Yr effaith o golli babi
- Cyhoeddwyd
Rhybudd: Gall yr erthygl hon beri gofid, mae'n ymdrin â marwolaethau babanod.
Mae colli plentyn yn brofiad personol ac yn effeithio pawb yn wahanol.
Mae un ymhob pump beichiogrwydd yn diweddu mewn camesgoriad ym Mhrydain gyda'r mwyafrif o'r rheini yn digwydd yn ystod y tri mis cyntaf.
Yn ogystal, mae un ymhob dau gant a hanner o ferched yn cael genedigaeth farw, ac ar gyfartaledd mae wyth o'r rhain yn digwydd yn ddyddiol.
Mewn rhaglen arbennig wnes i gynhyrchu ar gyfer BBC Radio Wales, sef Sweet Child of Mine, bu Heledd Cynwal yn sgwrsio gyda mamau, ymgymerwyr marwolaeth a bydwraig galar yng ngogledd Cymru, er mwyn deall mwy am y sefyllfaoedd truenus hyn.
Stori Sarah
Mae gan Sarah ferch fach deirmlwydd oed o'r enw Anya, ond llynedd bu iddi golli dau fabi bach.
Tra'n sôn am ei hail golled, mae'n trafod cyrraedd y sgan tri mis a chanfod fod curiad calon y babi yn iawn, ac 'roedd hynny yn ollyngdod mawr.
Ond, gan fod y babi yn gorwedd yn lletchwith, methwyd a gwneud y profion arferol, sef profi am syndrome Downs, syndrome Edward's a syndrome Patau.
Felly wedi iddi gyrraedd ugain wythnos, cafodd Sarah sgan arall. Yma, roedd y criw meddygol yn edrych ar yr ymennydd a datblygiad yr organau. Wedi saib hir, dywedwyd wrth Sarah am bopeth oedd o'i le ar y babi bach.
Meddai: "Roedd un aren ar goll, problemau efo'r llinyn bogail (umbilical cord), twll yn y galon, a phob math o bethau eraill. Ond nid oedd modd cadarnhau unrhyw beth gan fod y babi yn gorwedd yn lletchwith."
Yn sgil hyn, anfonwyd Sarah i Ysbyty Maelor Wrecsam am sgan arbenigol.
Cadarnhawyd popeth yno, a rhoi gwybod fod y babi hefo Trisomy18 neu syndrom Edwards. Mae hwn yn gyflwr prin iawn, gyda'r mwyafrif o fabanod yn marw cyn eu geni, neu yn fuan iawn wedyn.
Dywedodd Sarah: "Fe benderfynom ddod â'r beichiogrwydd i ben. Gan mai ond 24 wythnos oedd y babi 'da chi'n gorfod stopio'r galon gynta', cyn y gallwch eni'r babi," meddai.
Roedd hyn yn sioc enfawr iddi, doedd hi 'rioed di meddwl am orfod geni babi bach wedi marw.
Ond mae'n falch iddi wneud hynny, a chael cyfarfod â'i merch fach.
Stori Emma
Mae Emma hefyd wedi cael dau gamesgoriad (miscarriages), a thrwy'r colledion erchyll hyn mae hi wedi sefydlu elusen Robin's Trust, elusen sy'n cefnogi rhieni sydd wedi colli babanod.
Doedd 'na fawr o gefnogaeth ar gael, felly roedd rhaid iddi wneud rhywbeth.
Dywedodd Emma: "Nes i gychwyn Robin's Trust ac mae mor braf cael cefnogi pobl yn ystod y dyddiau tywyll...".
Mae hyn wedi gwneud gwahaniaeth mawr ac yn gyfle i bobl gyfarfod eraill sydd wedi mynd trwy'r un profiad.
Mae cyfarfodydd yn digwydd yn Cleo Lounge, Bangor ar y Dydd Mercher cyntaf o bob mis, rhwng 7 ac 8 yr hwyr.
Mae Emma hefyd wedi bod yn cyd-weithio gyda Manon a Louise o Angladdau Enfys, Bangor.
Roedd Emma wedi clywed am bobl yn gorfod dod â'u babanod bach adra o'r Ysbyty mewn bocsys plastig; roedd hyn tu hwnt o drist, felly roedd hi'n teimlo fod angen meddwl am ffordd well.
Bellach mae bocsys pwrpasol ar gael i rieni, mewn gwahanol feintiau ac wedi cael eu haddurno yn hardd gyda phetalau a dail. Mae pob bocs wedi eu llenwi â phethau fel blancedi bach, ac angylion wedi eu gwneud o ffrogiau priodas.
Bydwraig arbenigol
Bydwraig sy'n arbenigo mewn galar ydi Amy, ac yn y rhaglen bu Amy yn trafod y gwasanaethau sydd ar gael i rieni, boed hynny yn gefnogaeth emosiynol neu ymarferol.
Dywedodd Amy: "Mae'n drist, gydag unryw golled mae tristwch, ond mae colli babi yn fwy trist, gan nad ydym wedi cael amser gyda'r babanod."
Mae cymaint o ferched yn mynd trwy hyn, ac mae'n bwysig ein bod fel cymdeithas yn rhoi llais iddynt a'u cefnogi.
Mae'r rhaglen Sweet Child Of Mine ar gael rwan ar BBC Sounds.
Gall unrhyw un sy'n cael eu heffeithio gysylltu gyda BBC Action Line
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd18 Mawrth
- Cyhoeddwyd4 Awst 2023