Dros hanner gweithlu Cymru wedi'u haflonyddu'n rhywiol - arolwg

- Cyhoeddwyd
Mae dros hanner o'r gweithlu yng Nghymru wedi cael eu haflonyddu'n rhywiol yn y gweithle, yn ôl arolwg YouGov.
O'r gweithwyr, penderfynodd 7% i beidio â gwneud cwyn swyddogol ac roedd 10% yn ansicr a fyddai'r cyflogwr yn eu coelio.
Bu 2,000 o weithwyr ledled Cymru yn rhan o waith ymchwil YouGov gyda 56% o ddynion a 55% o fenywod yn rhannu straeon am aflonyddu rhywiol.
O dan y Ddeddf Diogelu Gweithwyr, rhaid i gyflogwyr ddisgyblu neu sicrhau bod gweithwyr sydd yn euog o aflonyddu rhywiol yn atebol am hynny.
Mae'r gyfraith, a gafodd ei diwygio ym mis Hydref 2024, yn berthnasol i aflonyddu ar gyfryngau cymdeithasol yn ogystal ag aflonyddu gan gwsmeriaid, cleientiaid, defnyddwyr gwasanaeth, neu aelodau'r cyhoedd.
Mae hyn hefyd yn cynnwys ymddygiad mewn unrhyw ddigwyddiad neu sefyllfa sy'n gysylltiedig â gwaith fel parti Nadolig, digwyddiadau y tu allan i'r swyddfa, neu negeseuon rhwng cydweithwyr.
O'r ymatebion i'r arolwg, dywedodd un o bob 10 nad oedd gan eu gweithle bolisi aflonyddu rhywiol ffurfiol neu nad oeddent wedi cael gwybod fod yna bolisi.
Beth yw aflonyddu rhywiol?
Yn ôl y TUC sy'n arbenigo ar y gweithle mae enghreifftiau o aflonyddu rhywiol yn cynnwys:
dangos ymddygiad o rym sydd â'r bwriad o ddychryn, gorfodi neu ddiraddio person arall;
digwyddiad mewn unrhyw le neu sefyllfa, wrth gerdded i lawr y stryd, yn yr ysgol, yn y gweithle, ar-lein neu yn eich cartref eich hun;
gall aflonyddu fod yn gorfforol, yn eiriol, neu'n ddieiriau.
Mae TUC Cymru, mewn partneriaeth â Chymorth i Ferched Cymru, wedi cyhoeddi pecyn cymorth Aflonyddwch Rhywiol yn y Gweithle.
Y nod yw rhoi i gynrychiolwyr undebau'r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i fynd i'r afael ag aflonyddwch rhywiol yn y gweithle a'i atal rhag digwydd.
'Nawn ni wrando a gweithredu'
Wrth rannu ei phrofiadau dywedodd Kay Stevens, cynrychiolydd undeb TSSA: "Roedd gen i gydweithiwr a fyddai wastad yn rhoi ei freichiau arna i a chyffwrdd â fi.
"Dywedais wrtho fod hynny'n fy ngwneud i deimlo'n anghyfforddus, felly byddai'n rhoi'r gorau iddi am ychydig ac yna'n ailddechrau.
"Fe wnes i ddweud wrth y rheolwyr a ddywedodd wrthyf mai dim ond bod yn gyfeillgar oedd o.
"Cefais fy siomi'n arw gan yr ymateb – roeddwn wedi gofyn iddo roi'r gorau iddi, felly pam wnaeth o ddim?
"Bellach fel cynrychiolydd undeb, mae fy mhrofiadau o aflonyddwch rhywiol yn y gweithle wedi fy ngwneud yn fwy brwd i sicrhau fod pawb yn ddiogel yn y gwaith drwy'r amser.
"Dylai pawb deimlo'n ddiogel yn y gweithle, ac maen nhw'n haeddu cael rhywun i'w cefnogi.
"Os yw'r aflonyddu yn digwydd nawr neu wedi digwydd amser maith yn ôl, byddwn i'n annog pobl i siarad â'u cynrychiolwyr undeb – rydym ni yma, fe wnawn ni wrando ac fe wnawn ni weithredu."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill