Diwedd cyfnod i 'deulu' Côr Meibion Orffiws y Rhos

Côr Meibion Orffiws y RhosFfynhonnell y llun, Côr Meibion Orffiws y Rhos
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y côr ei sefydlu yn 1957 er mwyn cystadlu yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen

  • Cyhoeddwyd

Bydd Côr Meibion Orffiws y Rhos yn perfformio am y tro olaf y penwythnos hwn.

Yn canu ers 67 o flynyddoedd, roedd y côr o Rosllannerchrugog ger Wrecsam yn cael ei ystyried ymysg y goreuon.

Ond wedi trafferth denu aelodau newydd fe benderfynwyd dod â phethau i ben pan gyhoeddodd yr arweinydd ei fod yn ymddeol.

Eu cyngherddau yn Wrecsam nos Wener ac ym Mwcle nos Sul fydd y rhai olaf.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth Williams wedi bod yn aelod o'r cor ers dros hanner canrif

Bydd y cyngerdd nos Wener yn Eglwys San Silyn yn digwydd ar y cyd â chôr sy’n ymweld o’r Almaen.

I Gareth Williams sy’n aelod ers dros hanner canrif, bydd diwedd y côr yn golled fawr.

“Mae rhai pobl yn dweud fod o’n gymdeithas, mae’n fwy na chymdeithas, mae’n deulu," meddai.

“Er ei bod hi’n drist, mae gen i gymaint o atgofion melys o’r teithiau efo’r côr a’r ymarfer. Oedden ni’n cael lot o hwyl.”

Wedi ei sefydlu yn 1957 er mwyn cystadlu yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, fe deithiodd y côr yn helaeth ar draws y byd gan berfformio yn China, Israel, UDA a llawer o Ewrop.

“‘Den ni wedi bod yn genhadon dros Gymru ar draws y byd bron,” meddai Mr Williams.

“Teimlad bod ni’n mynd â Chymru allan i’r byd.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Eifion Wyn Jones wedi arwain y côr ers 1988

Bellach â thros 30 o aelodau, roedd gan Gôr Meibion Orffiws y Rhos dros 100 ar un cyfnod.

Ond maen nhw wedi ei chael hi’n anodd denu aelodau newydd yn y blynyddoedd diwethaf.

Wedi ymaelodi â’r côr pan oedd yn 14 oed, fe ddaeth Eifion Wyn Jones yn arweinydd yn 1988.

'Dwi ddim am arwain i mewn i fy medd!'

Mae’n dweud bod y ffaith bod y côr yn dod i ben ar ei ymddeoliad yn rhywbeth mae’n “edifar yn fawr”.

“Mae’n ddrwg gen i bod nhw wedi penderfynu hynny. Does gen i ddim dylanwad ar hynny. Dwi’n teimlo am hynny’n fwy na dim byd, bod nhw’n gorffen.”

“Rhaid imi orffen rywbryd, Dwi ddim yn mynd i arwain i mewn i fy medd! Rhaid i mi orffen ryw amser a nes i benderfynu, dyma fo, rhaid imi wneud o rŵan.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r côr wedi teithio ar draws y byd i berfformio

Mae denu aelodau newydd yn her sy’n wynebu sawl côr meibion yng Nghymru.

“Mae ‘na nifer o gorau bychain lleol wedi darfod ac yn anffodus mae’r Orffiws hefyd wedi penderfynu ar ôl i mi ymddeol,” meddai Mr Jones.

“Dwi’n gweld ychydig o gynnydd mewn corau efo aelodau mwy ifanc. Dynion a chorau cymysg. Mae ‘na ddyfodol efo nhw.”

“Ond dwi’n meddwl bod y corau hynny’n pigo pobl sydd wedi cael trin y llais, yn fwy ‘na chôr pentre’. Côr pentre’ oedd yr Orffiws a’r hen gorau i gyd.”