Yr Ŵyl Gerdd Dant yn gwahardd vapes untro
- Cyhoeddwyd
Ni fydd vapes untro yn cael eu caniatáu yn yr Ŵyl Gerdd Dant ym mis Tachwedd.
Dywedodd John Eifion, trefnydd Gŵyl Aled yn Yr Wyddgrug, wrth raglen Dros Frecwast y bydd "dim vapio" yn yr ŵyl.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwahardd vapes untro o 1 Ebrill. Mae nifer y bobl sy'n defnyddio vapes tafladwy wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf ac mae ffigyrau yn awgrymu fod bron i bum miliwn yn cael eu taflu i'r sbwriel bob wythnos.
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol wedi dweud wrth Dros Frecwast eu bod hwythau yn bwriadu cyflwyno cynnig i Fwrdd Rheoli a Chyngor yr Eisteddfod er mwyn gwahardd vapes un tro.
Pan ofynnwyd i'r Gymdeithas Gerdd Dant a fyddan nhw'n gwahardd vapes untro yng Ngŵyl Aled yn yr Wyddgrug ym mis Tachwedd, dywedodd y trefnydd: "Fydd dim vapio yn yr ŵyl."
"'Dan ni ddim yn gwybod be 'di sgil effeithiau vapio," meddai John Eifion.
"Ond 'sa well bod yn rhagweithiol yn fan hyn a gwneud penderfyniadau yn hytrach na disgwyl a gweld be' fydd y canlyniadau a phenderfynu wedyn.
"Felly, yn yr ŵyl, fydd 'na ddim vapio."
'Gwerthiant wedi dyblu ers agor y Maes'
Ar y maes, fe ddywedodd Angela Karadog o'r Blaid Werdd ei bod yn "erfyn ar yr Eisteddfod i wahardd rhein, yn enwedig single-use vapes".
"Dwi eisiau gweld newid yn lleol, ac mae hyn yn dechrau ar y Maes."
Mae nifer o siopau vapes ar y stryd fawr ym Mhontypridd.
Yn ôl Jarred Jones, sy'n gweithio i gwmni VPZ, "mae gwerthiant disposable vapes wedi dyblu ers cychwyn yr Eisteddfod".
"Ry'n ni'n gweld llawer o bobl sy'n prynu disposables a ma' gyda ni deals er mwyn ceisio symud pobl o disposables i reusables."
Mae ymdrechion i wahardd vapes un-tro yn cael croeso gan elusennau fel Adferiad.
Mae'r elusen yn ymgyrchu a darparu gwasanaethau i bobl sydd wedi'u heffeithio gan iechyd meddwl, defnydd cyffuriau neu alcohol.
"Gwyddom y gall fêps un-tro arwain i gaethiwed," medd llefarydd.
"Ac rydym yn gweld cynnydd sylweddol yn y niferoedd o bobl ifanc sy'n ceisio am gymorth i roi'r gorau i fepio.
"Yn ystod y 12 mis diwethaf, mae dros 50% or atgyfeiriadau wed bod i geisio am gefnogaeth yn ymwneud â fepio."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2022
- Cyhoeddwyd18 Ebrill
- Cyhoeddwyd29 Tachwedd 2023