Pentref yn y gogledd yn ystyried newid enw i 'Pentref Moch'

mochynFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

Mae 'na gynnig i bentref yn Sir y Fflint fabwysiadu'r enw 'Pentref Moch' yn swyddogol.

Mae'r enw gwreiddiol ar Northop Hall yn adlewyrchiad o wreiddiau hanesyddol y pentref o fagu moch.

Mae mapiau cynnar o'r ardal yn awgrymu bod y pentref yn cael ei alw'n Pentref Moch mor bell 'nôl â 1530.

Mae'r Athro Emeritws Hywel Wyn Owen, sy'n awdur ar gyfrol Enwau lleoedd Sir y Fflint ac yn aelod o banel sy'n cynghori Comisiynydd y Gymraeg ar safoni enwau, yn "falch fod Sir y Fflint wedi penderfynu dyrchafu'r enw yn ôl".

Ond mae rhai o drigolion y pentref yn anhapus hefo'r cynnig i fabwysiadu'r enw, yn ôl adroddiadau.

'Ffermio moch'

Dywedodd yr Athro Owen ar raglen Dros Frecwast, BBC Radio Cymru: "Mae cofnodion cyntaf o'r defnydd o Pentre Moch yn gallu cael eu gweld yn 1659 pryd gafodd Plas Llaneurgain ei adeiladu a'i gyfeirio ato fel Northop Hall.

"Cyfagos i Northop Hall roedd fferm fach lle'r oedd moch yn cael eu cadw a'u magu."

Roedd ffermio moch yn waith amlwg iawn o ran amaethyddiaeth yn yr oesoedd canol ac fe dyfodd sawl pentref o ganlyniad i fusnes oedd yn ymwneud â magu moch.

Mae pentrefi eraill yn y gogledd fel Mochdre, wedi cael eu henwi o ganlyniad i ffermydd tebyg oedd yn yr ardal.

"Nid dyma'r unig le i gael ei henwi ar ôl moch. Mae'r enwau Swindon a Swinton yn Lloegr yn tarddu o 'Swine' sydd yn cyfeirio at foch hefyd," meddai.

"Roedd y math yma o waith yn hanfodol i'r diwydiant amaethyddol yn yr oesoedd canol."

Ychwanegodd: "Mae'r enw 'Pentre Moch' wedi parhau i ymddangos dros y pedwar canrif ddiwethaf ac wedi ymddangos yng nghofnodion Ordnance yn 1870 a hyd at y flwyddyn 2000."

'Annog treftadaeth Gymreig y pentref'

Mae arbenigwyr wedi argymell y byddai Pentre Moch yn hanesyddol gywir.

Er gwaethaf adroddiadau am rai'n anhapus hefo'r cynnig - amddiffyn yr ymdrech i ail gyflwyno'r enw mae Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedol, John Gollege.

Dywedodd wrth y BBC bod aelod o'r cyhoedd wedi gofyn am enw Cymraeg i gael ei fabwysiadu i'r pentref.

"Nid yw'r enw'n newid, bydd yr enw yn parhau i fod yn Northop Hall", meddai'r Cynghorydd Gollege.

Ychwanegodd eu bod yn "ceisio arddangos ac annog treftadaeth Gymreig y pentref".

"Mae gan drefi a phentrefi eraill fel Mochdre, Swindon a Swinton gyfeiriadau at foch yn eu henwau."

Mae'r cyngor cymuned rŵan yn trio dod o hyd i gytundeb ar beth allith gael ei ddefnyddio.

Wedyn, mi fydd yn mynd i Gyngor Sir y Fflint i'w gymeradwyo cyn cael ei ddefnyddio'n swyddogol.

Ni fydd arwyddion ffyrdd yn cael eu newid nes bod angen newid yr arwyddion presennol, pwysleisiodd Mr Gollege.

Mae'r sefyllfa yn dilyn pentref arall yn Sir y Fflint, New Brighton, yn mabwysiadu enw Cymraeg, Pentre Cythrel, y llynedd.

Pynciau cysylltiedig