Chris Jones yn 'emosiynol' o weld tornado wrth gwrso stormydd yn UDA

Roedd Chris Jones yn un o 15 oedd ar y daith i chwilio am stormydd eithafol yn UDA
- Cyhoeddwyd
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn mochel yn y tŷ pan mae storm o wynt a glaw ar y ffordd, ond mae'r cyflwynydd Chris Jones wedi mynd ar ei wyliau i chwilio amdanyn nhw.
Ac yn ardal Tornado Alley yn UDA roedd o, yng nghanol tywydd garw iawn o wyntoedd cryf, mellt a tharanau a chenllysg anferth.
Roedd y cyfan yn rhan o ddathliad pen-blwydd arbennig ac yn rhywbeth mae wedi bod eisiau ei wneud ers chwarter canrif.
Wrth siarad gyda Cymru Fyw o Texas dywedodd: "Ar y noson gynta' pan nes i weld y tornado ro'n i'n emosiynol, roedd yn rhywbeth i ddathlu fy 60 ac yn gwireddu breuddwyd - ac ar dop y bucket list."

Mae'r stormydd yn codi mewn cyfnod o tua dwyawr ar ddiwedd y prynhawn
Fe ddechreuodd ei ddiddordeb wedi iddo ddechrau cyflwyno'r tywydd ar S4C yn 1991, a hynny ar ôl 12 mlynedd fel gŵr camera llawrydd.
Roedd yn ymddiddori mewn tywydd garw ym Mhrydain a thu hwnt - yn gorwyntoedd, teiffwnau a thornados.
Am flynyddoedd bu'n breuddwydio am fynd draw i'r Unol Daleithiau i ymuno gyda 'stormchasers' - criw sy'n dilyn stormydd enfawr ac yn mynd yn agos iawn atyn nhw. Roedd wedi bwriadu mynd yn 2020 ond fe wnaeth Covid a gwaeledd roi stop ar ei gynlluniau am gyfnod.
Meddai: "Top o'r freuddwyd oedd i weld tornado go iawn felly nes i feddwl reit dwi'n mynd!
"Roedd o wedi ei wthio nôl a nôl a nôl, felly pan nes i droi'n 60 nes i feddwl 'lets do it' neu wna i byth wneud e. Wnaeth fy ngwraig a'r plant ddweud 'jest cer a'i wneud e'!"

Roedd y rhan fwyaf o'r bobl oedd ar y daith gyda Chris yn dod o UDA
Ac felly ddiwedd Ebrill, fe ymunodd gyda chwmni proffesiynol sy'n trefnu teithiau o'r fath yn ardal Texas, Oklahoma, Kansas a Nebraska.
Ond doedd o na gweddill y criw oedd ar y daith ddim yn gwybod ble fydden nhw'n mynd na ble fydden nhw'n cysgu gyda'r nos - roedd y cyfan yn dibynnu ar y tywydd.
Meddai: "Ni'n cael briefing tua wyth y bore ac mae ganddyn nhw'r radar a satellite ar y cyfrifiadur ac wedyn maen nhw'n penderfynu lle mae'r stormydd yn debygol o fod a ni'n mynd i fanno. Ond weithiau mae angen troi rownd a mynd i gyfeiriad arall os mae pethe'n newid."

Mae'r cwmni yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddara i gael amcan ar lwybr y storm - a cheisio cyrraedd yno mewn pryd
Ychwanegodd Chris: "Mae lot o yrru yn y fan, a ni ddim yn siarad am hanner awr lawr y ffordd ond pum awr o deithio.
"Y diwrnod cynta' ro'n i'n meddwl 'is this it?' ond erbyn yr ail, trydydd, pedwerydd diwrnod - ni 'di cael stormydd anhygoel!
"Ni wedi cael cenllysg maint ping-pong. Gydag un storm roedden ni reit yn y storm - reit oddi tani - dwi ddim yn gwybod os oedden ni fod - ond roedd y glaw a'r cenllysg a'r gwynt yn anhygoel. Ro'n i wrth fy modd, yn gwenu o glust i glust.
"Ac mae'r mellt a tharanau 'da ni wedi gweld dim fel unrhyw beth fi wedi gweld o'r blaen. Maen nhw'n mynd ymlaen am oriau."

Difrod y gwyntoedd cryfion, a chenllysg - nid peli ping-pong
Mae'r cyfuniad o'r dirwedd a'r tywydd yn ystod y cyfnod yma o'r flwyddyn yn gwneud stormydd yn gyffredin yno.
Mae'n boeth ac felly mae'r tir yn cynhesu yn ystod y dydd, sy'n arwain at gymylau bygythiol yn datblygu uwchben y tir gwastad, eang. Erbyn diwedd y prynhawn mae'n gallu arwain at stormydd - ac os yn 'lwcus', tornado.

Un o'r tornados welodd Chris: "Pan mae'n digwydd mae mor wyntog mae'n fater o gael y camera allan, clic ac wedyn nôl i'r fan"
Colofn o aer yn troelli'n gyflym ydy tornado gyda gwaelod y golofn yn cyffwrdd y llawr.
Mae tua 30 yn digwydd ym Mhrydain bob blwyddyn, ond rhai gwan a byrhoedlog o'u cymharu gyda'r rhai yn UDA. Dim ond un sydd erioed wedi achosi marwolaeth yng Nghymru, a hynny yn Edwardsville yn y Cymoedd yn 1913 pan gafodd tri o bobl eu lladd.
Mae dros 1,000 tornado yn digwydd yn UDA bob blwyddyn, gyda chanran uchel yn Tornado Alley rhwng Mawrth a Gorffennaf. Mae gwyntoedd y rhai cryfaf yn cyrraedd dros 200mya ac yn gallu creu difrod mawr.

Mae tirwedd 'Tornado Alley' yn un o'r rhesymau pan fod stormydd yn datblygu yno
Un o resymau Chris dros fynd ar ei daith i UDA oedd er mwyn deall mwy am y ffenomen - ac mae'n falch o fod wedi gallu gwneud y daith.
Meddai: "Dyw e ddim jest i weld tornado ond hefyd i ddysgu sut a phryd a pham maen nhw'n digwydd a'r effaith ar gymunedau a'r bobl sy'n byw yn yr ardal ac i ddod i wybod mwy am y peth.
"Mae pobl yn meddwl mod i'n wallgof ac yn deud 'paid â mynd rhy' agos - ond dwi ddim yn nerfus o gwbl. Mae'r cwmni yn broffesiynol iawn, dyma eu gwaith nhw - ac mae hwn ar dop fy rhestr o bethau i'w gwneud ers blynyddoedd a dwi'n ddigon ffodus o fedru ei wneud e."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd3 Mawrth