Dwy ddynes wedi marw mewn pyllau yn Nant Gwynant

Pwll ar Lwybr WatkinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr heddlu eu galw i'r digwyddiad ar Lwybr Watkin am 21:31 nos Fercher

  • Cyhoeddwyd

Mae dwy ddynes wedi marw yn dilyn digwyddiad yn Nant Gwynant yng Ngwynedd nos Fercher.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am 21:31 yn dilyn adroddiadau bod un ddynes wedi cael ei thynnu o un o'r pyllau ar Lwybr Watkin, a bod dynes arall yn dal yn y dŵr.

Er i'r ail ddynes gael ei thynnu o'r dŵr, bu farw'r ddwy yn y fan a'r lle.

Roedd Heddlu'r Gogledd, Tîm Achub Mynydd Llanberis, yr Ambiwlans Awyr a Gwylwyr y Glannau i gyd yn rhan o'r ymateb i'r digwyddiad.

Mae Tîm Achub Mynydd Llanberis wedi estyn eu "cydymdeimlad dwysaf i deuluoedd a ffrindiau'r ddwy fenyw a gollodd eu bywydau".

'Trist eithriadol'

Fore Gwener ar Dros Frecwast dywedodd June Jones, y cynghorydd sir lleol, bod y digwyddiad "yn drychineb".

"Mae'n newyddion trist iawn yn amlwg i'r teuluoedd ac mae cydymdeimlad y cwm i gyd gyda'r teuluoedd," meddai.

June Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywed y Cynghorydd June Jones bod cydymdeimlad y cwm gyda'r teuluoedd

"Mae fan hyn dros y blynyddoedd yn mynd yn fwy a mwy poblogaidd - mae 'na fwy yn mynd i'r pyllau yma", ychwanegodd.

"Mae'n drist eithriadol. Roedd hi'n ddiwrnod braf ac mae hyn wedi digwydd.

"'Dan ni ddim yn gwybod be' sy' wedi digwydd... mae'r cyfryngau cymdeithasol yn annog pobl i fynd i'r llefydd gwych yma ac wrth gwrs mae'r dŵr yn gallu bod yn eithriadol o oer.

"Diolch i'r gwasanaethau brys a'r timau achub mynydd - dydy hyn ddim yn hawdd iddyn nhw chwaith."

'Ffenomenon' ar gyfryngau cymdeithasol

Er bod Llwybr Watkin i gopa'r Wyddfa'n cael ei ystyried yn un o'r llwybrau anoddaf i gopa mynyddoedd uchaf Cymru, mae'n daith gerdded gymharol hawdd i'r pyllau a'r rhaeadrau lle bu farw'r ddwy ddynes.

Wedi'i leoli'n agos at ddechrau'r llwybr yn nyffryn Nant Gwynant, mae'r safle wedi troi'n ffenomenon ar y cyfryngau cymdeithasol gan fod hi mor hawdd cael mynediad ati.

Mae ymwelwyr yn rhannu cannoedd o fideos ar TikTok ac Instagram yn eu dangos yn nofio yn y dŵr clir sy'n rhedeg oddi ar y mynydd.

Ond ar ôl dyddiau o law trwm ar draws y parc cenedlaethol, mae'r dŵr sy'n llifo i'r pyllau'n troi'n llifogydd o ddŵr gwyn ewynnog gan arwain at is-gerhyntau peryglus a phwerus.

Nant Gwynant

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd, Andy Gibson o Heddlu'r Gogledd bod eu meddyliau gyda theuluoedd a ffrindiau'r ddwy.

"Mae ymchwiliad yn parhau i ddarganfod yr hyn a ddigwyddodd," meddai.

"Rydym yn apelio am unrhyw un a oedd yn cerdded yn ardal Llwybr Watkin rhwng 18:00 a 21:00 neithiwr i gysylltu â Heddlu Gogledd Cymru."

Mae'r crwner wedi cael gwybod am y digwyddiad.

Dywedodd Cadeirydd Tîm Achub Mynydd Llanberis, Jurgen Dissmann, fod "hon yn alwad gymhleth ac anodd i'r tîm".

"Hoffem ddiolch i'n cydweithwyr yn y gwasanaethau brys a Thîm Achub Mynydd Aberglaslyn am eu cefnogaeth a'u cymorth parhaus yn ystod yr alwad hon," meddai.