Y Ceidwadwyr yn 'credu yn y DU ac mewn datganoli' - Millar

Mae Darren Millar yn dweud ei fod yn anghytuno gyda'r syniad o gael gwared â'r Senedd
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd yn mynnu eu bod yn blaid sy'n "credu yn y Deyrnas Unedig, ond sy'n credu mewn datganoli hefyd".
Wrth i'r blaid ymgynnull ar gyfer eu cynhadledd yn Llangollen y penwythnos yma, mae Darren Millar wedi taro yn ôl yn erbyn rhai o'i feirniaid yn y blaid sy'n gwrthwynebu datganoli.
Mae'r gwahaniaethau mewnol yma, yn ogystal â bygythiad Reform a pholau piniwn gwael, yn golygu ei bod hi'n gyfnod heriol i'r blaid.
I rai aelodau llawr gwlad mae awgrym yr arweinydd bod rhaid i unrhyw ymgeisydd ar gyfer yr etholiad nesaf gefnogi datganoli yn annerbyniol.
- Cyhoeddwyd6 Mai
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
Mae Mr Millar yn mynnu nad oes unrhyw beth wedi newid ers iddo olynu Andrew RT Davies fel arweinydd.
"Gadwech i ni fod yn glir, dwi ddim wedi newid polisi'r blaid ar ddatganoli, da ni wedi cael polisi cyson ers dros ddau ddegawd," meddai.
Mae'n dweud ei fod yn deall "rhwystredigaeth" pobl gyda datganoli, ond mae'n anghytuno gyda'r syniad o gael gwared â'r Senedd.
"A dweud y gwir, os da chi'n credu y gallwch chi ddadwneud datganoli mewn un rhan o'r Deyrnas Unedig a'i adael yn ei le i eraill, fel yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r meiri yn Lloegr, mae hynny yn hurt," ychwanegodd.
Reform yn 'blaid protest yn unig'
Gyda'r heriau mewnol hyn a phwysau allanol gan Reform, mae gan Mr Millar fynydd i'w ddringo cyn yr etholiad ymhen blwyddyn, ond mae o eisiau gweld y blaid yn gwneud cynnydd.
Mae'n dweud mai dim ond y Ceidwadwyr all gynnig y newid mae etholwyr yn galw amdano, gan gyhuddo Reform o fod yn "blaid protest" yn unig.
Yr awgrym o'r arolygon barn diweddar yw y gall Reform herio i fod y blaid fwyaf yn y Senedd nesaf, gyda nifer sylweddol o gefnogwyr Ceidwadol yn troi tuag atyn nhw.
Ond mae Darren Millar yn darogan y bydd Reform "yn toddi dan unrhyw graffu rhesymol o'u polisïau, pan fydden nhw'n eu cyflwyno, achos dyw e ddim yn ymddangos bod ganddyn nhw rai eto".
'Mynd i fod yn galed iawn'
Yn 2021 fe gafodd y blaid eu canlyniad gorau erioed mewn etholiad i'r Senedd, yn cipio tua chwarter y bleidlais ac 16 o seddi.
Ers hynny maen nhw wedi colli pob un o'u seddi Cymreig yn San Steffan a derbyn crasfa yn etholiadau lleol Lloegr.
Ac mae 'na le iddyn nhw boeni am yr etholiad i ddod, yn ôl yr athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru.
"Ar hyn o bryd mae'r arolygon barn yn awgrymu eu bod yn mynd i fod yn bedwerydd," meddai.
"Mae pethau'n gallu newid, ond byddai canlyniad o'r fath yn andros o ergyd iddyn nhw.
"Mae'n anodd gweld, yn realistig, sut maen nhw'n gallu gwneud yn well na hynny.
"Bydd cadw isafswm pleidlais yn bwysig iddyn nhw. Dy' nhw ddim eisiau syrthio yn is na 15% o'r bleidlais, unwaith mae hynny yn digwydd da chi'n mynd i ddyfroedd dyfnion iawn, iawn, iawn."
Felly'r nod, meddai, fydd "trio cynnal rhywfaint o bresenoldeb ar draws Cymru a derbyn bod y pedair blynedd wedyn yn mynd i fod yn galed iawn".

Y nod i'r Ceidwadwyr fydd sicrhau "rhywfaint o bresenoldeb ar draws Cymru," meddai'r Athro Richard Wyn Jones
Mae'n glir nad yw Darren Millar yn barod i roi'r ffidl yn y to eto.
Mae'n gobeithio y bydd polisïau fel torri ceiniog oddi ar dreth incwm yng Nghymru yn dal sylw etholwyr.
Ond doedd 'na fawr o frwdfrydedd wrth siarad gyda phleidleiswyr Dinbych, yn etholaeth Clwyd, ble fydd Darren Millar yn sefyll.
"Pob tro mae pobl yn votio, maen nhw'n promisio un peth a 'neud peth arall," oedd ymateb un ddynes allan yn siopa.
"Dwi ddim yn votio," meddai un dyn lleol, "dwi ddim yn gwybod pwy fyswn i'n trystio".
Ond roedd un dyn yn gadarn na fyddai o'n cefnogi'r Ceidwadwyr: "Dim glas ar unrhyw gyfrif, mae'n well gen i goch na glas."
Yr her i Darren Millar dros y flwyddyn nesaf yw perswadio etholwyr fel hyn, ac eraill ar draws Cymru ei bod hi'n werth pleidleisio ac i bleidleisio drostyn nhw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Mai
- Cyhoeddwyd7 Mai