Ceidwadwyr ddim yn diystyru cydweithio â Phlaid Cymru na Reform

Dywedodd Kemi Badenoch bod y Ceidwadwyr yn "canolbwyntio 100% ar ennill cymaint o seddi â phosib"
- Cyhoeddwyd
Mae arweinwyr y Ceidwadwyr yn y DU a Chymru wedi gwrthod diystyrru cydweithio gyda Phlaid Cymru na Reform ar ôl etholiad y Senedd.
Mae'r rhagolygon ar hyn o bryd yn awgrymu y bydd angen i fwy nag un blaid gydweithio i ffurfio Llywodraeth Cymru wedi'r etholiad y flwyddyn nesaf.
Ar ddiwrnod cyntaf cynhadledd Ceidwadwyr Cymru yn Llangollen, dywedodd Darren Millar y byddai ei blaid yn fodlon cydweithio gydag "unrhyw un" er mwyn cael Llafur allan o rym.
Er bod Kemi Badenoch wedi dweud na fyddai'r Ceidwadwyr yn gweithio gyda Reform ar lefel y DU, fe gyfaddefodd mai'r "realiti" oedd y byddai angen sgyrsiau wedi etholiad y Senedd.
Er hynny, galwodd ar aelodau ei phlaid i "frwydro nôl" yn erbyn Plaid Cymru a Reform.
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd8 Mai
Mae arolygon barn wedi gosod y Ceidwadwyr yn bedwerydd y tu ôl i Lafur, Reform UK a Phlaid Cymru, a hynny wedi iddyn nhw golli eu holl Aelodau Senedd San Steffan yng Nghymru y llynedd.
Dywedodd Mr Millar fod ei blaid – sydd ag 16 sedd yn y Senedd ar hyn o bryd – yn barod i fod mewn grym cyn y bleidlais yng Nghymru ym Mai 2026.
Mae'n annhebyg y byddai Llafur yn fodlon gweithio gyda'r Ceidwadwyr na Reform. Mae Plaid Cymru wedi gwrthod gweithio gyda Reform, ond nid y Ceidwadwyr na Llafur.
Ond byddai cytundeb rhwng y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru neu Reform yn debyg o fod yn ddadleuol o fewn y blaid, yn enwedig o ystyried safiad Plaid Cymru ar annibyniaeth.

Dywedodd Darren Millar ei fod yn fodlon "gweithio gydag unrhyw un i gael gwared â'r llywodraeth Lafur"
Ar BBC Radio Wales fore Gwener, dywedodd Darren Millar: "Dwi'n fodlon gweithio gydag unrhyw un i gael gwared â'r llywodraeth Lafur yma sy'n methu."
Mewn cyfweliad arall ar yr orsaf, dywedodd Kemi Badenoch: "Dydyn ni ddim yma i siarad am gytundebau, ry'n ni yma i ddweud beth y byddwn ni'n gwneud i drwsio Cymru.
"Pan mae gwleidyddion yn dechrau siarad am bwy y byddan nhw'n gwneud cytundeb gyda nhw, fe allwch chi weld a ydyn nhw wir yn meddwl am beth fyddan nhw ei wneud dros bobl y wlad.
"Dyna pam mae Darren a minnau yn canolbwyntio 100% ar y Ceidwadwyr yn ennill cymaint o seddi â phosib."
Gofynnwyd iddi eto am gytundebau gyda Reform neu Plaid Cymru, ac fe gyfaddefodd mai "realiti" oedd y byddai sgyrsiau yn gallu digwydd, "ond ddim nawr… nid dyna lle ydyn ni".
"Mae'r etholiad ymhen blwyddyn. Dwi wedi dweud dro ar ôl tro fyddwn ni ddim yn cael cytundeb gyda Reform ar lefel genedlaethol."
'Brwydro nôl'
Yn ei haraith i'r gynhadledd, galwodd Ms Badenoch ar y Ceidwadwyr i "frwydro nôl" yn erbyn Plaid Cymru a Reform.
Dywedodd fod Llafur "bob tro wedi gallu rhoi'r bai ar rywun arall" yng Nghymru, a bod Plaid Cymru a Reform nawr yn elwa gan fod Llafur mewn grym yn San Steffan.
Ychwanegodd: "Nid Reform yw'r ateb, Nid Plaid Cymru yw'r ateb.
"Dyw pleidiau eraill ddim yn credu mewn syniadau Ceidwadol. Ni yw'r ateb."
Cyfaddefodd fod canlyniad yr etholiad cyffredinol y llynedd yn "chwalfa" a bod etholiadau lleol yn Lloegr yn ddiweddar yn dangos fod gan y blaid broblemau o hyd.
Ond dywedodd bod y frwydr yn mynd i ailddechrau yng Nghymru.