Geraint Jones i dderbyn Medal TH Parry-Williams

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Geraint Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Geraint Jones: "Rydw i'n ei hystyried yn fraint aruthrol derbyn y fedal fel gwerthfawrogiad o'm llafur"

Geraint Jones o Drefor fydd yn derbyn Medal Goffa Syr TH Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd eleni.

Mae'r fedal yn cael ei rhoi i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad i'w hardal leol, gyda phwyslais ar weithio gyda phobl ifanc.

Mewn datganiad dywedodd yr Eisteddfod fod cymuned Mr Jones "wedi elwa o'i ymroddiad, ei frwdfrydedd a'i egni ers dros hanner canrif".

"Yn ddi-os, mae ei ddylanwad a'i gefnogaeth ymarferol wedi ysbrydoli cenedlaethau o bobl ifanc ei fro."

Mae Geraint Jones yn adnabyddus yn ei ardal am ei rôl ym mand Seindorf Trefor. Bu'n allweddol wrth ei ailsefydlu ym 1966 ac ym 1969 cafodd ei benodi'n arweinydd.

Mae'n parhau i weithio gyda'r band a bu hefyd yn athro offerynnau pres i blant ar draws Sir Gaernarfon.

Roedd yn gweithio fel athro cynradd, gan ddysgu yn Ysgol Cymerau cyn cael ei benodi'n bennaeth ar Ysgol Trefor, lle bu'n gweithio tan ei ymddeoliad.

Bu hefyd yn gadeirydd ar Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai, a sefydlwyd yn 2006, ac mae'n parhau i fod yn rheolwr gwirfoddol ar y ganolfan ers 15 mlynedd.

Hefyd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith, mae Mr Jones yn parhau i fod yn weithgar yn y maes, gan gydlynu addysg Cylch yr Iaith, ac yn bresennol mae wrthi'n creu cyfrol am bum mlynedd gyntaf y Gymdeithas.

'Braint aruthrol'

Fe ddywedodd: "Rydw i'n ei hystyried yn fraint aruthrol derbyn y fedal fel gwerthfawrogiad o'm llafur. Mae'n fy ngwneud yn dra gostyngedig, coeliwch fi.

"Rydw i'n gobeithio y bydd y pethau y bûm yn ymwneud â hwy yn parhau ac yn ysbrydoli eraill i fyw a brwydro dros gadwraeth ein hiaith a'n hunaniaeth fel Cymry. Diolch o galon a phob dymuniad da i Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd Geraint Jones yn brifathro ar Ysgol Trefor

Ychwanegodd llefarydd ar ran yr Eisteddfod: "Mae'i gymuned wastad wedi cael blaenoriaeth gan Geraint, ac mae sicrhau bod digonedd o weithgareddau a digwyddiadau o bob math yn cael eu cynnal yn y Gymraeg wedi'i yrru dros y blynyddoedd.

"Mae'i frwdfrydedd a'i gyfraniad yn crisialu amcanion Cronfa Goffa Syr TH Parry-Williams, a thrwy hynny, mae'n llawn haeddu derbyn y Fedal er clod eleni."

Bydd Mr Jones yn derbyn y fedal ar lwyfan y Pafiliwn Mawr ar 7 Awst am 14:20.