Rhoi enw Cymraeg ar bentref New Brighton yn profi'n gythraul o her
- Cyhoeddwyd
Mae ffrae wedi codi dros yr enw Cymraeg ar bentref yn y gogledd yn sgil pryderon am ei gyfieithiad Saesneg.
Mae New Brighton, ger yr Wyddgrug, yn cael ei adnabod yn Gymraeg yn lleol fel Pentre Cythraul - ond nid yw'r enw erioed wedi'i gydnabod yn ffurfiol.
Cafodd ymgyrch ei lansio gan bobl leol yn 2019 i’w gynnwys ar restr swyddogol o enwau gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Ond cafodd pryderon eu codi gan rai pentrefwyr gan fod Pentre Cythraul yn cyfieithu’n fras fel 'The Devil’s Village' yn Saesneg.
Pentre Cythrel yn gyfaddawd?
Y gred ydy fod y pentref wedi ei enwi’n wreiddiol yn Bentre Catherall ar ôl y diwydiannwr Josiah Catherall, a gododd dai cyntaf y pentref yn y 19eg ganrif.
Ond mae Comisiynydd y Gymraeg, Efa Gruffudd Jones am ei adnabod fel Pentre Cythrel yn y dyfodol, yn ôl y Gwasanaeth Adrodd ar Ddemocratiaeth Leol (LDRS).
Dywedodd Claire Homard, prif swyddog addysg ac ieuenctid Cyngor Sir y Fflint, mewn adroddiad fod hyn oherwydd y cynodiadau (connotations) negyddol sy’n gysylltiedig â Phentre Cythraul.
“Mae’r comisiynydd wedi nodi cefnogaeth i’r defnydd o ffurf Gymraeg swyddogol o New Brighton," meddai, "ond mae’n well ganddi Pentre Cythrel, gan fod yr enw yn ddatblygiad llafar o ‘Catherall’ ac yn adlewyrchu sut mae’r enw’n cael ei ynganu’n lleol.
“Byddai defnyddio ‘cythraul’ yn gam pellach i ffwrdd o’r enw llafar gwreiddiol.
“Mae trigolion lleol sy’n defnyddio’r enw Cymraeg Pentre Cythraul yn gefnogol i awgrym y panel o Bentre Cythrel.
“Bydd yr enw Cymraeg Pentre Cythrel hefyd yn mynd i’r afael â’r gwrthwynebiadau a godwyd yn yr ymgynghoriad â chysylltiad negyddol Pentre Cythraul.”
- Cyhoeddwyd6 Hydref
- Cyhoeddwyd5 Hydref
- Cyhoeddwyd5 Hydref
Mae Pentre Cythraul wedi cael ei ddefnyddio’n lleol fel enw Cymraeg ers blynyddoedd lawer.
Mae hyd yn oed wedi’i gynnwys ar drwyddedau gyrru gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA).
Mae hefyd yn ymddangos ar sawl arwydd yn y pentref, gan gynnwys un sydd ynghlwm wrth y ganolfan gymunedol.
Ychwanegodd Ms Homard: “Bydd cydnabod ffurf Gymreig o New Brighton yn ffurfiol yn cefnogi strategaeth hybu’r Gymraeg y cyngor drwy godi amlygrwydd yr iaith.
"Mae hefyd yn sicrhau bod y Gymraeg yn cael ei thrin yn gyfartal â'r Saesneg.
“Ni fyddai mabwysiadu enw Cymraeg yn golygu unrhyw gostau ychwanegol gan fod modd newid arwyddion pan fydd yn cael ei adnewyddu.”
Bydd gofyn i aelodau pwyllgor craffu Sir y Fflint gymeradwyo’r enw Cymraeg newydd ar gyfer New Brighton mewn cyfarfod ddydd Iau.