Ymateb 'anhygoel' i fenter anrhegion Nadolig i bobl unig
- Cyhoeddwyd
Mae un fenyw o dde Ceredigion wedi sefydlu menter newydd er mwyn dosbarthu anrhegion i bobl sy'n unig neu'n dioddef yn ystod y Nadolig.
Dywedodd Ursula Coote, sylfaenydd Y Goeden Garedig yn Llandysul, ei bod yn gobeithio rhoi yn ôl i'r gymuned a rhoi gwên ar wynebau'r bobl sy'n gweld hi'n anodd dros y Nadolig.
Mae Ursula yn nodi pa eitemau sydd eu hangen ar ganghennau coeden Nadolig yn siop Ffab yn Llandysul yn y gobaith y bydd y cyhoedd yn mynd ati i brynu rhai ohonynt.
Mae nifer o bobl yr ardal wedi bod ynghlwm â'r ymgyrch, a'r gobaith yw parhau ac ehangu'r gwaith ar gyfer y Nadolig nesaf.
Gydag Ursula Coote eisoes yn gweithio ym maes gofal, dywedodd ei bod yn awyddus i helpu'r rhai llai ffodus o fewn y gymuned.
Dywedodd iddi fod mewn cyswllt â sawl gwasanaeth o fewn yr ardal er mwyn cael syniadau am anrhegion posib.
Wedi hynny, aeth ati i gofnodi eitemau ar dalebau, a'u gosod ar ganghennau coeden Nadolig.
Mae'r cyhoedd yn dewis un o'r talebau yma ac yn prynu'r hyn sydd ar y daleb - fel sanau neu siocled - ac yn dychwelyd y nwyddau, wedi eu lapio, i'r siop.
Dywedodd mai'r syniad yw rhoi anrheg i rywun sydd yn unig, neu mewn angen o amgylch y Dolig, a bod y gymuned yn barod i’w helpu i wireddu'r nod.
Er ei bod wedi ystyried "aros nes blwyddyn nesaf", dywedodd fod y syniad "ddim wedi gadael fy meddwl i".
"Y pwrpas yw cael anrheg fach iddyn nhw ddiwrnod Dolig sy'n codi calon a rhoi gwên.
"Ma' pobl o'r gymuned yn dewis tags o'r goeden ac yn mynd allan i brynu'r anrheg ac yn dod 'nôl a fe i'r siop erbyn y dyddiad cau."
Ymateb 'anhygoel'
Dywedodd bod ymateb y gymuned wedi bod yn "hollol anhygoel".
"Ar y dechre o'n i'n becso, o'n i ddim yn siŵr pa mor bell i fynd a beth os oedd problem, ond y broblem fi'n cael yw bod tags yn mynd o fewn dwy awr a fi fel 'aah ma' ishe mwy arna i!'
"Ma' pawb wedi bod mor gefnogol, mae wedi mynd yn lot gwell nag o'n i'n disgwyl.
"Ma' fe'n deimlad anhygoel achos fi'n gwybod dyw'r Nadolig ddim i gyd am anrhegion, ond falle i rywun sydd heb ddim, a bywyd bach yn galed, i gael rhywbeth bach, neith e godi gwên a dyna'r holl bwrpas rili."
Un sydd wedi bod yn rhan o’r cynllun yw Leo o Landysul, sy'n gweithio yn y siop.
“Dwi wrth fy modd yn helpu eraill sy’n cael trafferth dros y Nadolig," meddai.
“Roeddwn yn teimlo bod angen rhoi yn ôl, yn arbennig yn ystod y flwyddyn hon - costau byw - a lledaenu llawenydd i bawb."
Dywedodd fod y gymuned yn Llandysul wastad yn gefnogol.
Mae gan Landysul, meddai, "ffordd o ddod at ei gilydd bob amser i helpu eraill mewn angen".
Un arall sydd wedi bod yn rhan o’r fenter yw Kelly.
Dywedodd, er ei bod bellach yn byw yng Nghaerfyrddin “fod wastad pishin o galon person yn y dref lle cafodd ei magu”.
“Mae cymaint o dristwch o gwmpas ar adegau fel y Nadolig a sut mae cymaint o blant yn dioddef amser caled am nifer o resymau.”
Dywedodd fod y fenter hon yn “gyfle gwych i 'neud gwahaniaeth mawr i gwpl o blant ar fore Nadolig.”
“Yr oedd yn sioc i glywed bod cymaint o blant yn gymwys i gymryd rhan.
Y gobaith yw parhau â'r fenter a'i hehangu hyd yn oed ymhellach er mwyn gallu dosbarthu mwy o anrhegion i bobl yr ardal y flwyddyn nesaf.