Arestio tri wedi ymosodiad difrifol ym Mangor

Fe gafodd plismyn eu galw i Ffordd Llandygai toc cyn 20:30 nos Fawrth
- Cyhoeddwyd
Mae tri o bobl ifanc wedi cael eu harestio wedi i berson yn ei arddegau gael anafiadau difrifol ar ôl ymosodiad ym Mangor.
Fe gafodd plismyn eu galw i Ffordd Llandygai toc cyn 20:30 nos Fawrth, 9 Gorffennaf, ac fe gafodd un person ei gludo i'r ysbyty.
Mae'r tri sydd wedi'u harestio yn parhau yn y ddalfa wrth i ymholiadau'r heddlu barhau.
Dywed plismyn nad ydyn nhw yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
O ganlyniad i'r ymosodiad dywed Heddlu'r Gogledd y bydd mwy o blismyn ar ddyletswydd yn ardaloedd Hirael, Maesgeirchen a'r Stryd Fawr.
Apêl am wybodaeth
Dywedodd Arolygydd Ardal Gogledd Gwynedd, Jamie Owens: "Hoffwn ddiolch i aelodau'r gymuned a gysylltodd â'r heddlu nos Fawrth ac am eu cefnogaeth tra roedd y gwasanaethau brys yn bresennol.
"Mae ymchwiliadau i'r ymosodiad yn parhau, a hoffwn sicrhau trigolion nad oes unrhyw risg barhaus i'r cyhoedd yn ehangach.
"Rwy'n cydnabod yr effaith y gall digwyddiadau fel hyn eu cael ar bobl ifanc, eu teuluoedd a'r gymuned ehangach, ac felly rwyf wedi gofyn i fwy o blismyn fod ar ddyletswydd yn yr ardal dros y dyddiau nesaf.
"Rwyf hefyd yn ymwybodol bod lluniau fideo o'r digwyddiad hwn yn cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol, ac rwy'n annog y cyhoedd i osgoi rhannu'r lluniau ar-lein, neu ddyfalu ynghylch natur y digwyddiad, gan y gall hyn rwystro'r ymchwiliad ac achosi gofid diangen i'r bobl dan sylw.
"Rwy'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth a all helpu'r ymchwiliad i gysylltu â'r heddlu."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.