Treforys: Bachgen 14 oed yn 'lwcus i fod yn fyw' wedi ffrwydrad
- Cyhoeddwyd
Mae tad bachgen 14 oed a gafodd ei anafu yn dilyn ffrwydrad yn Nhreforys ger Abertawe yn dweud bod ei fab, a'i fam yntau, yn "lwcus i fod yn fyw".
Mae un dyn wedi marw yn dilyn y digwyddiad wnaeth ddinistrio un tŷ'n llwyr ac achosi difrifol sylweddol i sawl un arall.
Fe gafodd Ethan Bennett, ac un person arall, eu rhyddhau o'r ysbyty ar ôl cael eu hanafu ddydd Llun. Mae mam Ethan yn parhau yn yr ysbyty.
Mae cwmni nwy Wales & West Utilities yn parhau i ddweud nad yw'n eglur eto beth achosodd y ffrwydrad, ond bod y difrod yn "ddifrifol".
Fe ddywedodd y gwasanaeth tân ac achub ddydd Mawrth fod cap wedi ei roi ar gyflenwad nwy dau dŷ sydd wedi eu heffeithio'n sylweddol.
Yn ôl gohebydd BBC Cymru, Aled Huw, roedd "arogl nwy yn amlwg" wrth iddo gyrraedd yr ardal yn gynnar brynhawn Llun.
'Cael ei daflu at y nenfwd'
Mae tad Ethan Bennett, a gafodd ei dynnu o'r rwbel ddydd Llun, yn dweud bod ei fab wedi cael ofn.
Fe gafodd mam Ethan, Claire, ei thynnu o'r dinistr hefyd. Mae'n parhau i gael triniaeth yn yr ysbyty ar ôl torri chwech o'i hasennau.
Dywedodd tad Ethan, Anthony Bennett: "Mae e [Ethan] just yn cofio'r ffrwydrad yn digwydd a chael ei daflu i fyny at y nenfwd.
"Y peth nesa' roedd e'n dod at ei hun, ac roedd e tu fas yn yr awyr agored.
"Ond yn ôl y sôn roedd rhan o'r to oddi tano a hanner ar ei ben."
Dywedodd fod cymydog sy'n byw ar y stryd wedi rhedeg draw i weld a oedd Claire yn iawn ac yna tynnu Ethan o'r rwbel a'i gario oddi ar y to.
"Maen nhw mor lwcus i ddod mas ohoni [yn fyw]," ychwanegodd.
Nifer mewn llety dros dro
Mewn diweddariad fore Mawrth, dywedodd Heddlu De Cymru y bydd diogelwch y tai yn yr ardal yn cael eu hasesu "mor gyflym â phosib" i geisio dychwelyd pobl i'w cartrefi, unwaith y bydd modd.
Dywedodd dirprwy arweinydd Cyngor Abertawe fod pobl sy'n byw mewn 21 o dai wedi aros mewn llety dros dro dros nos.
Gobaith y cyngor, meddai Andrea Lewis, yw y gall trigolion ddychwelyd adref cyn gynted ag sy'n bosib.
Ond fe rybuddiodd, wrth siarad ar BBC Radio Wales fore Mawrth, y gallai hynny gymryd amser gan fod "rhai o'r tai wedi eu difrodi yn rhy ddrwg".
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad ar Clydach Road a gafodd ei ddisgrifio fel un "brawychus iawn".
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru fod yr ymdrech achub wedi dod i ben am 02:37 fore Mawrth.
"Cafodd bobl sioc enfawr," ychwanegodd Ms Lewis.
'Cymuned agos a lot o help'
Cafodd canolfan ei sefydlu yn y dref i gynnig cefnogaeth i bobl, gyda siopau nwyddau a'r siop sglodion leol yn cludo bwyd.
Agorodd y Clwb Pêl-droed ac fe gafodd cymorth emosiynol ei gynnig gan sefydliad y Groes Goch.
Wrth siarad ar Dros Frecwast, dywedodd y Cynghorydd lleol Ceri Evans fod meddyliau pawb gyda'r un sydd wedi colli ei fywyd a bod y gymuned yn "dal mewn sioc".
"Mae rhai teuluoedd yn aros gyda theuluoedd a ffrindiau, mae'n gymuned agos, felly ma' lot o help yma.
"Mae rhai sydd heb deulu neu ffrindie' mewn llety dros dro am yr amser, dy'n ni ddim yn gw'bod am ba hyd fydd yn rhaid iddyn nhw aros."
Dywedodd fod nifer o dai wedi eu difrodi - gyda thoeau a ffenestri nifer wedi torri - a hyn yn achosi problemau "cymhleth" i rai.
"Fydd y cyngor yn helpu pobl... fe ddaeth pawb at ei gilydd fel cymuned ddoe [ddydd Llun]."
Mae ffyrdd Clydach Road a Field Close yn parhau ar gau a chefnogaeth ar gael i bobl yn Neuadd Goffa'r dref.
Mae ymchwiliadau i ganfod achos y ffrwydrad yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2023