Varteg/Y Farteg: Ffrae dros enw pentref
- Cyhoeddwyd
Mae ffrae wedi codi yng nghymoedd de ddwyrain Cymru dros gynllun i ychwanegu'r enw Cymraeg ar arwyddion pentref.
Mae Comisiynydd y Gymraeg Meri Huws wedi cefnogi ychwanegu'r enw 'Y Farteg' ar arwyddion y pentref sydd wedi arddel yr enw Varteg ers tro.
Dywed tri o gynghorwyr Torfaen bod gwrthwynebiad cryf i'r syniad yn y pentref, gan eu bod yn poeni y byddai ychwanegu'r fersiwn Gymraeg yn eu gwneud yn destun gwawd.
Mae 150 o enwau wedi cael eu casglu ar ddeiseb. Mae ymgynghoriad yn cael ei gynnal yn Nhorfaen ynglŷn â pha enwau y dylid eu defnyddio ar arwyddion, mapiau a dogfennau cyfreithiol.
Yn ôl Swyddfa'r Comisiynydd, mae'r Geiriadur Enwau Lleoedd Cymru yn cefnogi'r enw 'Y Farteg' ac ni ddylid newid hynny "heb reswm da".
'Facebook'
Ond mae'r Cynghorydd Giles Davies yn mynnu bod gwreiddiau Varteg yn yr iaith Gymraeg ac nad oes angen newid.
Dywedodd: "Mae Varteg yn enw Cymraeg mewn gwirionedd ac ni allwn ddeall pam bod pobl am ei newid.
"Fedrwch chi ddychmygu pobl yn tynnu lluniau'r arwydd newydd a'u rhoi ar Facebook. Byddai'n gadael trigolion Varteg yn agored i wawd ac fe fyddai'n costio arian i'w newid.
"Pan aethon ni i ofyn i'r trigolion, roedden nhw 100% yn erbyn hynny."
Un arall sy'n gwrthwynebu yw'r Aelod Seneddol lleol a chyn-ysgrifennydd Cymru, Paul Murphy.
"Rwy'n gefnogol o gamau call i gynorthwyo'r iaith Gymraeg, ond nid dyma'r ffordd i gyflawni hynny - bydd ond yn arwain ar wrthdaro."
'Sillafiad amhur'
Mewn llythyr i Gyngor Torfaen, dywedodd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg ei bod yn cefnogi argymhellion ei ragflaenydd, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, mai 'Y Farteg' ddylai fod y ffurf safonol yn y ddwy iaith.
Mae canllawiau ar gyfer safoni enwau lleoedd yn dweud os mai ond un neu ddwy lythyren o wahaniaeth sydd rhwng y fersiynau Cymraeg a Saesneg yna dylid defnyddio un ffurf yn unig gyda'r flaenoriaeth i'r Gymraeg.
Mae'n dweud hefyd na ddylid defnyddio Varteg fel yr unig ffurf o'r enw gan fod hwn yn "sillafiad amhur o'r enw Cymraeg gwreiddiol".
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Torfaen: "Mae'r ymgynghoriad newydd yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus a gynhaliwyd ym mis Ionawr oedd yn ystyried y 22 o enwau Cymraeg ar draws Torfaen.
"Yn dilyn trafodaethau gyda'r cynghorydd lleol, doedd 'Farteg' ddim yn cael ei ystyried yn addas. Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi argymell 'Y Farteg', ac fe fydd trigolion cymuned Varteg yn cael cyfle i leisio'u barn ar hynny."
Mae Canolfan Ymchwil Enwau Lleoedd Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor yn cynnig 'Y Farteg' fel enw swyddogol y pentref.