Teyrngedau i'r 'arwr' Sol Bamba fu farw yn 39 oed

Roedd Bamba'n "ŵr bonheddig go iawn" yn ôl ei hen glwb CaerdyddFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Sol Bamba yn "ŵr bonheddig go iawn" yn ôl Clwb Pêl-droed Caerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyn-gapten Caerdydd, Sol Bamba, sydd wedi marw yn 39 oed.

Roedd yr amddiffynnwr o'r Traeth Ifori yn rhan o dîm yr Adar Gleision pan enillon nhw ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn 2018.

Cafodd driniaeth am ganser - Non-Hodgkin Lymphoma - ym mis Ionawr 2021 tra'n dal i chwarae yng Nghaerdydd.

Roedd yn ôl ar y cae bedwar mis yn ddiweddarach, gan gyhoeddi ei fod yn glir o ganser ar ôl triniaeth cemotherapi.

Yn fwyaf diweddar roedd wedi bod yn gweithio i glwb Adanaspor yn Nhwrci, a gyhoeddodd y newyddion ei fod wedi marw nos Sadwrn.

"Cafodd ein cyfarwyddwr technegol Souleymane Bamba ei gludo i Ysbyty Athrofaol Manisa Celal Bayar ddoe ar ôl iddo fynd yn sâl cyn y gêm yn erbyn Manisa ac yn anffodus collodd ei frwydr am ei fywyd yno. Rydym yn cydymdeimlo â'i deulu a'n cymuned," meddai'r clwb mewn datganiad.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe chwaraeodd Bamba 46 o weithiau i'r Traeth Ifori

Dywedodd Clwb Pêl-droed Caerdydd eu bod wedi derbyn y newyddion gyda'r "tristwch dyfnaf", gan ddisgrifio Bamba fel "arwr i'r clwb".

"Fel chwaraewr a hyfforddwr, roedd effaith Sol ar ein clwb pêl-droed yn amhrisadwy.

"Roedd yn arwr i bob un ohonom, yn un a oedd yn arweinydd ym mhob ystafell newid ac yn ŵr bonheddig go iawn," meddai llefarydd ar ran y clwb.

Roedd Bamba wedi bod yn cwblhau ei gymwysterau hyfforddi gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru, ac roedd yn y broses o astudio ar gyfer trwydded broffesiynol UEFA.

Dywedodd y gymdeithas mewn datganiad eu bod wedi eu "llorio gan y newyddion trist" a'u bod yn cydymdeimlo gyda'i deulu, ffrindiau a phawb oedd yn ei adnabod.

"Roedd pawb a weithiodd gyda Sol yn edmygu ei bositifrwydd a'i gariad at y gêm."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bamba yn dathlu sgorio mewn buddugoliaeth yn erbyn Brighton yn yr Uwch Gynghrair

Fe ddechreuodd Bamba ei yrfa gyda Paris Saint Germain cyn symud i'r Alban i chwarae i Dunfermline a Hibernian.

Chwaraeodd i Leeds United, Leicester City, Trabzonspor a Palermo cyn iddo ymuno a Chaerdydd yn 2016.

Sgoriodd ar ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Bristol City, gan fynd yn ei flaen i chwarae rhan allweddol yn nyrchafiad y clwb i’r brif adran yn y tymor canlynol.

Fe wnaeth o chwarae yn yr Uwch Gynghrair am y tro cyntaf gyda Chaerdydd, gan sgorio pedair gôl i'r clwb Cymreig y tymor hwnw dan arweiniad Neil Warnock.

Dywedodd Warnock nad oedd yn gallu credu na fyddai "fyth yn gweld y wên anhygoel yna eto" ond ei fod yn "hapus fod Sol wedi bod yn rhan o'i fywyd a'u bod wedi rhannu cymaint o atgofion arbennig".

'O'dd ei wên e'n goleuo 'stafell'

Un a oedd yn adnabod Sol Bamba yn dda yw cyflwynydd Radio Cymru 2, Rhydian Bowen Phillips - sydd yn aml yn gwneud gwaith i Glwb Pêl-droed Caerdydd.

"O'dd 'da fe amser i bawb, o'dd e'n arwr ar y cae, ond roedd ei enaid oddi ar y cae just yn anhygoel," meddai ar raglen Dros Frecwast fore Llun.

"O'dd ei wên e'n gallu goleuo 'stafell, ac roedd e'n gwneud i chi deimlo fel taw chi oedd yr unig berson yn y stadiwm pan oedd e'n siarad 'da chi.

"Nes i weld e am y tro diwethaf mewn digwyddiad i chwaraewyr a fans (Caerdydd) yn ystod ei gyfnod fel hyfforddwr... o'dd e'r un hen Sol, o'dd e just mor hapus i fod nôl.

"O'dd pawb moyn chwarae i a gyda Sol... mae just mor drist."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae teyrngedau wedi eu rhoi gan nifer o hen glybiau Bamba, gan gynnwys Leeds United

Ar ol iddo gael ei ryddhau gan Gaerdydd, fe aeth i chwarae i Warnock eto ym mis Awst 2021 gan ymuno â Middlesbrough.

Ond fe ddychwelodd i Gymru yn 2023 fel rheolwr cynorthwyol i Sabri Lamouchi yng Nghaerdydd, gan helpu'r clwb i sicrhau eu lle yn y Bencampwriaeth.

Dywedodd gwraig Bamba, Chloe, mewn datganiad ar y cyfryngau cymdeithasol bod ei gwr wedi marw yn gwybod faint yr oedd pobl yn ei garu.

"Dros y blynyddoedd diwethaf rydw i wedi gwylio Sol yn brwydro'r canser yma yn galed gyda chryfder corfforol a meddyliol anhygoel," meddai.

"Ond yn anffodus, doedd hi ddim yn frwydr deg, ac fel yr oedd pethau yn edrych fel eu bod nhw'n gwella, fe aeth pethau o chwith.

"Roedd hi'n fraint cael caru a chael fy ngharu gan Sol. Fe ddysgais i gymaint ganddo. Fo yw fy arwr. Mae fy nghalon yn torri, ond am anrheg oedd cael fo yn fy ngharu."