Cymydog wedi 'arogli nwy' bythefnos cyn ffrwydrad angheuol

- Cyhoeddwyd
Mae cymydog wedi dweud wrth gwest ei bod yn "arogli nwy" bythefnos cyn ffrwydrad yn Nhreforys a laddodd un person.
Fe gafodd Brian Davies, 68 oed, ei ganfod mewn rwbel yn dilyn ffrwydrad yn ei gartref ar Ffordd Clydach, Abertawe, ar 13 Mawrth 2023.
Fe dderbyniodd tri o bobl eraill driniaeth yn yr ysbyty, gan gynnwys bachgen 14 oed.
Cafodd tŷ Mr Davies ei ddinistrio'n llwyr a chafodd tai eraill eu difrodi'n sylweddol.
Fe ddechreuodd y cwest i farwolaeth Mr Davies yn Neuadd y Ddinas Abertawe ddydd Llun.
Clywodd y cwest fod Claire Bennett, un o gymdogion Mr Davies, wedi gallu arogli nwy ar Ffordd Clydach bythefnos cyn y ffrwydrad.

Gwelodd y rheithgor luniau o'r tŷ cyn ac ar ôl y ffrwydrad.
Cafodd hanner cartref Ms Bennett ei ddinistrio'r bore hwnnw ac roedd tŷ Brian Davies wedi diflannu'n llwyr.
Disgrifiodd Ms Bennett y bore hwnnw fel un "tawel" tan i "bopeth fynd yn ddu."
Dywedodd iddi gredu bod car wedi bwrw blaen ei chartref pan glywodd hi "glec enfawr".
"Oedd popeth yn dywyll a llawn rwbel. Roedd y nenfwd wedi cwympo arna i, do'n i methu symud."
'Methu anadlu'
Esboniodd bod ei mab, Ethan yn ei ystafell wely: "O'n i'n trial galw enw fy mab ond o'n i methu anadlu. Yna sylwais fod y grisiau tu ôl i mi wedi diflannu."
Soniodd am ei thrallod o weld ei chartref ac eiddo wedi'u dinistrio a'i bod wedi "meddwl y byddai'n marw" y bore hwnnw.
Fe dderbyniodd driniaeth ysbyty am wythnos.
Dywedodd hefyd ei bod hi a'i mab wedi derbyn therapi am PTSD.

Cafodd un tŷ ei ddymchwel yn llwyr, ac eraill eu difrodi'n sylweddol yn y digwyddiad
Fe glywodd y rheithgor hefyd gan bostman lleol, Jonathan Roberts, oedd yn gweithio ar fore 13 Mawrth 2023.
Cafodd fideo ei chwarae o gamera CCTV yn dangos cerbyd Mr Roberts yn gyrru heibio'r tŷ yr union eiliad pan ddigwyddodd y ffrwydrad.
Dywedodd Mr Roberts ei fod yn gweithio ar Ffordd Clydach unwaith bob pedair wythnos, ac nad oedd yn gallu arogli nwy y bore hwnnw.
Cafodd ddatganiad gan berchennog y tŷ Jeffery White ei ddarllen i'r cwest.
Dywedodd fod Brian Davies wedi rhentu'r tŷ am bedair blynedd ac yn "denant da".
Doedd dim gwaith sylweddol wedi ei wneud ar y tŷ, meddai, gan ychwanegu fod y boeler tua saith mlwydd oed.
Cafodd datganiad gan fab Brian Davies, Ricky Lyn Davies, ei ddarllen gan Christopher Jones o Swyddfa'r Crwner.
Disgrifiodd ei dad fel person oedd yn "caru iechyd a ffitrwydd" ac "wastad gydag amser i bobl".
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2023
Clywodd y cwest gan Richard Holder, rheolwr asiantaeth gosod tai Homehunters, a ddywedodd fod y tŷ wedi cael ei archwilio pum mis cyn y ffrwydrad.
Esboniodd wrth y rheithgor fod eiddo'n cael eu harchwilio bob tri mis, fodd bynnag, cafodd 159 Heol Clydach ei archwilio ddiwethaf ym mis Hydref 2022.
Dywedodd fod yr archwiliad nwy blynyddol diwethaf ym mis Mai 2022.
Fe welodd y rheithgor luniau o ffwrn Mr Davies - ffwrn oedd wedi'i ddatgysylltu "mewn ffordd barhaol". Cadarnhaodd Mr Holder ni fyddai'r asiantaeth wedi trefnu hyn.
Yna clywodd y cwest gan y peiriannydd nwy Barry John Phillips, a gynhaliodd yr archwiliad nwy ym mis Mai 2022. Cadarnhaodd fod yr holl offer wedi'u cysylltu, ac nad oedd unrhyw arogl nwy ar adeg yr archwiliad.
Fe gadarnhaodd Mr Holder a theulu Mr Davies - oedd yn adeiladwr hunangyflogedig - nad oedd unrhyw broblemau wedi bod gyda thalu rhent neu filiau.
Mae'r cwest yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.