'Ges i fy mywyd i 'nôl - dydi eraill ddim mor lwcus'

Roedd Amlyn ab Iorwerth yn lwcus bod ei ferch Shona a'i wraig Michelle yno i helpu pan gafodd ataliad ar y galon
- Cyhoeddwyd
Mae Amlyn ab Iorwerth o Bwllheli yn dal i gofio'r noson pan aeth i'r gwely yn teimlo'n "iach fel cneuen" – dim ond iddo gael ataliad ar y galon ychydig eiliadau'n ddiweddarach.
Yn ffodus fe glywodd ei wraig o'n griddfan, a rhuthro i roi triniaeth CPR iddo gan ddefnyddio ei hyfforddiant fel meddyg teulu.
Fe gymerodd hi 20 munud i ambiwlans gyrraedd, ond roedd hynny'n ddigon buan iddyn nhw adfer Amlyn, ei gludo i'r ysbyty – a'i achub.
Nawr mae'r Gwasanaeth Ambiwlans yn newid y ffordd maen nhw'n ymateb i achosion o'r fath – gyda chategori 'piws' newydd o alwadau, a swyddi newydd yn yr ystafelloedd rheoli i flaenoriaethu achosion.
"Mae o'n deimlad o impostor syndrome bron iawn, mod i 'di llwyddo i gael fy mywyd yn ôl," meddai Amlyn. "Dydi eraill ddim mor ffodus."
'Rhai sydd wir angen help'
Dim ond 61 oed oedd Amlyn pan gafodd yr ataliad yn 2013, a doedd "dim gronyn o awgrym" fod ganddo broblem feddygol ar y pryd.
Gydag achosion o'r fath yn gallu digwydd mor annisgwyl, mae dechrau triniaeth mor fuan â phosib yn hollbwysig.
O 1 Gorffennaf, bydd y ffordd mae'r Gwasanaeth Ambiwlans yn ymateb i alwadau o'r fath yn newid.
Mae ganddyn nhw eisoes gategori 'coch' ar gyfer digwyddiadau difrifol, ond nawr bydd categori 'piws' yn cael ei ychwanegu i ddelio ag achosion ataliadau neu resbiradol.

Mae'r ystafelloedd rheoli, fel yr un yma yng Nghwmbrân, yn cynnwys staff mewn sawl rôl gan gynnwys cydlynwyr EMS a llywio clinigol
Dydi'r targed presennol o gyrraedd 65% o alwadau o fewn wyth munud heb gael ei gyrraedd ers pum mlynedd.
Ond er y bydd dal disgwyl iddyn nhw geisio cyrraedd o fewn yr amser hwnnw, byddan nhw nawr yn cael eu mesur hefyd ar y canlyniad i'r claf.
"Mae hwn yn gwahanu'r ddau beth fel bod ni'n gwybod 'mae hwn wir angen help'," meddai Gill Pleming, Pennaeth Gwasanaethau Cydlynu EMS y Gwasanaeth Ambiwlans.
"Mae o hefyd ynglŷn â chael dwylo ar y frest, i ni gael dechrau'r compressions i'r cleifion.
"Y bwriad ydi dangos be' fwy allwn ni 'neud i'r cleifion yna, fel bod nhw'n mynd i'r ysbyty a dod adra o'r ysbyty."

