'Dim angen system gwynion wahanol ar gyfer aflonyddu rhywiol'

Douglas Bain sy'n ymchwilio i gwynion yn erbyn ASau
- Cyhoeddwyd
Mae comisiynydd safonau'r Senedd wedi dweud y byddai'n "syniad drwg" i gael system gwynion wahanol ar gyfer achosion o aflonyddu rhywiol.
Mae pwyllgor safonau'r Senedd yn edrych ar sut y gellir cryfhau'r broses gwynion ar gyfer aflonyddu rhywiol a bwlio.
Dywedodd y Comisiynydd Douglas Bain, sy'n ymchwilio i gwynion yn erbyn ASau, y byddai proses ychwanegol ar gyfer achosion o aflonyddu rhywiol yn rhy debyg i'r hyn sydd eisoes yn bodoli ac y byddai hynny "yn peri dryswch i lawer".
Mae'r pwyllgor eisoes wedi argymell y dylid cryfhau'r drefn safonau bresennol, drwy gyflwyno system "adalw" a fyddai'n rhoi cyfle i bleidleiswyr gael gwared ar Aelodau o'r Senedd oedd wedi camymddwyn, yn ogystal â chosbi aelodau am ddweud celwydd yn fwriadol.
'Ddim yn teimlo'n gyfforddus'
Wrth roi tystiolaeth i'r pwyllgor, dywedodd Mr Bain bod "nifer yr achosion yn erbyn aelodau yng Nghymru yn fach iawn, yn ffodus iawn" hyd yn oed o ystyried unrhyw dan-adrodd.
O ganlyniad holodd "o ble y byddai'r staff profiadol a fyddai'n gweithredu'r system newydd hon yn dod".
"Oherwydd y nifer fach o gwynion rwy'n amau'n fawr y gallent fod yn staff llawn amser," meddai.
"Rwy'n meddwl yn ei gyfanrwydd ei fod yn syniad drwg".
Heriodd cadeirydd y pwyllgor Hannah Blythyn y sylwadau a dywedodd fod tystiolaeth y maen nhw wedi'i dderbyn yn awgrymu bod yna dan-adrodd "gan nad yw pobl yn teimlo'n gyfforddus gyda'r system sydd yn ei lle ar hyn o bryd".
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd25 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2023
Mae pryderon wedi'u codi o'r blaen am drefn gwyno'r Senedd, gyda rhai staff yn galw am broses gwyno fwy annibynnol.
Mae gan Dŷ'r Cyffredin banel arbenigol annibynnol sy'n edrych ar gwynion o fwlio neu aflonyddu rhywiol.
Yn y Senedd dim ond y comisiynydd safonau Douglas Bain sy'n ymchwilio i gwynion am wleidyddion, gyda phwyllgor safonau'r Senedd yn penderfynu beth i'w wneud â'i ymchwiliad ac os yw'r aelod yn mynd i gael ei gosbi.
Awgrymodd Mr Bain y dylid ystyried defnyddio ymchwilydd allanol â phrofiad mewn achosion ymddygiad rhywiol i gynorthwyo'r comisiynydd.
Er iddo bwysleisio na fyddai dod â rhywun ag arbenigedd yn y materion hyn yn ateb yr holl broblemau.
Trafod yn eu hiaith gyntaf?
Gofynnodd aelod Plaid Cymru, Peredur Owen Griffiths, a fyddai arbenigwyr allanol o ddefnydd "pe bai rhywun eisiau trafod neu roi tystiolaeth ar bwnc sy'n bersonol iawn ac eisiau gwneud hynny yn eu hiaith gyntaf".
Ar hyn o bryd os yw rhywun eisiau rhoi tystiolaeth yn Gymraeg maen nhw'n gallu gwneud hynny drwy gyfieithydd, gan nad yw Mr Bain yn siarad Cymraeg.
Dywedodd y comisiynydd bod hynny'n "anfoddhaol" a dywedodd pe bai nhw'n defnyddio arbenigwyr allanol y gallen nhw ddewis ymchwilydd addas gyda'r "sgiliau a'r profiad cywir" fesul achos.
Mae Ms Blythyn wedi dweud ei bod wedi ymrwymo i "gryfhau'r systemau pwerau yma yn y Senedd i rymuso pobl yn well i ddod ymlaen â phryderon am ymddygiad a materion difrifol ac annerbyniol fel aflonyddu rhywiol".