'O'n i ar fy ffôn am 14 awr y dydd'
- Cyhoeddwyd
Mae byw heb ffôn yn brofiad dieithr iawn i bobl ifanc, fel mae'r actores Chenai Chikanza yn ei gydnabod.
Mae Chenai, sydd yn ei harddegau ac yn wyneb cyfarwydd ar Rownd a Rownd, newydd gymryd rhan mewn rhaglen ddogfen o'r enw Byw Heb Fy Ffôn, dolen allanol.
Fel arfer mae Chenai ar ei ffôn am fwy na 10 awr y dydd felly roedd cloi'r ddyfais mewn bocs plastig am bump diwrnod yn dipyn o her iddi.
Bu'n trafod y profiad a'r effaith ar ei bywyd gyda BBC Cymru Fyw:

O'n i isho herio fy hun i weld os fyddwn i medru byw heb fy ffôn. Mae ffôn fi fel arfer yn mynd i bobman efo fi.
Cyn yr arbrawf oedd data'r ffôn yn dweud mod i ar fy ffôn am 14 awr y dydd ond dwi ddim yn siŵr os ydy hwnna yn ffôn ac iPad fi efo'i gilydd. Oedd o'n sicr dros 10 awr ar bethau fel Snapchat, TikTok, Instagram – rheina 'di'r tri dwi'n defnyddio mwyaf.
Dyna sut dwi'n cadw mewn cysylltiad efo pobl drwy fy ffôn ac mae'n 'neud bywyd fi yn lawer haws i allu messageo ffrindiau o'r tŷ heb orfod mynd i'w gweld.
Dwi'n gwrando ar miwsig lot o'r amser hefyd.
Cloi'r ffôn mewn bocs
O'n i'n meddwl fuaswn i lot gwaeth heb fy ffôn nag o'n i. On i methu cysylltu efo pobl mor hawdd. Ac o'n i ofn buaswn i'n rili bôrd.
Mwy na dim o'n i'n trio 'neud gwaith ysgol ac yn ista efo Mam mwy hefyd.

Y diwrnod cynta' es i syth i'r ysgol ar ôl troi'r ffôn off so o'n i'n eistedd yn yr ysgol efo pawb arall ar eu ffôn. O'n i'n estyn am ffôn fi ond sylweddoli bod o ddim yna.
O'n i'n teimlo reit relaxed am y peth.
'Nath y teimlad yna para nes diwrnod 4-5. O'n i 'di dechrau cael digon ac o'n i'n barod i gael ffôn fi nôl.
Mwy na dim oedd y teimlad mod i'n methu allan a bod ffrindiau fi ar ffôn nhw. O'n i'n arfer mynd ar ffôn fi fel ffordd o ymlacio.
Gwersi
Dwi wedi dysgu bod fi ddim angen ffôn fi gymaint a dwi'n meddwl bod fi angen o. Dwi dal ar ffôn fi mwy na ddyliwn i fod ond dwi'n sylwi bod fi ar ffôn fi llai rŵan.
Dwi lot fwy aware os dwi'n mynd ar ffôn fi - dwi ddim yn meddwl bod fi wedi sylweddoli cymaint o'n i'n mynd ar y ffôn.
Mae'n siŵr mod i'n addicted ond dwi'n meddwl bod lot o bobl yn dyddiau yma ac mae bron pawb yn dibynnu ar ffonau nhw.
Maen nhw'n ran mawr o'n byd ni. Dwi'n teimlo'n well os dwi â ffôn fi arno fi. Dwi'n gwybod os mae rhywbeth yn digwydd i fi dwi efo ffôn fi.
Ac mae 'n ffordd o gael ymlacio. Mae'n ffordd o gael pum munud i fy hun.
Oedd ffrindiau fi ddim yn meddwl 'swn i'n gallu 'neud o a ddim yn deall pam o'n i'n neud o.
Dwi'n sicr yn trio lleihau faint dwi'n mynd ar y ffôn rŵan. Dwi arno tua pum awr y dydd erbyn hyn.

Chenai yn y rhaglen ddogfen Byw Heb Fy Ffôn
Iechyd meddwl
Fuaswn i'n dweud bod ffôn fi'n rhoi mwy o gysur ond dwi'n teimlo weithiau mae'n neud fi mwy unmotivated pan dwi wedi gwario lot o amser arno – fel arall yn bersonol dydy ffôn fi ddim yn effeithio ar iechyd meddwl fi llawer.
Dwi wedi mynd yn well efo diffodd y ffôn a teimlo bod fi'n gallu rhoi o lawr yn lle mynd yn styc ar sgrolio.
Dwi'n falch bod fi wedi 'neud o.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd12 awr yn ôl