Gwefr prynu Beibl 'sydd mor brin â dannedd iâr'

Gerald Morgan o Aberystwyth â Beibl prin Oliver Cromwell
Disgrifiad o’r llun,

Gerald Morgan o Aberystwyth â Beibl prin Oliver Cromwell

  • Cyhoeddwyd

Mae ysgolhaig o Aberystwyth wedi dweud bod cael y cyfle i brynu Beibl prin iawn yn un o'r profiadau gorau iddo gael erioed.

Mae Gerald Morgan yn gasglwr llyfrau o fri, ac mae wedi llwyddo i gael gafael ar Feibl Oliver Cromwell.

"Mae Beibl Cymraeg 1654 yn drysor ac yn brin ddychrynllyd - yn wir mor brin â dannedd iâr," meddai Mr Morgan wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg ar Radio Cymru.

Mae'n cael ei adnabod fel Beibl Oliver Cromwell gan mai dyma'r Beibl a gyhoeddwyd ganddo fel rhan o ymgyrch y Piwritaniaid i wella addysg yng Nghymru yn yr 17eg ganrif.

Mae'n debyg bod y Beibl, sydd bellach yn cael lle parchus yng nghartref Gerald ac Enid Morgan yn Aberystwyth, yn arfer bod yn eiddo i deulu ystâd Dolau Cothi yn Sir Gaerfyrddin.

Wedi i gyflwr y plas ddirywio ac i'r sgweiar olaf farw yn yr 20fed ganrif, y gred yw bod y Beibl wedi'i drosglwyddo i ferch y sgweiar yn Llundain.

Mae wynebddalen y Testament Newydd yn nodi mai 1654 yw dyddiad y Beibl
Disgrifiad o’r llun,

Mae wynebddalen y Testament Newydd yn nodi mai 1654 yw dyddiad y Beibl

"Mi ddywedodd hi wrth ffrind i mi bod ganddi lyfr Cymraeg nad yw hi'n gallu ei ddarllen," meddai Mr Morgan.

"Doedd hi ddim am roi e bant ond am ffeindio cartre' - ac fe ffeindiodd gartre' yn y fan hon ac mi dalais bris.

"Mae Beibl Cromwell yn edrych yn debyg o ran print, papur a fformat i Feibl bach 1630 ond roedd y Beibl bach yn cynnwys y Llyfr Gweddi a do'dd y Piwritaniaid ddim yn licio hynny o gwbl."

'Enghraifft hynod'

Cafodd tua 5,000 copi o'r Beibl bach eu hargraffu a tua 6,000 o Feibl Cromwell, ond mae Beibl Cromwell yn llawer iawn yn fwy prin am fod copïau ohono, o bosib, wedi cael eu taflu yn sgil adfer y frenhiniaeth.

"Am fod y Beibl yn gysylltiedig â Cromwell, doedd pobl ddim isio fo ar ôl i Cromwell farw," meddai Mr Morgan.

"Ar ôl i'r Brenin ddychwelyd roedd bod yn berchen copi o Feibl Cromwell yn black mark.

"Does yna ddim wynebddalen i'r Beibl sydd gen i.

"Dwi'n dyfalu fod y dyn a wnaeth ei gadw yn meddwl y byddai'r teitl a'r dyddiad 1654 yn dangos mai Beibl Cromwell oedd o ac mi rwygwyd y dudalen gyntaf a'r bennod gyntaf o Genesis allan fel rhyw fath o fandaliaeth bositif.

"Ond wrth fynd drwy'r llyfr 'dach chi'n dod o hyd i wynebddalen y Testament Newydd sydd â'r dyddiad 1654."

Mae pob un o'r 1500 dalen ag ymyl goch wedi'i gosod â llaw
Disgrifiad o’r llun,

Mae pob un o'r 1,500 dalen ag ymyl goch wedi'i gosod â llaw

Mae'r Apocryffa a chopi o The Historie of the Bible, Pagit - llyfryn o 1627 wedi cael eu hychwanegu at y Beibl, sydd bellach yn Aberystwyth, a phob un o'r 1,500 o dudalennau ag ymyl goch wedi'i gosod â llaw.

"Wi'n credu bod hwn yn enghraifft hynod o Feibl Cromwell ac yn fwy unigryw na dim arall sydd gen i.

"William Pierce siŵr o fod a wnaeth y gwaith mawr o osod yr ymylon coch gan bod ei enw e wedi'i fframio mewn coch.

"Mae gen i nifer o Feiblau - yn eu plith Beibl Parry 1620 sy'n pwyso stôn a bu gen i ar un adeg Destament William Salesbury."

Y Beibl a brynodd Gerald Morgan, yn ddiarwybod, o gasgliad ei hen daid
Disgrifiad o’r llun,

Y Beibl a brynodd Gerald Morgan, yn ddiarwybod, o gasgliad ei hen daid

Roedd hen daid Gerald Morgan hefyd yn gasglwr llyfrau brwd ac un peth arall "gwefreiddiol" sydd wedi digwydd i Mr Morgan yw canfod ei fod wedi prynu un o'r Beiblau yng nghasgliad ei hen daid, Thomas Jones, heb yn wybod iddo.

"Mae gen i gatalog llyfrau fy hen daid - postfeistr oedd o ac roedd ganddo 1,500 o lyfrau, a dyma ganfod un diwrnod fod Beibl Stephen Hughes 1677 yn y catalog.

"Mi brynais i gopi o hwnnw ym Mangor ac wedi iddo ddychwelyd o'r rhwymwyr dyma fi'n sylweddoli mai copi fy hen daid oedd o, oherwydd yn y tudalennau roedd y rhwymwr wedi ffeindio toriad papur newydd gydag ysgrifen fy hen daid arno fo.

"Fel wedodd rhywun, 'ro'dd y Beibl isio dod nôl atot ti'.

"Ond yr hyn sy'n rhoi cymaint o bleser i fi yw bod gen i bellach gopi o Feibl prin 1654 - y Beibl Cymraeg a gyhoeddodd Oliver Cromwell wrth sefydlu 70 o ysgolion gramadeg ar draws Cymru yn yr 17eg ganrif."

Mae modd clywed cyfweliad Gerald Morgan yn llawn yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ar Radio Cymru, ac yna ar BBC Sounds.