeth amheus wedi digwydd.

"Mae'r arian wedi'i wario yn rhywle ond nid yw wedi'i ddogfennu'n iawn."

Mae pryderon na fydd rhai aelodau o'r blaid eisiau ymgyrchu yn y rhanbarth dros y Ceidwadwyr, sy'n wynebu etholiad i'r Senedd ymhen llai na blwyddyn, o ganlyniad i'r hyn sydd wedi digwydd.

Mae'r penderfyniad i gymryd rheolaeth o gangen leol y blaid yn dod yng nghanol cwynion cynyddol ymhlith aelodau ar lawr gwlad am weinyddiaeth y blaid yng Nghymru, yng nghanol dadleuon ynghylch dethol ymgeiswyr a phwy all sefyll.

LlangefniFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Hyd at tua dwy flynedd yn ôl roedd gan y blaid Geidwadol swyddfa yn Llangefni

Daeth cwestiynau am yr arian i'r amlwg yn gyhoeddus ar ôl i e-bost, a anfonwyd gan gadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig Bernard Gentry yn hwyr nos Lun, hysbysu bod Ffederasiwn Ceidwadwyr Gogledd Orllewin Cymru wedi cael "statws â chymorth" a bod holl swyddogion llawr gwlad yr ardal wedi cael eu diswyddo.

Y ffederasiwn, i bob pwrpas, yw'r blaid Dorïaidd ar gyfer sedd Senedd Bangor Conwy Môn, sy'n cwmpasu Ynys Môn a'r ardal o amgylch Bangor, Llandudno a Chonwy.

Hyd at ddiwedd 2024, Mr Gentry oedd y cadeirydd, cyn iddo ennill yr etholiad i fod yn gadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Mewn e-bost at aelodau bwrdd y blaid Geidwadol, gofynnodd Mr Connor, sydd ei hun yn gyn-weithiwr pencadlys ymgyrch y Ceidwadwyr (CCHQ) ac yn swyddog yn y ffederasiwn, a fyddai'r tîm newydd yn "parhau i ymchwilio i'r arian coll o gyfrifon y Ffederasiwn".

"Deilliodd yr arian o werthu hen swyddfa etholaeth Ynys Môn a dos dim cofnod ohono ers i Bernard Gentry wasanaethu fel swyddog, ac yn ddiweddarach fel cadeirydd, Ffederasiwn Ceidwadwyr Gogledd Orllewin Cymru," meddai.

Hyd at tua dwy flynedd yn ôl roedd gan y Blaid Geidwadol swyddfa yn Llangefni yn Ynys Môn.

Mae cofnodion o'r Gofrestrfa Tir yn dangos bod yr eiddo, ar Stryd y Bont, wedi'i werthu ym mis Ionawr 2023 am £70,000.

Yn ôl un ffynhonnell a welwyd gan y BBC roedd disgwyl y byddai rhywfaint o'r arian yn cael ei glustnodi i'w ddefnyddio ar Ynys Môn.

Collodd y blaid y sedd yn yr etholiad cyffredinol yr haf diwethaf, ac mae aelodau'r blaid yn dweud bod cwestiynau wedi codi ers hynny ynghylch yr hyn a ddigwyddodd i'r arian.

Mae gwahanol ffigyrau wedi cael eu hawlio am faint oedd y swm - mae un ffynhonnell yn honni bod disgwyl i tua £42,000 gael ei ddefnyddio ar Ynys Môn.

'Ddim yn ei gyhuddo o gymryd yr arian'

Dywedodd ei lythyr fod y penderfyniad i gymryd drosodd y ffederasiwn wedi dod fel syndod heb "unrhyw esboniad", "unrhyw drafodaeth" na "rhybudd".

Yr unig awgrym blaenorol bod rhywbeth o'i le, meddai, oedd gohirio cyfarfod cyffredinol blynyddol y blaid leol dro ar ôl tro - "yn ôl pob sôn oherwydd pryderon ynghylch cyfrifon y ffederasiwn".

