Un o sylfaenwyr Cymdeithas yr iaith yn beirniadu'r genhedlaeth iau am 'ddiffyg ysbryd'

"Does na ddim ysbryd chwyldro yn sicr, does na'm ysbryd protestio, does na'm ysbryd ymladd o gwbwl 'di mynd," meddai Geraint Jones
- Cyhoeddwyd
Mae'r ysbryd i frwydro dros yr iaith Gymraeg "yn isel" yn ôl un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Geraint Jones oedd un o sylfaenwyr y mudiad yn 1962, ac yn 1965 daeth yn ysgrifennydd arni.
Wrth siarad ar Dros Ginio ddydd Gwener Ebrill 25, beirniadodd Mr Jones y genhedlaeth bresennol o bobl ifanc am fod "braidd yn farwaidd."
Dywedodd Siôn Dafydd, is-gadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith bod "cenedlaethau newydd yn dod yn rhan ganolog o waith y Gymdeithas o hyd".
'Pethau arwynebol iawn'
Wrth drafod ei gyfrol newydd Brwydr yr Iaith, dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd ei darllen yn ysbrydoli'r genhedlaeth ifanc i "godi eto i'r gad a brwydro dros yr iaith yn lle derbyn popeth yn wasaidd ac yn slafaidd".
Wrth drafod y frwydr bresennol dros yr iaith, dywedodd fod "pethau'n isel, mae'r ysbryd i'w weld yn isel."
"Does 'na ddim ysbryd chwyldro yn sicr, does 'na'm ysbryd protestio, does 'na'm ysbryd ymladd o gwbl 'di mynd," meddai.
"Ambell i orymdaith efo rhyw faneri ac yn y blaen, ond pethau arwynebol iawn ydi'r rheiny."
Ychwanegodd mai'r genhedlaeth hŷn sy'n parhau i frwydro dros yr iaith.
"Mae'n biti garw na fyse mwy yn gafael yng nghyrn yr arad ac yn bwrw iddi dyddiau yma," meddai, "ond 'da ni wrthi, yn dal i drio".

"Mae ysbryd y chwyldro yn fyw ac yn iach," meddai Siôn Dafydd, is-gadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith
Dywedodd Siôn Dafydd, is-gadeirydd grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith: "Wrth i Gymru newid, mae ymgyrchu dros yr iaith yn newid hefyd. Ond mae ysbryd y chwyldro yn fyw ac yn iach!
"Rydyn ni'n ymgyrchu dros ddyfodol lle mae'r Gymraeg yn iaith bob dydd i fwy o bobl, ac rydyn ni'n dal i gael dylanwad sylweddol ar bolisi cyhoeddus yn ein hymgyrchoedd presennol, o addysg Gymraeg i bawb, i gartrefi i bobl yn eu cymunedau, i ddatganoli darlledu.
"Er nad yw'r Gymdeithas yn cael ei ystyried yn fudiad o bobl ifanc yn unig erbyn hyn, mae cenedlaethau newydd yn dod yn rhan ganolog o waith y Gymdeithas o hyd.
"Er enghraifft, mae nifer o aelodau ein grwpiau ymgyrchu fel fi dan 30, gan gynnwys saith aelod o'n Senedd - sef pwyllgor rheoli canolog y mudiad. Mae'r newid parhaus yma yn arweinwyr y mudiad yn golygu ein bod yn fudiad hyblyg sy'n gallu addasu i heriau'r oes."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2016
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2024