Yn ôl Gill Pleming, mae'r cynllun peilot i newid sut mae'r Gwasanaeth Ambiwlans yn delio â galwadau yn llwyddiant hyd yma
Gyda chymaint o alwadau'n dod i'r ystafell reoli, mae rhai staff bellach yn gwneud gwaith 'llywio clinigol' er mwyn gwella'r modd maen nhw'n sgrinio galwadau a phenderfynu ble i flaenoriaethu ambiwlansys
Mae'r gwasanaeth hefyd yn defnyddio tua 130 o wirfoddolwyr ar lawr gwlad, sy'n gallu cyrraedd digwyddiadau'n gynt na pharafeddygon.
Er nad ydyn nhw wedi'u hyfforddi i roi triniaeth, maen nhw'n gallu adnabod arwyddion ar y claf, mesur pwysau gwaed neu lefelau ocsigen – a helpu'r stafell reoli i benderfynu faint o frys i roi i'r alwad.
"Mae'r clinical navigators yn syniad newydd i ni, ond maen nhw'n neud lot o waith da efo'r galwadau ar y dechrau," meddai Ms Pleming.
"Ac efo'r community first responders, y ffordd 'dan ni'n anfon nhw allan i 'nol y defibrillators sy'n bwysig, hwnna neith achub bywyd ac ailgychwyn y galon."
'Rhai llefydd rhy anghysbell'
Y bwriad dros amser yw gwella cyfraddau goroesi i'r rheiny sy'n dioddef o ataliadau ar y galon neu'r ysgyfaint y tu allan i'r ysbyty.
Ar hyn o bryd mae'r ganran yng Nghymru tua 5% - o'i gymharu â 9% yn yr Alban, 10% yn Lloegr, ac hyd at 25% mewn rhai gwledydd Ewropeaidd.
Pan gafodd Amlyn ei drawiad, roedd yn ffodus bod ei wraig Michelle wedi gallu rhoi CPR iddo tra bod ei ferch – oedd yn 14 oed ar y pryd – yn rhedeg i chwilio am help.
Ond roedd hynny wedi dangos yr elfen o lwc pan mae rhywun yn cael ataliad ar y galon, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
"Roedden ni mor lwcus bod 'na griw ambiwlans yn yr ardal, ac mi 'naeth yr ail un orfod dod o Bermo," meddai Michelle.

Doedd "dim rhybudd" cyn i'r ataliad ar y galon ddigwydd fod rhywbeth o'i le arno, meddai Amlyn
"Oedd o jyst yn dangos, mewn ardal mor anghysbell â 'da ni, pa mor bell allwch chi fod o help."
Mae Gill Pleming yn cydnabod hynny hefyd, gan ddweud mai teulu, ffrindiau neu aelodau yn y gymuned fydd fel arfer yno i ymateb gyntaf, waeth pa mor agos mae'r ambiwlans.
"Mae 'na rai llefydd yng Nghymru wnawn ni fyth gyrraedd mewn wyth munud," meddai.
"Beth sy'n bwysig ydi bod yr help yna yn syth [yn y gymuned] pan mae'r person yn cael yr episode yna.
"Mae o i gyd i fyny i'r gymuned helpu, ac i helpu ni – tîm ydan ni, efo'n gilydd yn trio achub bywydau."
Torri asen i achub bywyd?
Mae Sefydliad Prydeinig y Galon eisoes yn ceisio cynyddu nifer y diffibrilwyr sydd ar gael mewn cymunedau ar draws Cymru.
Ond law yn llaw â hynny, mae hefyd angen sicrhau bod mwy o bobl yn gwybod sut i'w defnyddio, ac yn gallu rhoi triniaeth CPR.
"Bob munud sy'n mynd heibio cyn iddyn nhw gael eu hadfywio, mae'r siawns bod nhw'n goroesi yn lleihau 10%," meddai Rhodri Thomas, pennaeth BHF Cymru.
"Felly ni'n dweud wrth pawb bod e'n sgil hollol bwysig i allu gwneud CPR.
"Hefyd mae'n hollol bwysig bod pobl sydd yn gyfrifol am defibs yn eu cofrestru nhw yn y gymuned, fel bod modd lleoli nhw."
'Mae rhywun di achub fi'
Ategu'r neges honno mae Amlyn, sy'n cydnabod fod gwasanaethau methu bod "drws nesa' i ni'n bob man".
"Mae'n rhaid i ni helpu nhw gystal a fedrwn ni, o ran be allwn ni neud dros ein hunain," meddai.
"Mae rhywun 'di achub fi, falle tro nesa na'i achub rhywun arall.
"Mae pobl yn poeni bod nhw'n mynd i dorri asennau neu beth bynnag [wrth wneud CPR].
"Ond mae torri asen i achub bywyd yn ddim byd, nadi."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.