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Mr Connor: "Dydw i ddim yn ei gyhuddo o gymryd yr arian. Roedd y swyddogion yn cael eu craffu gan y weithrediaeth.

"Mae hynny i gyd wedi mynd. Mae grŵp bach wedi cipio pŵer heb unrhyw graffu.

"Rydw i wedi bod yn aelod o'r blaid ers 19 mlynedd. Yn ystod yr etholiad cyffredinol, cerddais dros 50 o gilometrau tra'n rhedeg busnes oedd ar ei phrifiant ac yn gofalu am blentyn bach ar yr un pryd.

"Byddaf yn parhau i fod yn aelod, ond a dweud y gwir... dydw i ddim yn siŵr a alla i barhau i roi fy amser fy hun i wirfoddoli i'r blaid yn y ffordd rydw i wedi gwneud o'r blaen."

Dywedodd e-bost gan swyddog y blaid Kathryn Cracknell fod y penderfyniad i gymryd rheolaeth dros y ffederasiwn yn "gam angenrheidiol i sefydlogi gweithrediadau, ailadeiladu ymddiriedaeth, ac ailsefydlu ymgyrchu a llywodraethu effeithiol o fewn y ffederasiwn".

Ond mae Mr Connor yn amau ​​bod pryder y gallai'r aelodau fod wedi cyfyngu ar gronfeydd y blaid ar gyfer AS Torïaidd Aberconwy ac ymgeisydd Bangor Conwy Môn Janet Finch-Saunders, yr oedd Mr Gentry wedi gweithio iddi o'r blaen yn ogystal â bod yn gadeirydd y Ceidwadwyr Cymreig.

Dywed Mr Connor nad oedd sail i'r pryder.

Dywedodd hefyd fod tensiynau wedi bod o fewn y ffederasiwn ac ar draws Cymru ar ôl i'r blaid Dorïaidd ei gwneud hi'n haws i aelodau o'r Senedd bresennol gael eu hail-ddewis ar gyfer y bleidlais nesaf ym mis Mai 2026, gan ganiatáu iddyn nhw osgoi pleidlais lawn o aelodau'r blaid.

Mae gwrthwynebwyr yn dweud ei fod yn atal talent newydd rhag cymryd rhan, tra bod cefnogwyr wedi dweud ei fod yn unol â rheolau dethol blaenorol a luniwyd gan y blaid ar lefel y DU.

'Rhywun o Landudno ddim yn apelio cymaint ar Ynys Môn'

Yng ngogledd-orllewin Cymru, lle mae Janet Finch-Saunders wedi cael ei hail-ddewis yn brif ymgeisydd y Ceidwadwyr ym Mangor Conwy Môn, byddai rhai aelodau wedi hoffi pe bai'r dewis ar gyfer y sedd wedi'i agor i eraill.

"Mae yna deimlad nad yw cael rhywun o Landudno yn apelio cymaint at bobl Ynys Môn," meddai Mr Connor, sy'n aelod yng Nghonwy.

Cyflwynodd BBC Cymru'r pwyntiau i Mr Gentry a'r blaid Geidwadol am sylwadau.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid: "Mae'r holl arian a godwyd o werthu hen swyddfa Ynys Môn wedi'i gofnodi yn briodol a'i ddefnyddio yn unol â rheolau'r blaid.

"Mae penderfyniadau ynghylch statws cymdeithasau yn cael eu gwneud gan fwrdd plaid y DU yn unol â chyfansoddiad y blaid.

"Fel y dywedodd Nic Connor ei hun, 'does neb yn credu bod unrhyw gamymddwyn wedi digwydd'. Mae'n hollol gywir."

Ychwanegodd y llefarydd: "Penderfyniad bwrdd y DU oedd hwn, nid Bernard Gentry."